Cofnodion:
Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin, Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin, y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio a Chynllun Benthyciadau Canol Tref Llanelli a Rhydaman.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin, Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin, y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio a Chynllun Benthyciadau Canol Tref Llanelli a Rhydaman yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin |
|
Yr Ymgeisydd |
Y Dyfarniad |
Roman Solutions, Llanymddyfri |
£40,000.00 |
Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin/Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin |
|
Yr Ymgeisydd |
Y Dyfarniad |
Cambrian Pet Foods, Llangadog |
£750,000.00 |
Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio – Grant Gwella a Datblygu Eiddo |
|
Yr Ymgeisydd |
Y Dyfarniad |
Stephen Evans [125/127 Heol yr Orsaf, Llanelli] |
£202,351.89 |
Anglers Corner [78 Heol yr Orsaf, Llanelli] |
£82,641.38 |
Keys Property Management Ltd. [6 Stryd y Gwynt, Rhydaman] |
£128,000.00 |
Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio – Grant Byw'n Gynaliadwy |
|
Yr Ymgeisydd |
Y Dyfarniad |
Mallard Wales Ltd. [2-4 Heol yr Orsaf, Llanelli] |
£80,000.00 |
Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio – Benthyciadau Canol Tref Llanelli |
|
Yr Ymgeisydd |
Y Dyfarniad |
Cygnus Holdings (Llanelli) Ltd [8-16 Stryd y Farchnad, Llanelli] |
£1,400,000.00 |
Dogfennau ategol: