Cofnodion:
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi cynllun i ddarparu dros 900 o dai Cyngor newydd dros y 10 mlynedd nesaf. Roedd yr adroddiad yn amlinellu pryd a ble y byddai'r tai newydd yn cael eu hadeiladu, yr adnoddau sydd ar gael a'r modelau darparu a fydd yn cael eu defnyddio. Roedd yn amlinellu hefyd sut y byddai'r cynllun yn cefnogi blaenoriaethau adfywio ledled y Sir. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai'r cynllun yn darparu'r cynnydd mwyaf yn nifer y tai Cyngor ers y 1970au ac yn dychwelyd ein stoc tai i'r lefelau a welwyd ddiwethaf yn y 1990au. Ariennir y cynllun gan fuddsoddiad £53 miliwn gan y Cyfrif Refeniw Tai a chyllid grant allanol. Bydd y cynllun yn gwella iechyd a llesiant preswylwyr Sir Gaerfyrddin yn sylweddol, yn gwella'r economi leol a chreu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer pobl leol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR
6.1. ail-gadarnhau'r egwyddorion cyflawni allweddol ar gyfer rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor, a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'n Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy llwyddiannus;
6.2. cytuno ar yr ystod o fodelau darparu a fydd yn cael eu defnyddio i adeiladu dros 900 o dai Cyngor newydd, gan ein galluogi i gynnig amrywiaeth o ddewisiadau tai mewn gwahanol ardaloedd o'r Sir;
6.3. cadarnhau y bydd y tai Cyngor newydd yn cael eu darparu drwy ddefnyddio'r ardaloedd gweithredu tai fforddiadwy sy'n rhan o'r Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy;
6.4. cytuno ar strwythur y bandiau blaenoriaeth a ddefnyddir i bennu pryd bydd y safleoedd adeiladu newydd yn cael eu datblygu;
6.5. cadarnhau'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer symud datblygiadau o Gam B a Cham C i Gam A;
6.6. cytuno ar y rhaglen gyflawni am y tair blynedd gyntaf ar gyfer adeiladu tai Cyngor newydd yn y Sir, gan fuddsoddi dros £53m a darparu dros 300 o dai Cyngor newydd.
Dogfennau ategol: