Cofnodion:
5.1 PENDERFYNWYDgwrthod y cais cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail bod y datblygiad arfaethedig yn groes i Bolisi TR3 a TAN18 oherwydd pryderon am ddiogelwch priffyrdd a'r effaith sylweddol ar drigolion lleol;
W/38125 |
Cynllun i ddatblygu 36 o breswylfeydd a gwaith cysylltiedig ar dir i'r de o ystad Dôl y Dderwen, Llangain, Sir Gaerfyrddin SA33 5BE
Atgoffodd y Swyddog Rheoli Datblygu yr Aelodau fod y Pwyllgor wedi gohirio gwneud penderfyniad ar y cais hwn yn ei gyfarfod ar 19 Medi 2019 er mwyn i'r ymgeisydd, y tirfeddiannwr cyfagos a'r swyddogion drafod mynediad arall posibl i'r datblygiad drwy Ffordd yr Eglwys.
Dywedwyd bod yr ymgeisydd, mewn ymateb i'r gohiriad, wedi asesu ymhellach y mynediad i'r datblygiad ac wedi cadarnhau na fyddai awgrym y Pwyllgor i gael mynediad arall drwy Ffordd yr Eglwys yn bosibl am y rhesymau a amlinellwyd yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio.
Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn nodi er bod y datblygiad yn cael ei groesawu mewn egwyddor, nodwyd nad oedd unrhyw newidiadau pellach wedi cael eu gwneud i'r cais i fynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd mewn perthynas â mynediad. Roedd felly yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig oherwydd y pryderon diogelwch o ran y dull mynediad arfaethedig i'r datblygiad fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) a'r Cynlluniwr Trafnidiaeth i'r materion a godwyd. |
5.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yng ngheisiadau cynllunio W/38261, W/38262 a W/38263 yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Phillips Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y ceisiadau a phenderfynu arnynt.]
5.3 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
W/38893 |
Mae'r cais cynllunio hwn ar gyfer Datblygiad Garddwriaethol cynaliadwy isel ei effaith dan Bolisi Llywodraeth Cymru Tan 6, Datblygiad Un Blaned. Ar hyn o bryd mae'r tir yn cael ei ystyried yn dir amaethyddol a bydd y cais yn cynnwys newid defnydd y tir neu ran ohono at ddefnydd preswyl ym Mharc yr Odyn, Hebron, Hendy-gwyn ar Daf, SA34 0XT.
Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol a dywedodd er ei fod yn cefnogi'r cais, nododd y cafodd cais blaenorol ei wrthod ar gyfer cyn-berchennog y safle. Mewn ymateb i'r sylw, eglurodd y Swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y Gorllewin] i'r Pwyllgor y prif wahaniaethau rhwng y cais blaenorol a'r cais presennol a phwysleisiodd y dylai'r Pwyllgor ystyried y cais ger ei fron.
|
5.4 PENDERFYNWYD:-
5.4.1 bod y cais cynllunio canlynol yn cael ei
wrthod oherwydd bod y cais yn golygu datblygu annedd ar y farchnad
agored, nad oedd yn cyd-fynd â pholisïau'r CDLl;
5.4.2 bod y swyddogion yn cynghori'r ymgeisydd y byddai cyflwyno cais diwygiedig sy'n cynnwys angen lleol gwirioneddol, yn unol ag amcanion y polisi dan Bolisi AH3, yn cael ei ystyried heb unrhyw gost ychwanegol i'r ymgeisydd.
W/39008 |
Adeiladu preswylfa ar dir Maes-y-ffynnon, Llangynog, SA33 5DA
Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol yn cefnogi'r cais oherwydd y rhesymau o ran anghenion lleol ac amgylchiadau cymdeithasol.
Pwysleisiwyd i'r Pwyllgor gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y Dwyrain) fod yr ymgeisydd yn ceisio annedd dilyffethair ar y farchnad agored yn hytrach nag annedd anghenion lleol fel sy'n cael ei ganiatáu dan Bolisi AH3 y Cynllun.
Er bod Aelodau'n cydymdeimlo â'r rhesymau y tynnodd yr Aelod Lleol sylw atynt a'r rhai a geir yng ngwybodaeth ategol yr ymgeisydd, safbwynt y Pwyllgor oedd nad oedd y cais yn cyd-fynd ag amcanion polisi y Cynllun Datblygu Lleol nac amcanion y Polisi Cynllunio Cenedlaethol. |
Dogfennau ategol: