Agenda item

STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL DDRAFFT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn atodi strategaeth toiledau lleol ddrafft a oedd wedi'i datblygu yn unol â Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, lle'r oedd gan y Cyngor Sir ddyletswydd statudol i gyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

Roedd y Strategaeth yn cynnwys yr adborth a'r ymatebion a dderbyniwyd yn dilyn arolwg Asesu Anghenion a gynhaliwyd yn ystod Hydref/Tachwedd 2018. Amlinellwyd yn yr adroddiad y canfyddiadau allweddol o'r ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ar 25 Mawrth a 12 Mai 2019 drwy'r cyfleuster ymgynghori ar wefan y Cyngor.

 

Yn ogystal nodwyd mewn Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad, nad oedd unrhyw effeithiau negyddol ac roedd cynnydd mewn mynediad gan y cyhoedd i doiledau cyhoeddus yn cael ei geisio.

 

Nododd yr aelodau er nad oedd dim gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus, bwriad y strategaeth oedd lliniaru unrhyw effeithiau negyddol lle gallai toiledau gael eu colli. Cafodd y cynigion a nodwyd yn y Strategaeth Toiledau Lleol Ddrafft eu datblygu i wella a gwneud y defnydd gorau posibl o gyfleusterau presennol a hyrwyddo darpariaeth toiledau ychwanegol, priodol a hygyrch at ddefnydd y cyhoedd.  Hefyd byddai'r argymhellion a ddeilliai o'r strategaeth hon yn cefnogi'r weledigaeth o Sir Gâr iach sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol, yn ogystal â darparu cefnogaeth i'r bobl, y busnesau a'r cymunedau yn y sir.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch glanhau toiledau cyhoeddus, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Trefol a Chydymffurfiaeth, er bod y Cyngor yn goruchwylio'r gwaith o redeg a gwasanaethu 19 o doiledau cyhoeddus ledled y Sir, mai gan Danfo oedd y contract ar hyn o bryd ar gyfer cadw'n lân y 9 bloc o doiledau cyhoeddus yr oedd Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y Cyngor yn gyfrifol amdanynt, ac roedd ymweliadau ychwanegol yn cael eu trefnu fel y bo'r angen. Ceir rhagor o wybodaeth mewn perthynas â chyfrifoldebau unigol pob cyfleuster yn Atodiad A o'r Strategaeth.

 

·         Cyfeiriwyd at yr adborth oedd wedi dod i law yn dilyn yr ymgynghoriad, a dywedwyd er nad oedd dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu toiledau, fod pryderon cryf ynghylch y ddarpariaeth ac ynghylch glendid, yn enwedig gan fod y Cyngor yn ceisio cynyddu twristiaeth ar draws y sir. Gwnaed sylw pellach a oedd yn adleisio'r pryder gan ychwanegu bod darparu toiledau yn hanfodol mewn lleoliadau i dwristiaid. 

 

·         Cafwyd ymholiad ynghylch toiledau ychwanegol, a dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff nad oedd gan y Cyngor unrhyw gynlluniau i ddarparu toiledau ychwanegol gan nad oedd cyllideb gyfalaf ar gael.  Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol ynghylch diffyg toiledau cyhoeddus mewn datblygiadau ar gyrion trefi fel Pensarn, Caerfyrddin, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff er nad oedd grym gan y Cyngor i fynnu bod datblygiadau newydd yn agor eu toiledau i'r cyhoedd, gellid ystyried opsiynau lle gallai'r Cyngor o bosibl dalu cyfraniad i annog busnesau i agor eu toiledau i'r cyhoedd.

 

·         Gofynnwyd a fyddai'n bosibl trosglwyddo perchenogaeth toiledau cyhoeddus i'r sector preifat?  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y gallai hyn fod yn opsiwn a byddai'n cael ei ystyried fesul achos unigol.

 

·         Cyfeiriwyd at y prosiect datblygu ym Mhentywyn a'r cynnydd mewn twristiaeth, a chodwyd pryder ynghylch y ddarpariaeth bresennol o ran toiledau cyhoeddus ym Mhentywyn.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Trefol a Chydymffurfiaeth fod prif floc y toiledau sy'n cynnwys 14 o doiledau wedi'u dymchwel er mwyn gwneud lle ar gyfer y datblygiad newydd.  Yn y cyfamser roedd rhywfaint o gyfleusterau ar gael; roedd cyfleuster Cliffside/Springwell wedi'i agor dros dro ar gyfer yr haf, a hynny am 24 awr y dydd, tra bo gwaith adeiladu'n cael ei wneud ar lan y môr ac roedd cyfleuster bach iawn yng Nghanolfan Parry Thomas.

 

·         Dywedwyd nad oedd yr ymgynghoriad wedi holi barn unrhyw dwristiaid oedd yn ymweld â Sir Gaerfyrddin.  Bu i'r Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff gydnabod y sylw a dywedodd mai un o'r argymhellion yn y strategaeth oedd ffurfio Gr?p Astudio'r Strategaeth Toiledau, a fyddai'n sbardun cychwynnol i gymathu'r holl wybodaeth berthnasol a gasglwyd ac sy'n cael ei dal ynghylch y ddarpariaeth gyhoeddus ar draws y Cyngor.  Pan fyddai'r gr?p astudio wedi cael ei greu, dywedwyd mai'r cam nesaf fyddai cysylltu â chynrychiolwyr busnes/masnachol lleol a grwpiau eraill i gael mewnbwn o ran cyfleoedd yn y dyfodol.

 

Cynigiwyd bod cynrychiolydd o'r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn mynychu Gr?p Astudio'r Strategaeth Toiledau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL:-

 

4.1   bod y Strategaeth Toiledau Lleol ddrafft yn cael ei chymeradwyo;

 

4.2    bod cynrychiolydd o'r Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn bresennol yng Ngr?p Astudio'r Strategaeth Toiledau.

 

 

Dogfennau ategol: