Cofnodion:
[SYLWER: Roedd y Cynghorydd D. Price wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].
Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi datganiad sefyllfa ynghylch effaith pandemig Covid-19 ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion gan gynnwys Gwasanaethau Integredig a Chomisiynu.
Roedd yr adroddiad yn disgrifio sut y rheolodd yr Awdurdod gam cyntaf y pandemig, y gwersi a ddysgwyd, a sut roedd y gwersi hynny'n dylanwadu ar flaenoriaethau gwasanaeth y dyfodol.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd mai'r flaenoriaeth oedd parhau i roi cymorth i'r rhai oedd yn derbyn gwasanaethau a chymorth gan yr Awdurdod. Roedd cynnal ymweliadau â Chartrefi Gofal wedi bod yn heriol, ond roedd y polisi yn sicrhau bod hawl gan deuluoedd ymweld i fod yno i'w hanwyliaid ar ddiwedd eu hoes. Roedd atebion digidol hefyd yn helpu i sicrhau bod pobl dal yn gallu cyfathrebu.
Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad. Dyma'r prif faterion:
· Mewn ymateb i sylw ar y defnydd o ofal annibynnol a gomisiynwyd, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod rôl gan ddarpariaeth fewnol a darpariaeth sector preifat, a'i bod yn bwysig cael y cydbwysedd cywir.
· Gofynnwyd a oedd yr Awdurdod yn ystyried profion diagnostig cyflym a fyddai'n golygu y gellid cynnal rhagor o ymweliadau â chartrefi gofal. Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru yn cynnig treialu'r dull hwn gyda thri Awdurdod Lleol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd y byddai ymweliadau'n dechrau eto yr wythnos nesaf mewn cartrefi oedd heb yr haint, ac y byddent yn cael eu trefnu mewn modd oedd yn sicrhau rheolaeth gadarn ar heintiau.
· Gofynnwyd am sicrwydd bod digon o PPE ar gael. Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod cyflenwadau digonol ar gael.
· Gofynnwyd i'r swyddogion faint oedd yr Awdurdod yn ei ddysgu gan ranbarthau eraill. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn cadw golwg ar yr hyn oedd yn digwydd yn Lloegr a rhannau eraill o Gymru. Roedd trafod cyson rhwng Penaethiaid Gwasanaeth i gymharu syniadau a rhannu'r gwersi a ddysgwyd.
· Dywedwyd er ein bod wedi gorfod addasu a gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg yn ystod y pandemig, nad oedd hwn yn opsiwn addas i bawb. Dywedodd swyddogion wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod wrthi'n gweithio gyda Chymunedau Digidol Cymru a phartneriaid yn y trydydd sector i wneud adolygiad strategol o atebion digidol i gefnogi pawb. Roedd cyllid hefyd wedi bod ar gael drwy gais cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig. Er bod technoleg wedi bod yn ddefnyddiol, nodwyd hefyd bod dal angen cynnal asesiadau wyneb yn wyneb mewn llawer o achosion.
· Mynegwyd pryder ynghylch effaith gweithio drwy'r pandemig ar staff rheng flaen. Sicrhawyd y Pwyllgor fod lles staff yn cael ei ystyried yn rhywbeth pwysig ac roedd cydnabyddiaeth pa mor anodd oedd pethau wedi bod. Roedd yr adran wedi bod yn gweithio gydag Iechyd Galwedigaethol i ddatblygu dulliau cymorth, ac roedd gwahanol atebion wedi'u rhoi ar waith a amrywiai o drafod pryderon ar 'teams' i gynnal picnics a chwisiau rhithwir. Roedd cyfarfodydd goruchwylio rheolaidd yn cael eu cynnal ac roedd rheolwyr hefyd yn annog staff i gymryd eu gwyliau blynyddol.
· Gofynnwyd am sicrwydd nad oedd Covid ar neb oedd yn cael ei ryddhau o'r ysbyty i gartref gofal. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod yn rhaid i'r holl breswylwyr oedd yn mynd i mewn i gartrefi gofal fod wedi cael prawf negyddol. Yr unig eithriadau fyddai os oedd achos o Covid yn y cartref eisoes ac os oedd Covid ar y preswylydd yn barod pan aeth i'r ysbyty. Nodwyd hefyd mai dim ond sicrwydd ar un lefel roedd prawf yn ei roi, a bod defnydd da o PPE a gweithdrefnau rheoli heintiau effeithiol hefyd yn angenrheidiol. Yn ogystal, ar ôl cael ei dderbyn i gartref, roedd pob preswylydd newydd yn hunanynysu am 14 diwrnod er mwyn lleihau i'r graddau mwyaf y posibilrwydd o drosglwyddo'r feirws.
· Gofynnwyd a oedd gweithwyr cartrefi gofal wedi derbyn y taliad o £500 gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhawyd bod bron pob gofalwr mewnol wedi'i dalu a bod 99% o'r taliadau wedi'u gwneud i asiantaethau gofal. Tynnodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel sylw at y ffaith bod rhai o'r staff wedi rhoi eu taliadau i fanciau bwyd.
Mynegodd aelodau'r Pwyllgor eu diolch i'r holl swyddogion a staff rheng flaen am eu gwaith ac ymroddiad rhagorol yn ystod y pandemig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: