Cofnodion:
Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Gan gyfeirio at gofnod 2 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2018, rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i geisiadau am gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin. Blaenoriaeth y ddwy gronfa oedd cefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
Cronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin |
||
Cyfeirnod y Cais |
Ymgeisydd |
Dyfarniad |
SUF66 |
WillsFresh Food & Coffee |
£10,000.00 |
SUF65 |
PentrePlumbing |
£2,899.14* |
Cronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin |
||
Cyfeirnod y Cais |
Ymgeisydd |
Dyfarniad |
GF29 |
Qualitek Engineering |
£10,000.00** |
GF72 |
AgriAdvisors |
£9,119.46 |
GF89 |
Dyfed Steels Ltd. |
£10,000.00 |
GF98 |
Padda Care Ltd. |
£10,000.00 |
[*Cyfanswm cost diwygiedig y prosiect wedi'i nodi.]
[**Yn lle’r £10k a roddwyd ar 19/12/18 yn dilyn newid i’r cais gwreiddiol.]
Dogfennau ategol: