Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K. Madge a B.A.L. Roberts wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31ain Awst 2020, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £898k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai -£155k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2020/21.  Roedd £100K o'r swm hwn wedi'i drosglwyddo i brosiect Canolfan Hamdden Caerfyrddin yn yr Adran Cymunedau.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad yn ystyried yr arian ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad. Dyma'r prif faterion:

·         Mewn ymateb i gais am ragor o wybodaeth am y £100K i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin, cadarnhawyd mai cyllid prosiect a danwariwyd oedd hwn, a fyddai'n cael ei drosglwyddo'n ôl i Ofal Cymdeithasol.

·         Mynegwyd pryder ynghylch y swyddi gwag yn y tîm Therapi Galwedigaethol.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod wastad oedi o 2 – 3 mis oherwydd y broses recriwtio, ac nad oedd oedi wedi bod o ran recriwtio o achos cyfyngiadau ariannol.

·         Gofynnwyd a oedd y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn ateb y galw cynyddol oedd ar wasanaethau.  Dywedwyd bod hawliadau chwarterol wedi'u cyflwyno ar gyfer gwariant cysylltiedig â Covid a bod y rhan fwyaf o'r hawliadau wedi'u talu hyd yn hyn.  Nodwyd mai dim ond £100K (a gadarnhawyd wedyn fel £184k) oedd wedi'i ystyried yn anghymwys hyd yn hyn, a bod unrhyw ymholiadau ynghylch cymhwysedd yn cael eu trafod â Llywodraeth Cymru yn rheolaidd.

·         Mewn ymateb i bryderon yngl?n ag effaith Covid ar iechyd meddwl yn y tymor hir, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod yn ymwybodol iawn o'r effaith a bod adroddiad i'w gyflwyno i'r Tîm Rheoli Corfforaethol cyn bo hir. 

·         Gofynnwyd a fyddai'r Gwasanaethau Gofal Dydd yn ailagor yn gynt na'r disgwyl bellach, gan fod brechlyn ar fin cael ei gyflwyno. Dywedwyd na fyddai'r broses o roi'r brechlyn mor syml â'r hyn oedd yn cael ei gyfleu gan y cyfryngau, a bod nifer o ffactorau i'w hystyried. Fodd bynnag, cytunwyd y byddai ailagor y Canolfannau Dydd yn flaenoriaeth pe bai'r brechlyn priodol ar gael.  Cadarnhawyd hefyd y byddai adroddiad y Canolfannau Dydd yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ym mis Ionawr a byddai'r Pwyllgor yn gallu craffu arno.

·         Mynegwyd pryder ynghylch sut roedd yr achosion diweddar o Covid wedi cael eu rheoli yn Ysbyty Dyffryn Aman.  Rhoddwyd sicrwydd fod y sefyllfa'n cael ei rheoli a bod y gweithdrefnau cywir ar gyfer rheoli heintiau a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu dilyn.   

·         Mewn ymateb i gwestiynau am y rhaglen frechu, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor ei bod hi'n gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac yn rhan o'r broses ynghylch sut y byddai'r brechlyn yn cael ei gyflwyno a'i flaenoriaethu.

·         Codwyd mater ynghylch lleoedd gwag mewn canolfannau tai gwarchod. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd mai mater i'r Adran Cymunedau oedd hwn, ond roedd trafodaethau wedi'u cynnal yngl?n â'r mater a byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu.

·         Gofynnwyd a oedd cost uchel staff asiantaeth mewn cartrefi gofal wedi gwella, ac, os felly, sut yr oedd hyn wedi'i gyflawni.  Dywedwyd bod taliadau i asiantaethau wedi lleihau yn y flwyddyn ariannol hon.  Credid mai'r rheswm am hyn oedd y gostyngiad mewn absenoldeb salwch ymysg y staff a'r cynnydd mewn oriau gwaith.  Nodwyd hefyd fod yr Awdurdod wedi ail-leoli llawer o'i staff i wasanaethau fel Cartrefi Gofal.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: