Agenda item

DIWEDDARIAD RHAGLEN DRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg drosolwg o'r adroddiad a thynnodd sylw'r Aelodau at dri amcan cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a'r chwe maes ffocws (a nodir ar dudalennau 9 a 10 o'r adroddiad).

 

Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Nododd yr Aelodau fod y llinell amser yn yr adroddiad yn eithaf tynn a gofynnwyd a oedd yr adran yn hyderus y gallai gyflawni'r gwaith gofynnol o fewn yr amserlen. Dywedodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol fod cryn dipyn o waith wedi'i wneud o ran cynyddu ymwybyddiaeth, gweithio mewn partneriaeth, yn benodol mewn perthynas â Chynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion (PCP), Cynlluniau Datblygu Unigol a Phontio Ôl-16. Roedd yr adran hefyd wedi nodi Hyrwyddwyr PCP i arwain hyfforddiant PCP, a ddylai sicrhau y bydd gan bob ysgol gynradd ac uwchradd Anogwr PCP erbyn diwedd 2020. Nodwyd hefyd bod yr awdurdod wedi arwain y cynllun peilot cychwynnol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn Ysgol Glan-y-Môr a'r ysgolion sy'n ei bwydo, ac o ganlyniad mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn gyfarwydd ag egwyddor PCP a CDU. Dywedodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol ei bod yn hyderus bod y gwaith angenrheidiol yn mynd rhagddo'n dda.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y bartneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y chwe awdurdod lleol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio gyda Swyddog Arweiniol Clinigol Addysg Dynodedig i gefnogi'r newidiadau. Er bod pryderon wedi'u mynegi mewn perthynas â chapasiti'r Bwrdd Iechyd i ddarparu clinigwr i fynychu pob ymweliad ysgol, mae'r Côd Ymarfer o fewn y Bil yn nodi'n glir yr hyn a ddisgwylir gan bob Bwrdd Iechyd a'i ddyletswydd mewn perthynas â darparu'r hyn sydd ei angen. Hefyd dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod yr awdurdod, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, yn rhoi mwy o bwyslais ar gyngor y Bwrdd Iechyd nag ar adroddiadau ffurfiol strwythuredig, gan nodi y gallai gymryd hyd at 26 wythnos i lunio CDU. Fodd bynnag, roedd presenoldeb y bobl gywir, e.e. Therapyddion Lleferydd ac Iaith ac ati, mewn cyfarfodydd cynllunio yn galonogol. Cydnabu hefyd fod achosion mwy cymhleth yn cael eu hadolygu'n flynyddol a bod angen dull mwy ffurfiol o weithredu yn ystod y broses honno. Dywedodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol fod gan y Bwrdd Iechyd Gr?p Llywio Amlasiantaeth y gall awdurdodau lleol weithio gydag ef, pe bai angen gwneud hynny.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y dulliau ymgynghori a nodwyd yn adran 5(ii) o'r adroddiad ac am ragor o wybodaeth. Dywedodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol mai'r blaenoriaethau oedd meithrin partneriaethau da rhwng rhieni a lleoliadau er mwyn cefnogi hawliau'r plentyn, a dylid cyfleu'r blaenoriaethau hyn yn glir i'r rhieni er mwyn iddynt allu deall beth i'w ddisgwyl. Roedd nifer dda'n bresennol yn y gweithdai a hysbysebwyd ac mae cysylltiadau â'r isadran cynhwysiant wedi gwella drwy ddefnyddio Swyddogion Cyswllt â Theuluoedd. Nododd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod gweithdai wedi'u cynnal ar draws y chwe awdurdod ac, yn ogystal â gwaith ar y wefan, bod yr awdurdodau wedi comisiynu SNAP Cymru i roi cyngor annibynnol i deuluoedd. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Cyfarwyddwr fod capasiti yn broblem o ran ymateb i ymatebion a'u rheoli.

 

Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth fanwl mewn perthynas â nifer y disgyblion â CDU a dywedodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol wrthynt fod y ffigur yn agos at gant, gan nodi y gellid cysylltu'r nifer uchel â'r ffaith bod yr awdurdod wedi cymryd rhan yn y cynllun peilot ar gyfer cyflwyno Cynlluniau Datblygu Unigol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr hyfforddiant sydd ar gael i Lywodraethwyr Ysgol, a nodwyd yn yr adroddiad fel cam gweithredu yn hydref 2018, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod gwrthdaro o ran rhyddhau'r hyfforddiant cyn i'r ymgynghoriad ar y Côd Ymarfer ddod i ben. Roedd hyfforddiant Haen 1 eisoes wedi mynd drwy'r broses gyfreithiol ac roedd yn barod i'w ddarparu ond mae'n bosibl y bydd angen addasu rhai agweddau ar hyfforddiant Haen 4 yn dilyn yr ymgynghoriad. Mewn ymateb i gwestiwn arall ynghylch y newidiadau tebygol i'r Côd Ymarfer ac a oedd yr awdurdod yn fodlon ar y côd newydd, dywedodd y Cyfarwyddwr fod y newidiadau i'r côd yn gadarnhaol ar y cyfan a'u bod yn canolbwyntio ar ffordd newydd o weithio. Byddai hefyd yn alinio'r 22 awdurdod lleol o dan un côd. Fodd bynnag, roedd rhai pryderon mewn perthynas â'r cyfarwyddyd ynghylch trosglwyddo cyfrifoldeb o ysgolion i'r awdurdod lleol heb fawr ddim i atal ysgolion o dan bwysau ariannol rhag trosglwyddo'r cyfrifoldeb am ADY i'r awdurdod lleol. Dywedwyd y byddai'r ymgynghoriad yn cau ar 16 Mehefin ac y byddai'r sefyllfa'n gliriach pan gyhoeddir y côd terfynol.

 

Cododd yr Aelodau fater datblygu'r gweithlu gan ofyn a oedd hyfforddiant penodol ar gael neu gyrsiau pwrpasol i gefnogi plant ag ADY yn yr ystafell ddosbarth. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod rhaglen hyfforddi genedlaethol  ar gyfer Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a oedd yn cynnig y cyfle i weithio tuag at gymhwyster. Mae hyfforddiant lleol a rhanbarthol hefyd ar gael i staff ysgolion. O ran uwchsgilio cynorthwywyr addysgu, dywedodd y Cyfarwyddwr fod Coleg Sir Gâr a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig cyrsiau mewn Datblygiad Plant a NVQ mewn cefnogi plant ag ADY. Roedd hyfforddiant ar gyfer Cydlynwyr ADY yn cael ei ddatblygu'n barhaus a byddai cwrs pedwar/pum diwrnod ynghylch y maes dan sylw yn cael ei gyflwyno'n ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Gofynnodd yr Aelodau sut mae cynnydd y cynllun gweithredu yn cael ei fonitro, yn lleol ac yn rhanbarthol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod gr?p strategol ar waith yn rhanbarthol i fonitro'r cynnydd yn gyffredinol ac mai ef oedd cadeirydd y gr?p hwnnw. Yn lleol, mae'r cynllun gweithredu yn rhan o'r Cynllun Busnes Adrannol a chaiff ei fonitro ochr yn ochr â mesurau perfformiad eraill. Nododd y Cyfarwyddwr hefyd fod rhywfaint o gapasiti ychwanegol i sbarduno rhai meysydd newid ac i olrhain a mapio datblygiad, ac y byddai cost hyn yn cael ei gwerthuso mewn perthynas â'i effaith maes o law. Dywedodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol fod Llywodraeth Cymru wedi dosbarthu arolwg o barodrwydd ar gyfer ADY a dylai'r canlyniadau amlygu meysydd lle mae angen datblygiad pellach.

 

Nododd y Cadeirydd fod ariannu ADY yn orwariant cyson i'r adran a bod y mater yn cael ei ystyried yn bwnc addas ar gyfer y Gr?p Gorchwyl a Gorffen nesaf. Cytunwyd y dylid paratoi dogfen gwmpasu ar y mater hwn i'r Aelodau ei hadolygu. Mewn ymateb i hyn, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y dylai'r gwaith o drawsnewid y gwasanaeth arwain at ostyngiad yn y costau, a rhoddodd enghraifft o'r arfer o gael cynorthwyydd i gefnogi disgybl ar gyfer gwers gyfan, pan fo angen cymorth o bosib ar ddechrau/ar ddiwedd gwers yn unig. Roedd y model newydd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd o ran sut y caiff disgyblion eu cefnogi a sut y gellir diwallu anghenion yn y ffordd fwyaf effeithiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1 derbyn y Diweddariad am y Rhaglen Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

4.2 y dylid cyflwyno dogfen gwmpasu ar Gyllid ADY yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 4 Gorffennaf 2019.

 

Dogfennau ategol: