Agenda item

GORCHMYNION DATBLYGU LLEOL CANOL TREF CAERFYRDDIN A CHANOL TREF RHYDAMAN

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol - Dirprwy Arweinydd (sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Cynllunio) ynghylch cynigion y Cyngor (fel y cytunwyd arnynt yn ei gyfarfod ar 9 Rhagfyr 2020) i gyflwyno Cynlluniau Datblygu Lleol ar gyfer canol tref Caerfyrddin a chanol tref Rhydaman. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y rôl bosibl y gallai Gorchmynion Datblygu Lleol ei chwarae fel rhan o gynigion adfywio ehangach yng nghyd-destun Canol y Dref, yn enwedig o ran Caerfyrddin a Rhydaman wrth gefnogi'r Fenter Lleoedd Llewyrchus a sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll effeithiau economaidd COVID-19. Roedd y cynigion hefyd yn rhoi sylw dyledus i Gynllun Adfer Corfforaethol y Cyngor a Chanllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru – 'Adeiladu Lleoedd Gwell’.

 

Nodwyd bod Gorchymyn Datblygu Lleol yn rhoi cyfle i Awdurdod Cynllunio Lleol symleiddio'r broses gynllunio drwy ddileu'r angen i ddatblygwyr/ymgeiswyr gyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod ac i gyflwyno cynigion datblygu fel cais am Orchymyn Datblygu Lleol yn lle cais cynllunio, gan ganiatáu i awdurdod weithredu'n rhagweithiol mewn ymateb i amgylchiadau lleol penodol yn ei ardal ddaearyddol. Fodd bynnag, pe bai angen cyflwyno cais cynllunio ffurfiol, byddai'n rhaid cyflwyno hwnnw fel ag y mae ar hyn o bryd. Cadarnhawyd ymhellach fod gwaith ar adeiladau rhestredig wedi'i eithrio o'r Gorchmynion. Byddai'r cynnig bellach yn destun cyfnod ymgynghori o 6 wythnos ac, wedi hynny, byddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor i ystyried yr ymatebion a ddaeth i law ac a ddylid bwrw ymlaen i gyflwyno'r Gorchmynion.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y Gorchymyn Datblygu Lleol presennol ar gyfer canol tref Llanelli a pha mor effeithiol y bu hynny wrth adfywio canol y dref.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er bod y Gorchymyn hwnnw'n ymgorffori gwahanol agweddau o gymharu â'r rhai a gynigiwyd ar gyfer Caerfyrddin a Rhydaman (gan gynnwys y gofyniad i baratoi asesiad perygl llifogydd), fod y manteision yn dechrau dod i'r amlwg. Dywedodd fod gwersi a ddysgwyd o’i gyflwyno yn cael eu rhoi ar waith yn y Gorchmynion Datblygu Lleol arfaethedig ar gyfer Caerfyrddin a Rhydaman.

 

·       Cyfeiriwyd at gynigion adfywio'r Cyngor a gwnaed y sylw, er eu bod yn cael eu croesawu, fod un elfen yr oedd angen mynd i'r afael â hi i hyrwyddo adfywio sef lefel yr Ardrethi Busnes a'r rhwystr y gallent ei greu i wella adfywio yn y Sir.

·       Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y datganiad ar dudalen 17, paragraff A1.4 o'r adroddiad - nad oedd rhwymedigaethau cynllunio Adran 106 yn ofynnol o dan Orchymyn Datblygu Lleol, ac a oedd hynny'n rhyddhau datblygwyr o wneud cyfraniadau o'r fath.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio mai pwrpas y Gorchymyn Datblygu Lleol oedd bod yn ysgogiad i annog newid a deinamigrwydd i hyrwyddo datblygiad o fewn y terfynau ac y gallai'r gofyniad am Gytundeb Adran 106 fod yn rhwystr i ddatblygwyr posibl. Fodd bynnag, byddai'r Gorchymyn yn cael ei fonitro'n barhaus i asesu ei effeithiolrwydd, fel sy'n ofynnol o dan ddeddfwriaeth a gellid ei newid o fewn cyfnod o 21-28 diwrnod petai amgylchiadau yn gofyn am hynny.

·       Cyfeiriwyd at yr amser yr oedd y Gorchymyn Datblygu Lleol wedi bod ar waith yng nghanol tref Llanelli ac a ellid darparu enghreifftiau o ddatblygiadau a wnaed ac a oeddent wedi cael eu harwain yn breifat neu'n gyhoeddus.

 

Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol eu bod wedi cael eu harwain yn breifat a'u bod yn cael eu cynorthwyo trwy ddynodi canol y dref yn Ardal Gwella Busnes.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod y cynllun wedi cymryd peth amser i’w roi ar waith yn Llanelli ond hyd yma, roedd 12 cais wedi dod i law a oedd yn bodloni gofynion y Gorchymyn ac roedd gwaith ar ddau gynllun wedi dechrau. Roedd un o'r ceisiadau'n cynnwys newid llawr uchaf eiddo at ddefnydd preswyl. Wrth i ragor o'r ceisiadau hyn gael eu rhoi ar waith byddai'r effaith ar ganol y dref yn dod yn fwy amlwg a byddai nodau'r Gorchymyn yn cael eu cyflawni, sef cyflwyno amgylchedd byw yng nghanol y dref ynghyd ag amrywiaeth o weithgareddau.

 

Nodwyd bod adroddiad monitro yn cael ei baratoi ynghylch blwyddyn gyntaf y Gorchymyn a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor a’r Pwyllgor Craffu maes o law.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch effaith pandemig Covid-19 ar yr economi, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Gorchymyn Datblygu Lleol yn galluogi'r Awdurdod i fod yn fwy ystwyth ac ymatebol i amgylchiadau newidiol a bod yr un peth yn wir yn achos datblygwyr. Er y gallai effaith Covid-19 bara am gyfnod sylweddol, roedd angen i ymagwedd yr Awdurdod at adfywio fod yn fwy hyblyg wrth i'w ddealltwriaeth o amgylchiadau newidiol ddatblygu.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch effaith bosibl y Gorchymyn Datblygu Lleol ar adeiladau hanesyddol, cadarnhawyd ei fod yn berthnasol i drefniadau mewnol yn unig ac na fyddai'r ffasadau allanol yn newid.

·       Cadarnhawyd y byddai cyfnod cychwynnol y Gorchmynion Datblygu Lleol ar gyfer canol tref Caerfyrddin a chanol tref Rhydaman yn para am 18 mis er mwyn cyd-fynd â’r amserlen o ran mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig. Fodd bynnag, gellir lleihau neu ymestyn y cyfnod hwnnw yn ôl y cynnydd a wnaed o ran mabwysiadu'r Cynllun yn 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad

Dogfennau ategol: