Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ALUN LENNY I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Yn ddiweddar, fe nododd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod bron I 700,000 o bobl wedi canfod eu hunain mas o waith rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf oherwydd Covid-19. Erbyn mis Gorffennaf fe wnaeth diweithdra godi'n uwch na 4%. Gyda'r cynllun furlough yn dod i ben ar ddiwedd y mis yma (Hydref 31) mae'n anochel y bydd diweithdra yn cynyddu eto. Ni allwn guddio rhag y gaeaf llwm sydd o'n blaenau. Felly, gyda hyn mewn golwg, a yw'r Awdurdod hwn yn hyderus bod digon o gymorth lles ar gael i'w drigolion, a bod y gefnogaeth yna ar gael yn rhwydd?”

Cofnodion:

“Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ddiweddar fod bron i 700,000 o bobl mewn sefyllfa lle roeddent yn ddi-waith rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf oherwydd Covid-19.    Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd diweithdra wedi cynyddu i fwy na 4%. Gan fod y cynllun ffyrlo yn dod i ben ar ddiwedd y mis hwn (31 Hydref), mae'n anochel y bydd diweithdra'n cynyddu eto. Rhaid derbyn ein bod yn wynebu gaeaf anodd.     Felly, o gofio hyn, a yw'r Awdurdod hwn yn hyderus bod digon o gymorth lles yn bod i'w drigolion a bod y cymorth hwn ar gael yn hwylus?”     

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

A allaf i ddiolch yn gyntaf i'r Cynghorydd Lenny am ei gwestiwn; cwestiwn rwy'n ei groesawu ar yr adeg dyngedfennol hon. Mae'n gwbl berthnasol i'r hyn rydym wedi bod yn ei wneud, yn ogystal â'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud, o ran ein rhaglen adfer ar gyfer Covid-19.  Mae'r rhaglen adfer honno yn ymateb i realiti difrifol yr effaith mae Covid-19 wedi ei chael, ac yn parhau i'w chael, ar ein heconomi a'n cymunedau, ynghyd â'r problemau bydd ein pobl yn Sir Gaerfyrddin yn eu hwynebu o ganlyniad. Rydym yn paratoi cynllun Trechu Tlodi ar hyn o bryd. Bydd llawer o'r cynllun hwnnw'n ymwneud â chymorth lles wrth gwrs. Yn ogystal â bod yn ddadansoddiad o anghenion fe fydd yn gynllun gweithredu – beth allwn ni ei wneud i wella'r sefyllfa a wynebir gan bobl, ynghyd â pha gamau mae angen i ni eu cymryd er mwyn gwneud cynnydd a chyfrannu at ddatrys y problemau gwirioneddol fydd gan gynifer o bobl.

 

Fe wyddoch mai un o fy mhenderfyniadau cyntaf fel Arweinydd oedd gwrthdroi penderfyniad fy rhagflaenydd i ddychwelyd y ddesg flaen dros dro yng nghanol tref Llanelli i D? Elwyn. Penderfynais y dylai aros yng nghanol y dref, a sefydlwyd yr Hwb yn Stryd Vaughan, gan roi cyngor a chymorth i bobl ar amryw o'n gwasanaethau Cyngor, gan gynnwys desg arian parod, cymorth tai, rhaglenni ymgysylltu â chyflogaeth, a chyfleusterau TG i helpu pobl sy'n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth, addysg, prentisiaethau a gwirfoddoli. Daw cannoedd o bobl drwy'r drysau bob wythnos gan helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref. Ers hynny mae cyfleuster Hwb tebyg wedi'i sefydlu yng nghanol tref Rhydaman ac yn ein swyddfeydd yn Heol Spilman yng Nghaerfyrddin.

 

Mae nifer o gynlluniau cymorth cyflogadwyedd yn cael eu darparu yn Sir Gaerfyrddin, ac mae rhai ohonynt yn cael eu darparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, gydag eraill yn cael eu cydgysylltu gan Gyrfa Cymru o dan borth Cymru'n Gweithio.  Dau o'r cynlluniau rydym yn eu darparu yw Gweithffyrdd + a Chymunedau am Waith.

 

Nod Gweithffyrdd + yw gwella cyflogadwyedd Pobl Economaidd Anweithgar a Phobl Ddi-waith yn y Tymor Hir/Tymor Byr sy'n 25 oed a h?n ac sy'n wynebu rhwystrau cymhleth o ran cyflogaeth.  Mae Tîm Gweithffyrdd + yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin gyfan ac wedi'i leoli yn y Canolfannau Hwb yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.  Bydd pob cyfranogwr yn cael cymorth drwy ddarpariaeth fentora bersonol, a chymorth drwy Swyddogion Cyswllt â Chyflogwyr i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth sy'n cyd-fynd â thueddiadau'r farchnad lafur.

 

Mae Cymunedau am Waith yn canolbwyntio ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ac yn darparu cymorth 1 i 1, arweiniad a hyfforddiant. Mae'r rhaglen yn gallu cynnig cymorth yn y gymuned, ariannu hyfforddiant heb rwystrau i helpu pobl i gael hyfforddiant neu waith, ac yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau partner allweddol.    Mae'r tîm yn gweithio ar sail allgymorth ar draws cymunedau, gyda safleoedd yn Hwb Llanelli a Hwb Rhydaman.

 

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn darparu cyngor arbenigol am gyflogaeth a gwasanaeth mentora dwys i bobl sydd naill ai mewn tlodi neu mewn perygl o fod mewn tlodi nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cymunedau am Waith, PaCE neu raglenni rhanbarthol eraill a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, ac sydd â rhwystrau cymhleth i gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.

 

Creu cyfleoedd a fydd yn gwella sgiliau unigolion drwy gymorth hyfforddiant galwedigaethol a sgiliau sylfaenol, sesiynau blas ar waith, lleoliadau gwaith a chefnogaeth i sicrhau swyddi a hyfforddiant cynaliadwy.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn bwriadu cymryd rhan yn Rhaglen Lleoliadau Gwaith Kickstart - Fel rhan o gynllun y llywodraeth i gynyddu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc, crëwyd Cynllun newydd gwerth £2 biliwn Kickstart i gefnogi cannoedd o filoedd o leoliadau gwaith newydd â chymhorthdal llawn i bobl ifanc ledled y wlad.

 

Mae'r lleoliadau 6 mis yn agored i bobl ifanc 16-24 oed sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn y tymor hir. Bydd y rhain ar gael ar draws ystod o wahanol sectorau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae'r lleoliadau gwaith cyntaf yn debygol o fod ar gael o fis Tachwedd ymlaen.  Bydd yn rhaid i sefydliadau a busnesau sy'n cofrestru ar gyfer y rhaglen hon ymrwymo i 30 o swyddi newydd o leiaf.  Nid oes llawer o fusnesau yn Sir Gaerfyrddin sy'n ddigon o faint i allu ymrwymo i hynny.  Felly mae'r Cyngor yn ceisio cefnogi busnesau sy'n cynnig llai na 30 o swyddi drwy weithredu fel cyfryngwr i hwyluso'r isafswm gofynnol o 30 o swyddi ar draws nifer o fusnesau, a hefyd fel cyflogwr, fel y gall y Cyngor gynnig lleoliadau uniongyrchol. Dengys ymgysylltu cychwynnol â busnesau lleol fod dyhead cadarnhaol am y cynllun hwnnw.
 O blith y rhai y cysylltwyd â nhw hyd yn hyn, mae 58 o gwmnïau wedi dweud y gallent ddarparu ar gyfer cyfanswm o 110 o leoliadau, a chyda rhagor o ymgysylltu a marchnata rhagwelir y bydd y nifer hwn ond yn cynyddu.

 

Mae'r cyngor yn darparu cymorth ariannol i nifer o asiantaethau partner megis Gofal a Thrwsio, sy'n cynnig atgyweiriadau ac addasiadau. Yn ogystal, mae'n gwirio'r hyn y mae gan rywun hawl i'w gael ac yn cyfeirio pobl at asiantaethau partner sy'n eu cefnogi wrth iddynt ymgeisio am fudd-daliadau nad oeddent yn eu hawlio. 

 

Rydym hefyd yn ariannu Shelter Cymru sy'n cynnig cyngor am ddyled a budd-daliadau ar draws deiliadaethau ar gyfer achosion anodd a chymhleth.  Gall unrhyw un hunanatgyfeirio neu gellir gwneud atgyfeiriadau gan sefydliadau sy'n nodi materion dyled neu fudd-daliadau lles sy'n fwy cymhleth na'r hyn y gallant ymdrin â nhw.  Efallai eich bod eisoes yn gwybod bod Shelter Cymru wedi'i leoli yn ein Tîm Tai ym Mhorth y Dwyrain - fel y mae'r Wallich a Gofal a Thrwsio.

 

Gallwn enwi eraill a ariennir gennym ni megis Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu asesiadau hawlio, ceisiadau am baratoi budd-daliadau, apeliadau a thribiwnlysoedd.

 

Mae cymorth hyblyg, a gomisiynir drwy gefnogi pobl, yn cynnig cyngor a chymorth ar Gymorth Tenantiaeth, Manteisio'n Llawn ar Fudd-daliadau a Lles, a Chyllidebu. Byddai'r un peth yn wir am bob darparwr cymorth fel y Wallich, Pobl - sydd hefyd ym Mhorth y Dwyrain gyda'n tîm, NACRO, CTAP, y Gwasanaeth Troseddwyr a'r Gwasanaethau Cam-drin Domestig. Dyma oedd diben y grant yn y bôn.

Age Cymru Dyfed - Yn darparu gwasanaethau sy'n gwella bywyd a chymorth hanfodol i bobl yn ddiweddarach yn eu bywyd, sy'n cynnwys Iechyd a Llesiant yn ogystal â rhaglen Cartrefi Cynnes a gwasanaethau Manteisio i'r Eithaf ar Fudd-daliadau.

Catch-up - Yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth a chyngor am fudd-daliadau lles i unigolion a'u gofalwyr sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin.  Gellir rhoi cymorth o ran llenwi ffurflenni, adolygiadau ac apeliadau ar gyfer y rhan fwyaf o fudd-daliadau. Mae swyddfa yn Llanelli a Chaerfyrddin.  Er nad yw'r Cyngor yn ariannu Age Cymru a Catch-up, mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda nhw, gan wneud atgyfeiriadau i sicrhau'r canlyniadau gorau i'n preswylwyr.

 

Mae gan dîm Dewisiadau a Chyngor y Cyngor rôl gydgysylltu o ran sicrhau bod cleientiaid sydd mewn trafferthion yn cael cyngor a chymorth ar fudd-daliadau lles.

Mae problemau fforddiadwyedd a dyled yn mynd law yn llaw â llawer o'r ymholiadau tai sy'n dod i law.  Gall staff adnabod problemau sy'n aml yn guddiedig am nad y rhain yw'r prif reswm dros yr alwad.

 

Mae ein Swyddogion Dewisiadau a Chyngor yn rhoi Cyngor ynghylch Tai i unrhyw un sydd angen cymorth â thai, ac yn cynnig cyngor ataliol i osgoi digartrefedd, sy'n cynnwys cyngor am fudd-daliadau lles a chyllidebu.  Mae staff hefyd yn cyfeirio pobl at y darparwyr cymorth hyblyg sydd eisoes wedi'u crybwyll i gael cymorth ychwanegol, neu mewn achosion mwy cymhleth, at y tîm Shelter Dab a sefydlwyd gan y tîm ar y cyd â Chefnogi Pobl.

 

Yn ystod Covid-19 sefydlodd Dewisiadau a Chyngor Dîm Cyngor Pellach i roi cyngor am fudd-daliadau i bobl yr oedd Covid-19 wedi effeithio arnynt ac nad oeddent yn gwybod sut oedd gwneud y defnydd mwyaf o'r system fudd-daliadau. 

 

Mae tîm Cyn-denantiaeth yn rhoi cyngor a chymorth i denantiaid newydd yn yr Is-adran Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel. Mae'r tîm yn:

 

·       Darparu cyngor am Fudd-dal Lles i sicrhau bod tenantiaid yn hawlio'r budd-dal cywir. 

·       Sicrhau, os bydd angen i'r tenant symud ymlaen i Gredyd Cynhwysol, fod hawliadau'n cael eu gwneud yn brydlon, yn unol â dyddiadau dechrau'r denantiaeth. 

·       Cwblhau ffurflenni Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a mandadau Debyd Uniongyrchol. 

·       Yn dibynnu ar gymhwysedd, mae ceisiadau grant i'r Gronfa Cymorth Dewisol a Thaliadau Disgresiwn at Gostau Tai yn cael eu gwneud.

·       Rhoi cyngor am gymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim a grantiau gwisg ysgol.

 

O fewn tîm Cymorth Tenantiaethau Dewisiadau a Chyngor, mae gennym nifer sylweddol o staff sy'n gallu darparu cyngor cynhwysfawr ar Fudd-dal Lles. Mae'r swyddogion hyn hefyd yn helpu tenantiaid i:

·       wneud ceisiadau am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai

·       gwneud ceisiadau Help-U i leihau cost eu trethi d?r

·       cwblhau ffurflenni Gostyngiadau'r Dreth Gyngor

·       cael cymorth o ran effeithlonrwydd ynni 

Maent hefyd yn rhoi cyngor am fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a grantiau gwisg ysgol.

 

Mae Gosod Syml yn rheoli eiddo ar ran landlordiaid preifat ac mae'r Swyddogion Cymorth Tenantiaeth sy'n gweithio yn y tîm hwn yn darparu'r un gwasanaethau i denantiaid y Sector Tai Rhent Preifat ag y mae'r Swyddogion Cymorth Tenantiaeth yn ei wneud i Denantiaid y Cyngor. Hoffwn gadarnhau ein bod yn cynnig y cyngor hwn i'n tenantiaid a'n tenantiaid preifat ledled y sir.

 

Caiff ein holl Swyddogion Cymorth Tenantiaeth, Cynghorwyr Dewisiadau a Swyddogion Tai eu dilysu i ddyrannu talebau bwyd, ac yn aml maent yn dosbarthu'r rhain i'r tenantiaid hynny nad ydynt yn gallu casglu parseli.  Rydym hefyd yn anfon talebau electronig at unrhyw un sydd angen parsel brys.

 

Yn ein Tîm Refeniw a Budd-daliadau, mae gennym Swyddog Cyllidebu Personol sy'n darparu cymorth ariannol traws deiliadaeth, sy'n cynnwys:

·       Cyngor ar fanteisio i'r eithaf ar fudd-daliadau;

·       Helpu defnyddwyr gwasanaethau i nodi ble y gellir lleihau gwariant a sut;

·       Cyfeirio at ddarparwyr cymorth arbenigol fel Catchup, Shelter Cymru, personél effeithlonrwydd ynni neu ddarparwyr cymorth hyblyg yn y gymuned;

·       Ymgeisio am grantiau Cronfa Cymorth Dewisol;

·       Gostyngiadau Help-U gan D?r Cymru;

·       Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai a

·       Rhoi talebau banc bwyd.

 

Y pwynt rwy'n ei wneud yma yw ein bod yn gwbl barod i fod yn rhagweithiol gyda'n rhaglen gydweithredol, drwy gynnwys eraill yn ein timau ym maes tai a'r canolfannau hwb ac ati a sicrhau ein bod yn rhoi gwybod i bobl ba fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt a sut i wneud cais yn llwyddiannus.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Alun Lenny:

 

Mae rhai Awdurdodau Lleol cyfagos wedi dewis un pwynt mynediad canolog ar gyfer cymorth lles. A oes rhesymau pam nad yw hyn yn cael ei ystyried yn opsiwn yn Sir Gaerfyrddin?

 

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

Rwy'n ymwybodol fod rhai Awdurdodau Lleol wedi creu un pwynt mynediad a gallaf weld sut y gallai hynny weithio mewn ardaloedd lle mae un pwynt canolog ar gael yn gyfleus i bawb – ac efallai fod hynny'n gweithio'n dda iddyn nhw. Fodd bynnag byddai gwneud hynny yn Sir Gaerfyrddin, yn fy marn i, yn cynyddu caledi ac yn golygu bod y cymorth a amlinellwyd yn fy ymateb gwreiddiol ddim ar gael mor hwylus i bobl.

 

Nid oes bwriad gennyf i greu un uned ganolog, a byddai symud staff o swyddi integredig a strategol i ryw uned ganolog yn wrthgynhyrchiol. Byddai hefyd yn arwain yn anochel at dynnu cyllid o sefydliadau'r trydydd sector er mwyn ariannu'r uned ganolog hon. Felly, byddaf yn parhau i ofyn ac asesu pa mor dda y mae'r trydydd sector yn darparu'r gwasanaethau a ariennir gennym.

 

Dywedoch yn eich cwestiwn gwreiddiol fod gennym aeaf anodd o'n blaenau, ac er bod hynny'n wir mewn sawl ystyr, hoffwn eich sicrhau bod gennym wasanaethau i gefnogi ein trigolion ym mhob cwr o'r sir a bod gennym gynlluniau ar waith, ac y byddwn yn parhau i gynllunio, i sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau.

 

Gwn ein bod ni fel Aelodau'n cael galwadau, llythyrau, a negeseuon e-bost gan drigolion pan fyddant yn wynebu anawsterau. Byddwn yn eich annog i ymgyfarwyddo â'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gennym, fel y gallwch chi helpu i gefnogi'r rhai sy'n wynebu caledi a sicrhau nad ydynt yn syrthio drwy'r rhwyd.