Cofnodion:
Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Amgylcheddol sylw i'r canlynol:-
· Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol.
· Glanhau Adeiladau (gan gynnwys Ysgolion, lle bo hynny'n berthnasol)
· Trafnidiaeth a Gwasanaethau Stryd gan gynnwys Priffyrdd, Goleuadau Stryd, Pontydd, Rheoli Traffig, Gwasanaethau Parcio, Llwybrau Beicio a Hawliau Tramwy
Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd sylw i'r canlynol:-
· Gorfodi Materion Amgylcheddol gan gynnwys Sbwriel, Baw C?n,
Cerbydau wedi eu gadael ac ati
· Gorfodi Rheolau Cynllunio
· Bioamrywiaeth
Roedd yr adroddiad yn disgrifio sut roedd yr Awdurdod wedi ymdopi yn ystod y pandemig ac yn rhoi sylw i'r blaenoriaethau gwasanaeth yn y dyfodol.
Dywedodd yr Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol fod y pandemig wedi effeithio'n sylweddol ar gyllidebau'r Adran, o ran costau ychwanegol a cholli incwm. Roedd rhai o'r costau wedi'u talu gan grantiau Llywodraeth Cymru ond roedd llawer o feysydd nas ariennir o hyd, a byddai hynny'n effeithio ar gyllideb y Cyngor yn y dyfodol.
Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad. Dyma'r prif faterion:
· Gwnaed sylw ar y perfformiad o ran ailgylchu, yr oeddid yn rhagweld y byddai'n uwch na'r targed statudol o 64%. Gofynnwyd sut yr oeddid yn manteisio ar y sefyllfa a pha gynlluniau oedd ar waith i gynnal y cyfraddau ailgylchu? Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod llawer o gartrefi, yn ystod y cyfyngiadau symud, wedi achub ar y cyfle i gael cliriad mas, a diolchodd i bobl y sir am ddefnyddio'r darpariaethau ailgylchu. Byddai'r gwaith gyda'r tîm marchnata a'r cyfryngau yn parhau er mwyn helpu i roi rhagor o sylw i ailgylchu ac i roi gwybod i drigolion pa wasanaethau ailgylchu oedd ar gael. Y gobaith oedd cyrraedd targed perfformiad o 70% erbyn 2024/2025.
· Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â chasglu gwastraff o ymyl y ffordd, ac a oedd unrhyw ddarpariaeth ychwanegol yn ystod y pandemig, esboniodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, er nad oedd y Cyngor bellach yn dosbarthu bagiau glas i aelwydydd unigol, fod nifer y bagiau glas oedd gan stocwyr penodol wedi cynyddu, ac roedd rhestr o'r stocwyr ar wefan y Cyngor. Yn ogystal, roedd y gwaith blynyddol o ddosbarthu bagiau glas a bagiau bwyd wedi dechrau ac roedd yn debygol o gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2021.
· Cyfeiriwyd at y system archebu ar-lein ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (HWRC). Gofynnwyd a fyddai hyn yn parhau i'r dyfodol a beth oedd y costau? Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod angen adnoddau staffio ychwanegol ar y safleoedd HWRC ar gyfer y system archebu ar-lein newydd, a oedd yn haws i'w rheoli, er mwyn sicrhau y cydymffurfid yn effeithiol â'r cyfyngiadau Covid-19, ynghyd â'r rheolaeth angenrheidiol wrth y fynedfa oedd yn gysylltiedig â system archebu ar-lein.
· O ganlyniad i gau'r Canolfannau HWRC ar ddechrau'r pandemig, gofynnwyd a oedd unrhyw dystiolaeth o gynnydd mewn tipio anghyfreithlon? Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd fod tipio anghyfreithlon, yn gyffredinol, ar gynnydd yn anffodus ac wedi bod ers peth amser. Roedd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel yn cytuno, ac ychwanegodd mai pobl yn cael cliriad mas yn ystod y cyfyngiadau symud oedd yn gyfrifol, mwy na thebyg, am y cynnydd cyffredinol sylweddol mewn tipio anghyfreithlon dros fisoedd yr haf.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch materion gorfodi yn ystod y pandemig, pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd mai'r flaenoriaeth oedd diogelwch y staff, ac felly dim ond achosion gorfodi â blaenoriaeth uchel, lle'r oedd perygl i fywyd neu'r amgylchedd, oedd wedi mynd rhagddynt yn ôl yr arfer ers y cyfyngiadau symud ym mis Mawrth. Roedd yr ymchwiliadau i achosion â blaenoriaeth ganolig ac isel yn ôl y Protocol Gorfodi wedi eu hatal dros dro i raddau helaeth, ond roedd gwaith ar y rhain wedi ail-ddechrau'n raddol ddiwedd mis Awst. At hynny, dywedwyd ei bod yn ymddangos bod llawer o waith anghyfreithlon o bosibl wedi digwydd yn ystod y pandemig, a oedd wedi rhoi straen sylweddol ar yr Is-adran Gynllunio ers i'r gwaith dilynol ar yr achosion posibl o dorri'r rheolau ddechrau. Wrth gydnabod y byddai llawer o'r achosion yn gymhleth a byddai angen dull amlddisgyblaethol hefyd er mwyn unioni'r sefyllfa, dywedodd y Pennaeth Cynllunio y byddai angen staff ychwanegol a bod hynny'n cael ei ystyried ar hyn o bryd.
Wrth gydnabod ymroddiad, ymrwymiad, hyblygrwydd a chadernid personol y staff, roedd y Pwyllgor am ganmol doniau a chyfraniad amhrisiadwy'r staff o ran parhau i ddarparu gwasanaeth i'r Cymunedau yn Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: