Agenda item

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Cofnodion:

 

 

 

 

 

 

 

·             Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant ar ran yr Aelodau Etholedig a'r Uwch-swyddogion i'r Cynghorydd Ann Davies a'i theulu yn dilyn marwolaeth ei mam-yng-nghyfraith ar ddiwedd mis Hydref;

 

·             Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant ar ran yr Aelodau Etholedig a'r Uwch-swyddogion i deulu'r cyn-Gynghorydd Lynne Davies. Bu Lynne yn aelod o Gyngor Sir Caerfyrddin tan 1999, a bu'n gwasanaethu ward Penygroes;

 

·             Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi cael y pleser o gynrychioli'r Awdurdod ddydd Sul yng Ngwasanaeth Dydd y Cofio yn Neuadd y Dref, Llanelli. Ychwanegodd fod y digwyddiadau blynyddol hyn yn bwysig i ni gofio'r rhai a roddodd eu bywydau ym mhob rhyfel, ac er y cynhaliwyd y gwasanaeth ar raddfa lawer llai, bu'n anrhydedd bod yn bresennol ar ran y Cyngor. 

 

·             Atgoffodd y Cadeirydd y Cyngor o nodau Ymgyrch y Rhuban Gwyn, a fyddai'n cael ei chydnabod ar 25 Tachwedd 2020, ac anogodd aelodau i arwyddo'r rhuban a gwneud yr addewid "i beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod". Byddai'r Cyngor yn codi baner y Rhuban Gwyn yn Neuadd y Sir ac yn Neuadd y Dref, Llanelli a Neuadd y Dref, Rhydaman.  

·             Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Amanda Fox a enillodd wobr gymunedol Peter Rees fel cydnabyddiaeth o'i hymdrechion i helpu cymuned Porth Tywyn yn ystod Pandemig Covid 19;

 

·             Diolchodd y Cynghorydd Dot Jones i'r Frigâd Dân, y Gwasanaeth Ambiwlans, yr Heddlu a'r gymuned leol am eu cymorth ar ôl i d? yn y Tymbl gael ei daro gan fellten, gan ddinistrio y tu mewn i'r eiddo. Roedd D?r Cymru a Western Power hefyd wedi gweithio'n gyflym i adfer cyfleustodau yr effeithiwyd arnynt. Ychwanegodd fod preswylwyr yr eiddo wedi rhoi'r arian a godwyd yn lleol o ganlyniad i'r digwyddiad i'r orsaf Dân ac Ambiwlans leol a oedd wedi cytuno yn dilyn hynny i brynu diffibriliwr ar gyfer yr ardal. Diolchodd y Cynghorydd Jones hefyd i swyddogion adain Tai y Cyngor am eu cymorth.

 

·             Bu i'r Cynghorydd Emlyn Dole, ar ran y Cynghorydd Liam Bowen, longyfarch Jonny Clayton, un o weithwyr y cyngor ac un o drigolion Pontyberem, ar ei lwyddiant diweddar yn ennill Cwpan y Byd Dartiau;

 

·             Gofynnodd y Cynghorydd Mair Stephens i'r Aelodau a allent gefnogi'r apêl teganau flynyddol fel bod plant llai ffodus yn gallu mwynhau agor anrhegion fore Nadolig;

 

·             Dymunodd y Cadeirydd ben-blwydd hapus i Mrs. Nan Percival, Glan yr Ystrad, Glanyfferi yn 100 oed;

 

·             Gwahoddodd y Cadeirydd yr Arweinydd i annerch y Cyngor gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa Covid-19 yn y Sir. Dywedodd y Cynghorydd Dole ei fod yn croesawu'r newyddion bod cyfradd yr haint yn gostwng yn araf a bod y Llywodraeth wedi ymestyn y cynllun ffyrlo i fis Mawrth 2021. Dywedwyd wrth y Cyngor bod grantiau cymorth busnes yn parhau i gael eu darparu yn Sir Gaerfyrddin a bod 4086 o daliadau wedi'u gwneud hyd yma, sef cyfanswm o dros £46m. Hefyd, derbyniwyd dros 2000 o geisiadau am grant ar gyfer Grant Ardrethi Annomestig y Cyfyngiadau Symud a dyfarnwyd £1.7m. Ychwanegodd, er y croesawir y newyddion diweddar am ddarganfod brechlyn posibl, ei fod yn dal i annog pobl i fod yn ofalus fel nad oedd yr holl waith caled a'r aberth dros yr wythnosau diwethaf yn ofer. Canmolodd waith aelodau a staff y Cyngor wrth helpu i gadw trigolion Sir Gaerfyrddin mor ddiogel â phosibl;

 

·             Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n galw ar y Cyngor i gael dwy funud o dawelwch am 11.00am i gofio'r rhai a oedd wedi colli eu bywyd mewn rhyfel.