Agenda item

CAIS AM ADOLYGU TRWYDDED SAFLE SANTA CLARA, SANCLÊR, CAERFYRDDIN, SIR GAR SA33 4EE

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i bawb a oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a dywedodd wrth yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Heddlu Dyfed-Powys am adolygu trwydded safle ar gyfer Santa Clara, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin yn dilyn ymweliad â'r safle gan yr Heddlu a Swyddog Trwyddedu'r Cyngor, yn ogystal â chwynion a gyflwynwyd, a oedd wedi nodi diffyg rheolaeth a threfn ar y safle.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A - gwybodaeth gefndir am yr adolygiad a chopi o'r cais;

Atodiad B – sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

Atodiad C – Sylwadau eraill.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad, gan ddweud, yn dilyn hynny, ei fod wedi siarad â Goruchwylydd Penodedig y Safle a Deiliad y Drwydded Safle i drafod y cais. O ganlyniad i'r trafodaethau, gwirfoddolodd Mr Pearce i roi'r gorau i fod yn Oruchwylydd Penodedig y Safle a derbyniwyd yr amodau ychwanegol a restrwyd yn Atodiad A yn amodol ar newid amod rhif 18, ar gais Awdurdod yr Heddlu i'w gwneud yn ofynnol i gael Tystysgrif Cymhwyster Deiliad Trwydded Bersonol Lefel 2 o fewn un mis.

 

Dywedodd hefyd fod yr heddlu, yn dilyn y trafodaethau hynny, yn diddymu eu hargymhellion yn gofyn am atal y drwydded safle am dri mis a diswyddo Mr Pearce fel Goruchwylydd Penodedig y Safle.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad a dywedodd fod yr Awdurdod Trwyddedu'n cefnogi'r mesurau diwygiedig a gynigiwyd gan yr heddlu, a bod yr Awdurdod yn ystyried bod y mesurau hyn yn briodol ac yn gymesur.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Mewn ymateb i'r sylwadau a gafwyd, dywedodd Mr Reynolds, deiliad y drwydded, wrth yr Is-bwyllgor nad oedd yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ar y safle bob amser ac nad oedd wedi cael unrhyw broblemau blaenorol ar y safle. 

 

Rhoddwyd cyfle i bawb oedd yn bresennol ofyn cwestiynau i Mr Reynolds, deiliad y drwydded.

 

Galwyd ar Mr Richard Pearce, Goruchwylydd Penodedig y Safle, i annerch yr Is-bwyllgor fel tyst i gefnogi deiliaid y drwydded. Cyfeiriodd Mr Pearce at ei sylwadau fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i bawb oedd yn bresennol ofyn cwestiynau i Mr Pearce.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan yr Is-bwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a'r Swyddfa Gartref:-

 

PENDERFYNWYD hefyd:

 

2.1

Y dylid ychwanegu’r amodau trwydded ychwanegol yr oedd yr Heddlu a'r deiliaid trwydded safle wedi cytuno arnynt yn at y drwydded, a chydymffurfio â hwy cyn pen 3 mis (ac eithrio amod 18) ar ôl dyddiad y penderfyniad hwn; 

2.2

Y dylid cydymffurfio ag amod 18 cyn pen 1 mis ar ôl y penderfyniad hwn;

2.3

NA ddylid tynnu Goruchwylydd Penodedig y Safle (Mr Pearce) o'r drwydded;

2.4

NA ddylid atal y drwydded safle.

RHESYMAU

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  1. Ar 23 Mawrth 2020, roedd swyddogion trwyddedu wedi ymweld â'r safle yn dilyn cwyn bod Rheoliadau'r Coronafeirws wedi cael eu torri ac wedi rhoi cyngor i Oruchwylydd Penodedig y Safle ynghylch cydymffurfio.
  2. Ar 29 Mawrth 2020 am tua 4pm, roedd swyddogion yr Heddlu wedi ymweld â'r safle mewn ymateb i g?yn gan aelod o'r cyhoedd ac wedi gweld Rheoliadau'r Coronafeirws yn cael eu torri. Rhoddwyd rhybudd i Mr Pearce, Goruchwylydd Penodedig y Safle.
  3. Am 4.40pm yr un diwrnod, dychwelodd y swyddogion i'r safle a gweld unwaith eto bod Rheoliadau'r Coronafeirws yn cael eu torri. Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i Mr Pearce.
  4. Nid yw Mr a Mrs Reynolds yn rhan o’r gwaith o redeg y safle o ddydd i ddydd, ac nid oeddent ar y safle ar yr achlysuron uchod.
  5. Yn hytrach, Mr Pearce, Goruchwylydd Penodedig y Safle, sy'n rhedeg y safle o ddydd i ddydd.
  6. Cyn y pandemig coronafeirws, nid oedd dim hanes blaenorol o gwynion na chamau gorfodi ar y safle.
  7. Bod yr Heddlu a'r Deiliaid Trwydded wedi cytuno ar set o amodau trwydded ychwanegol sydd â'r nod o wella'r ffordd y caiff y safle ei reoli.
  8. Nid yw'r Heddlu bellach yn ystyried bod diswyddo Goruchwylydd Penodedig y Safle neu atal y drwydded safle yn gam gweithredu priodol neu gymesur.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar sylwadau'r awdurdodau cyfrifol, yn enwedig yr Heddlu.

 

Mae'r Is-bwyllgor yn pryderu'n fawr bod y safle wedi torri rheoliadau'r Coronafeirws mewn modd mor ddi-hid, er y cafwyd cyngor clir gan swyddogion trwyddedu ar 23 Mawrth. Roedd y weithred hunanol hon yn peryglu bywydau aelodau'r cyhoedd ac yn tanseilio'n amlwg yr amcan trwyddedu o atal troseddau ac anhrefn gan fod torri'r Rheoliadau Coronafeirws yn drosedd.

 

Mae'r Is-bwyllgor yn cydnabod nad yw Mr a Mrs Reynolds yn rhan o’r gwaith o redeg y safle o ddydd i ddydd ac nad oeddent yn bresennol ar yr achlysuron y cyfeirir atynt uchod. Fodd bynnag, fel deiliaid trwydded, nhw sy'n gyfrifol yn y pen draw am yr hyn sy'n digwydd ar y safle ac ni allant drosglwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw i Oruchwylydd Penodedig y Safle. Mae'r hyn a ddigwyddodd yn dangos diffyg rheolaeth briodol ar y safle ar yr adeg honno gan Mr Pearce a Mr a Mrs Reynolds.

 

Mae'r Is-bwyllgor o'r farn mai Mr Pearce sy'n bennaf gyfrifol am yr hyn a ddigwyddodd ym mis Mawrth ac mae gan yr Is-bwyllgor amheuon am ei addasrwydd i weithredu fel Goruchwylydd Penodedig y Safle. Nid yw'r Is-bwyllgor yn derbyn bod yr hyn a ddigwyddodd o ganlyniad i ddiffyg profiad a diffyg hyfforddiant trwyddedu. Roedd y cyfyngiad a gyflwynwyd yn sgil y pandemig Coronafeirws ar yr adeg honno yn syml ac yn cael cyhoeddusrwydd da. Yn syml, nid oes esgus dros y ffordd yr oedd Mr Pearce wedi gweithredu. O ystyried bod cais yr Heddlu wedi'i wneud ym mis Mehefin, mae'n siomedig nad yw Mr Pearce eisoes wedi cwblhau'r cwrs trwydded bersonol.

 

Fodd bynnag, mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar yr Is-bwyllgor i roi pwys ar farn yr Heddlu a dim ond os oes tystiolaeth glir bod barn yr Heddlu yn anghywir y dylid mynd yn groes iddynt. Yn hyn o beth, atgoffir yr Is-bwyllgor mai diben yr adolygiad hwn yw PEIDIO â chosbi Mr Pearce na Mr a Mrs Reynolds am yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Ymdriniwyd â hyn drwy roi'r Hysbysiad Cosb Benodedig i Mr Pearce ym mis Mawrth.

 

Yn hytrach, diben yr adolygiad hwn yw ceisio sicrhau bod y safle yn cael ei redeg yn y dyfodol mewn modd sy'n hyrwyddo'r amcanion trwyddedu, yn enwedig yr amcan o atal troseddau ac anhrefn.

 

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, mae'r Is-bwyllgor yn fodlon bod yr amodau trwydded ychwanegol y cytunwyd arnynt rhwng deiliaid yr Heddlu a deiliaid y drwydded safle yn ymateb priodol a chymesur i'r hyn sydd wedi digwydd ac y byddant yn hyrwyddo'r amcan trwyddedu o atal troseddau ac anhrefn. Mae'r Is-bwyllgor hefyd yn fodlon NA fyddai'n briodol nac yn gymesur atal y drwydded safle na diswyddo Mr Pearce fel Goruchwylydd Penodedig y Safle.

 

Dogfennau ategol: