Agenda item

GORCHMYNION DATBLYGU LLEOL CANOL TREF CAERFYRDDIN A CHANOL TREF RHYDAMAN

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 2Tachwedd 2020 (gweler Cofnod 6) wedi ystyried adroddiad ynghylch y cynigion i gyflwyno Gorchmynion Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Caerfyrddin a Chanol Tref Rhydaman. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y rôl bosibl y gallai Gorchmynion Datblygu Lleol ei chwarae fel rhan o gynigion adfywio ehangach yng nghyd-destun Canol y Dref, yn enwedig o ran Caerfyrddin a Rhydaman wrth gefnogi'r Fenter Lleoedd Llewyrchus a sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll effeithiau economaidd COVID-19. Roedd y cynigion hefyd yn rhoi sylw dyledus i Gynllun Adfer Corfforaethol y Cyngor a Chanllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru – 'Adeiladu Lleoedd Gwell’.

 

Nodwyd bod Gorchymyn Datblygu Lleol yn rhoi cyfle i Awdurdod Cynllunio Lleol symleiddio'r broses gynllunio drwy ddileu'r angen i ddatblygwyr/ymgeiswyr gyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod ac i gyflwyno cynigion datblygu fel cais am Orchymyn Datblygu Lleol yn lle, gan ganiatáu i awdurdod weithredu'n rhagweithiol mewn ymateb i amgylchiadau lleol penodol yn ei ardal ddaearyddol. Fodd bynnag, pe bai angen cais cynllunio ffurfiol, byddai'n rhaid cyflwyno hynny fel y gwneir ar hyn o bryd. Cadarnhawyd ymhellach fod gwaith ar adeiladau rhestredig wedi'i eithrio o'r Gorchmynion.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

6.1

Bod cwmpas y Gorchymyn Datblygu Lleol arfaethedig yn cael ei gymeradwyo i'w ystyried drwy gyfrwng y broses adrodd ddemocrataidd;

6.2

Bod y Gorchmynion Datblygu Lleol yn cael eu paratoi ar gyfer y trefi perthnasol gan gynnwys cynnal ymgynghoriadau ffurfiol fel y bo'n briodol ac adrodd ymhellach ar eu cwmpas, eu cynnwys a'u graddau daearyddol arfaethedig;

6.3

Cymeradwyo cyhoeddi'r Gorchymyn Datblygu Lleol terfynol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am o leiaf 6;

6.4

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion baratoi tystiolaeth i gefnogi'r Gorchymyn Datblygu Lleol;

6.5

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud mân newidiadau golygyddol a ffeithiol;

6.6

Diwygio'r cynllun ar gyfer Gorchymyn Datblygu Lleol Canol Tref Caerfyrddin i gynnwys Heol Awst, Caerfyrddin yn ei chyfanrwydd.

 

Dogfennau ategol: