Cofnodion:
Gadawodd yr Is-bwyllgor Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 9.35am ac ailymgynullwyd ar y safle am 10.15am, er mwyn gweld y safle uchod lle cafwyd cyfle i weld y cyfleusterau mewnol ac allanol a lleoliad eiddo'r gwrthwynebwyr. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 11.30am i ystyried y cais.
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.
Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Glwb Rygbi Crwydriaid Llanelli am drwydded safle mewn perthynas â'r safle uchod i ganiatáu'r canlynol:-
Cyflenwi Alcohol a Cherddoriaeth a Recordiwyd - o ddydd Mercher i ddydd Sul 12:00 – 23:30,
Oriau Agor: Dydd Mercher - Dydd Sul 12:00-00:00,
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A - copi o'r cais
Atodiad B - sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu
Atodiad C - sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys
Atodiad D - sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd
Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
 chytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o ddogfennau ychwanegol i'r Is-bwyllgor a oedd yn cynnwys newidiadau i'r amodau a gynigiwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn y Cyngor; cynllun yn dangos lleoliad eiddo'r gwrthwynebwyr mewn perthynas â'r safle/eiddo y cyfeiriwyd ato yn y cais, ynghyd ag e-bost gan yr ymgeisydd yn diwygio'r cais drwy eithrio chwarae cerddoriaeth a recordiwyd yn hwyrach na 23:00. Yn ogystal, cafodd yr Is-bwyllgor ohebiaeth ychwanegol gan un o'r gwrthwynebwyr i'r cais arfaethedig, a oedd wedi'i chyflwyno'n flaenorol i'r ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad, ac argymhellodd petai'r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu'r cais bod yr amodau awgrymedig a gynigiwyd gan Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd (fel y'i diwygiwyd) yn cael eu gosod ar y drwydded.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd at benderfyniad yr ymgeisydd i dynnu elfen o'r cais yn ei hôl mewn perthynas â chwarae cerddoriaeth a recordiwyd tan 23:30. Rhoddodd wybod i'r Is-bwyllgor, yn dilyn newidiadau i'r Ddeddf Trwyddedu a Dadreoli Adloniant Rheoledig, fod hawl awtomatig gan unrhyw safle â thrwydded alcohol i chwarae cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth a recordiwyd rhwng 8:00am a 11:00pm, heb i hynny ymddangos ar y drwydded safle neu heb unrhyw amodau ynghlwm wrth y drwydded honno. Fodd bynnag, petai chwarae cerddoriaeth yn achosi niwsans, roedd y ddeddfwriaeth yn caniatáu cyflwyno cais am adolygiad o'r hawl honno.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad C i'r adroddiad, a gofynnodd am osod y 13 amod awgrymedig a nodwyd ynddo ar y drwydded fel rhai angenrheidiol a chymesur ar gyfer hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu. Roedd yr ymgeisydd wedi cytuno ar y rheiny.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad D i'r adroddiad, a'r wyth amod diwygiedig canlynol a ddosbarthwyd yn y cyfarfod:-
1. Cyfyngir yfed alcohol i'r safle Trwyddedadwy yn unig;
2. Ni chaniateir yfed alcohol ar ôl 21:00 mewn unrhyw fannau allanol sydd y tu mewn i ffiniau'r safle;
3. Ni chaniateir gwydrau agored na chynwysyddion gwydr mewn unrhyw fannau allanol ar y safle;
4. Dynodir y man gorchuddiedig/cysgodol wrth ymyl prif fynedfa'r adeilad fel y man ysmygu a rhaid i'r holl gwsmeriaid ddefnyddio'r man hwn i ysmygu;
5. Rhaid darparu cynhwysedd addas yn y man ysmygu i gwsmeriaid daflu eu stympiau sigaréts;
6. Rhaid cadw'r holl ffenestri a drysau allanol ar gau ar ôl 20:00, ac eithrio mynd i mewn a gadael y safle;
7. Rhaid dangos hysbysiadau cwrteisi amlwg, clir a darllenadwy i gymdogion wrth bob allanfa yn gofyn i'r cyhoedd barchu anghenion preswylwyr lleol ac iddynt adael y safle a'r ardal yn ddistaw;
8. Rhaid defnyddio’r allanfa dân yn yr ystafell ddigwyddiadau ar y llawr cyntaf a grisiau'r ddihangfa dân mewn argyfwng yn unig ac nid ar unrhyw adeg arall.
Dywedodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ei fod wedi siarad â'r ymgeisydd ynghylch yr amodau diwygiedig arfaethedig ac y cytunwyd i gynnwys amodau 2-8 ar unrhyw drwydded a allai gael ei rhoi, ond bod amod 1 yn cael ei dynnu'n ei ôl.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch y sylwadau a wnaed.
Rhoddwyd cyfle i'r gwrthwynebwyr roi sylwadau ar y cais, ac ailadroddwyd rhai o'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn eu sylwadau yn Atodiad E ynghyd â'r deunydd ychwanegol a ddosbarthwyd. Roedd y rhain yn cynnwys:-
· hanes cynllunio'r safle,
· cwyn flaenorol am y niwsans s?n ym mis Mehefin 2018,
· lleoliad tri safle trwyddedig arall yn y cyffiniau,
· profiad blaenorol o s?n yn tarfu yn ystod digwyddiadau'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro a'r potensial ychwanegol i s?n gan gwsmeriaid y clwb rygbi darfu ar ôl 11:00pm, a fyddai'n effeithio ar amwynder preswyl a chwsg plant ifanc,
· ystyriwyd bod y cais yn ddiangen a dylai'r clwb barhau i wneud cais am drwyddedau Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn hytrach na thrwydded barhaol.
· pryder y gallai caniatáu trwydded arwain at newid y clwb yn dafarn yn y dyfodol
· agosrwydd y safle at eiddo preswyl a'r ffaith bod y ffenestri ar y llawr cyntaf yn wynebu'n uniongyrchol ystafelloedd wely'r eiddo hwnnw.
· os caniateir y drwydded gan yr Is-bwyllgor, dylid ei chyfyngu i ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
· dylai'r gwaith i uwchraddio'r system teledu cylch cyfyng, yn unol â gofynion yr Heddlu, gael ei ymestyn i gynnwys y maes parcio o flaen y clwb.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
Cadarnhaodd yr ymgeisydd, wrth ymateb i'r materion a fynegwyd, er nad oedd y clwb wedi bwriadu gwerthu alcohol i ddechrau, roedd y rhesymau dros gyflwyno'r cais yn cynnwys cael gwared â'r angen i wneud cais am Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro a'r gost sy'n gysylltiedig â hynny, gellid gwneud cais am hyd at 16 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro mewn blwyddyn, i reoli pobl sy'n dod â'u halcohol eu hunain i'r safle yn ystod digwyddiadau'r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro, i gynyddu refeniw'r clwb ac i ddarparu cyfleusterau i'w noddwyr. Dim ond gwerthu caniau cwrw o'r oergell oedd bwriad y clwb, nid oedd lle yn y clwb i ddarparu bar neu seler i hwyluso gwerthu cwrw casgen. Hefyd, bwriad y clwb oedd gweithio gyda'r gymuned leol i darfu cyn lleied â phosibl ar breswylwyr.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
Ar hynny,
PENDERFYNODD YR IS-BWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais am drwydded safle ar gyfer Clwb Rygbi Crwydriaid Llanelli yn cael ei ganiatáu, wedi'i ddiwygio, a hynny'n unol â'r amodau trwyddedu yr oedd yr ymgeisydd, yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd wedi cytuno arnynt.
RHESYMAU
Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;
Rhoddodd yr Is-bwyllgor bwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.
Yr oedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.
Yn yr un modd, nid oedd materion ynghylch angen, ac a oedd lleoliadau tebyg eraill ar gael yn agos ai peidio, yn ystyriaethau perthnasol o dan y Ddeddf Trwyddedu.
Nododd yr Is-bwyllgor yr anghysondeb posibl rhwng caniatâd cynllunio presennol y safle a'r cais am drwydded. Fodd bynnag, nid oedd yr Awdurdod Cynllunio wedi cynnig unrhyw sylwadau ynghylch hyn ac roedd paragraff 13.5 o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Cyngor yn ei gwneud yn glir nad oedd hyn yn rhwystr i ganiatáu trwydded. Cynghorwyd yr ymgeisydd, fodd bynnag, i geisio eglurdeb ynghylch unrhyw faterion cynllunio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn defnyddio'r drwydded.
Derbyniodd yr Is-bwyllgor dystiolaeth Mr a Mrs Toft ynghylch effaith niweidiol s?n o'r safle yn y gorffennol. Derbyniodd y dystiolaeth ysgrifenedig hefyd gan y preswylwyr eraill ynghylch yr effaith arnynt. Ar y sail honno, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon y byddai'r cais, fel y'i cyflwynwyd yn wreiddiol, wedi tanseilio'r amcanion trwyddedu.
Fodd bynnag, roedd yn ofynnol i'r Is-bwyllgor roi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol, yn enwedig yr Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yn yr achos hwn. Roedd y ddau awdurdod cyfrifol hwn o'r farn, yng ngoleuni'r newidiadau a wnaed gan yr ymgeisydd i'r cais, y gellid hyrwyddo’r amcanion trwyddedu yn briodol drwy osod yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt gan yr ymgeisydd a'u bod yn ymateb cymesur i'r materion a fynegwyd gan breswylwyr lleol.
Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried cyfyngu ar oriau trwyddedadwy ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Sul i leihau'r effaith ar nosweithiau cyn diwrnodau ysgol, ond teimlwyd na ellid cyfiawnhau hynny yng ngoleuni'r dystiolaeth gan yr awdurdodau cyfrifol.
Felly, roedd yr Is-bwyllgor wedi'i fodloni ei bod yn briodol caniatáu'r drwydded, yn amodol ar yr amodau trwydded a gytunwyd, a bod hyn yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd. Wrth ddod i’r casgliad hwn, nododd yr Is-bwyllgor os byddai defnydd o'r drwydded yn tanseilio'r amcanion trwyddedu, yn enwedig os oedd yn achosi niwsans cyhoeddus i breswylwyr lleol, gellid adolygu'r drwydded ac, yn y pen draw, roedd gan yr Is-bwyllgor hawl i'w hatal neu ei diddymu.
Anogodd yr Is-bwyllgor y clwb i gydweithio'n agos â'r preswylwyr i fonitro effaith y drwydded ac anogodd breswylwyr lleol, os bydd gweithgareddau trwyddedadwy yn tarfu arnynt, i ymgysylltu â'r awdurdodau cyfrifol fel y gellid cymryd camau priodol.
Dogfennau ategol: