Cofnodion:
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy 2020-2023, a phrif bwrpas y cynllun oedd:
· Egluro'r weledigaeth a'r manylion yngl?n â chynnal a gwella Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf, a beth y mae hyn yn ei olygu i'r tenantiaid
· Nodi ein bwriad i ddatblygu safon newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at dai carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd, gan sicrhau bod cadwyn gyflenwi, swyddi a chyfleoedd hyfforddi newydd yn cael eu darparu
· Cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd ariannol nesaf
· Llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2020/21, sy’n cyfateb i £6.1m.
Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai wedi tynnu sylw at y ffaith bod yr adroddiad yn manylu ar y bwriad i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu safon newydd yn Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at gartrefi carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd. Gyda chymorth Prifysgol Caerdydd, roedd yr Awdurdod wedi bod yn gweithio ar ôl-osod amrywiaeth o dechnolegau carbon isel gan gynnwys cyflenwadau ynni adnewyddadwy, storio ynni a thechnolegau lleihau'r galw am ynni. Roedd offer monitro wedi'i osod a byddai'r canlyniadau'n cael eu dadansoddi o ran cost, manteision i denantiaid a pha mor hawdd yw defnyddio'r offer.
Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol bod bron i £49m wedi'i neilltuo i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer tenantiaid presennol dros y 3 blynedd nesaf er mwyn galluogi tenantiaid i elwa ar gartrefi sy'n garbon isel ac sy'n rhatach i'w rhedeg.
Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod yr Awdurdod ar fin cyflawni ei addewid i ddarparu 1,000 o dai fforddiadwy ychwanegol erbyn 2021. Cyflawnwyd hyn drwy brynu tai ar y farchnad agored, ailddefnyddio eiddo gwag unwaith eto ac adeiladu cartrefi newydd. Mae dros 60 o aelwydydd wedi cael eu tai drwy'r Gofrestr Tai Hygyrch gan sicrhau bod y tai'n diwallu eu hanghenion tai penodol.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai, er bod llawer wedi'i gyflawni, roedd yn cydnabod bod mwy i'w wneud o hyd ond roedd yr Awdurdod yn barod i wynebu'r heriau. Yn y cynllun a gafodd ei gyhoeddi nodwyd bwriad yr Awdurdod i ddatblygu rhaglen adeiladu newydd ar gyfer Cartrefi Croeso er mwyn sicrhau cynifer â phosibl o dai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Roedd y gwaith i adeiladu cartrefi Cyngor newydd yn Dylan eisoes wedi dechrau gyda bron i £52m ar gael i'w wario dros y tair blynedd nesaf ar adeiladu mwy o dai Cyngor a byddai hyn yn cyd-fynd â'r rhaglen fuddsoddi tai ehangach. Byddai hyn yn galluogi'r Awdurdod i ganolbwyntio ar y datblygiad arfaethedig yn ward T?-isa, y Pentref Llesiant, Canol Trefi a threfi gwledig.
Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol bod yr Awdurdod yn ymwybodol bod cyflwyno Credyd Cynhwysol wedi golygu her i denantiaid o ran rheoli eu cyllidebau misol, ond roedd y cynllun gweithredu a roddwyd ar waith gan yr Awdurdod wedi lleihau'r effaith gymaint â phosibl ar eu cyfer.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod hyn yn gyfnod cyffrous a hefyd yn gyfnod o ansicrwydd i denantiaid, ond roedd yr Awdurdod wedi gallu cadw'r cynnydd mewn rhent ar gyfer 2020/21 ar gyfartaledd o 2.7% ac ni ddylid dibrisio'r cyflawniad hwn. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddai angen i'r Awdurdod sicrhau eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch blaenoriaethau ariannol y dyfodol o ran cynnal y safonau presennol, cyflwyno safonau newydd i gefnogi'r agenda datgarboneiddio ac adeiladu tai fforddiadwy i'r rhai mewn angen.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
9.1 |
bod gweledigaeth uchelgeisiol Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ynghyd â'r rhaglen gyflawni ac ariannol dros y tair blynedd nesaf, yn cael eu cadarnhau. |
9.2 |
cadarnhau bod Cynllun Busnes 2020/23 yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. |
9.3 |
nodi'r bwriad i ddatblygu safon newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin drwy barhau i symud tuag at dai carbon niwtral, rhai presennol a rhai newydd, gan sicrhau bod cadwyn gyflenwi, swyddi a chyfleoedd hyfforddi newydd yn cael eu darparu. |
Dogfennau ategol: