“Mae'r Cyngor hwn yn:
· Nodi bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datgan argyfwng hinsawdd yn unfrydol yn gynharach eleni, gan ymrwymo i wneud y Cyngor Sir yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030.
· Nodi casgliadau'r Panel Rhynglywodraethol ynghylch Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) "ein bod yn gweld canlyniadau cynhesu byd-eang 1°C yn barod drwy dywydd mwy eithafol, codiad yn lefel y môr ac iâ môr yn toddi yn yr Arctig";
· Nodi bod adroddiad yr IPCC yn nodi bod yn rhaid i allyriadau carbon deuocsid byd-eang fod ar eu huchaf erbyn 2020 er mwyn cadw'r blaned yn is nag 1.5C;
· Nodi ymgyrchoedd ac ymchwil Extinction Rebellion, Cyfeillion y Ddaear ac eraill, ynghylch daliadau cronfeydd Pensiwn Llywodraeth Leol, gan gynnwys Dyfed, mewn cwmnïau tanwyddau ffosil;
· Credu nad yw'r cynlluniau presennol yn agos at fod yn ddigon cryf i gadw'r tymheredd o dan y lefelau a elwir yn ddiogel.
· Galw ar Gronfa Bensiwn Dyfed i ymwahanu oddi wrth danwyddau ffosil o fewn y 2 flynedd nesaf a buddsoddi'r cronfeydd mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy lleol.”
Cofnodion:
[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr E. Dole, G.R. Jones, G.H. John, M.J.A. Lewis, B.A.L. Roberts, E.M.J.G. Schiavone a J. Tremlett wedi datgan buddiant yn y mater hwn a gadawsant Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno. Gadawodd yr holl swyddogion a oedd yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn (ar wahân i Ben-swyddog y Gwasanaethau Democrataidd, a oedd yn aros i gymryd nodiadau a Chynorthwyydd y Gwasanaethau Aelodau) Siambr y Cyngor hefyd]
Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Rob James:-
“Mae'r Cyngor hwn yn:
Eiliwyd y Cynnig.
Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r cynnig gan y Cynghorydd C. Jones a chafodd ei eilio:
“Mae'r Cyngor hwn yn:
· Nodi bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datgan argyfwng hinsawdd yn unfrydol yn gynharach eleni, gan ymrwymo i wneud y Cyngor Sir yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030;
· Nodi casgliadau'r Panel Rhynglywodraethol ynghylch Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) "ein bod yn gweld canlyniadau cynhesu byd-eang 1°C yn barod drwy dywydd mwy eithafol, codiad yn lefel y môr ac iâ môr yn toddi yn yr Arctig";
· Nodi bod adroddiad yr IPCC yn nodi bod yn rhaid i allyriadau carbon deuocsid byd-eang fod ar eu huchaf erbyn 2020 er mwyn cadw'r blaned yn is nag 1.5C;
· Nodi ymgyrchoedd ac ymchwil Extinction Rebellion, Cyfeillion y Ddaear ac eraill, ynghylch daliadau cronfa Pensiwn Llywodraeth Leol, gan gynnwys Dyfed, mewn cwmnïau tanwyddau ffosil;
· Credu nad yw'r cynlluniau presennol yn agos at fod yn ddigon cryf i gadw'r tymheredd o dan y lefelau a elwir yn ddiogel;
· Yn croesawu'r ffaith bod Cronfa Bensiwn Dyfed eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy fel rhan o Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'i bod yn canolbwyntio i raddau helaeth ar ei hymrwymiad i Newid yn yr Hinsawdd gan gydnabod ei gyfrifoldebau ymddiriedol cyffredinol;
· Yn galw ar Gronfa Bensiwn Dyfed i ystyried lleihau ei buddsoddiad mewn tanwyddau ffosil.”
Cafodd cynigydd ac eilydd y Gwelliant gyfle i siarad o'i blaid a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno.
Gwnaed nifer o ddatganiadau a gefnogai'r cynnig a'r gwelliant.
Yn dilyn trafodaethau, cytunodd y cynigydd, gyda chytundeb yr eilydd, i dynnu'r Gwelliant yn ôl. Ar hynny, aeth y Cyngor ymlaen i bleidleisio ar y Cynnig a
PHENDERFYNWYD cefnogi'r Cynnig a'i gyfeirio at Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed i'w ystyried.
Dogfennau ategol: