Agenda item

CWESTIWN GAN CYNGHORYDD ROB EVANS I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, ynghyd â Llywodraeth Cymru, yn credo bod “Pob Plentyn yn Bwysig”. Dywedir wrthym hefyd fod rhai ar eu hennill a rhai ar eu colled bob amser o dan bob “Ffformiwla Ariannau Teg”. Fodd bynnag, os yw’r un ysgolion ar eu colled flwyddyn ar ôl blwyddyn, sut y gall hyn fod yn deg? Beth y gellir ei wneud I leihau’r anghydraddoldeb hwn?”

Cofnodion:

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, ynghyd â Llywodraeth Cymru, yn credu bod "Pob Plentyn yn Bwysig”. Dywedir wrthym hefyd fod rhai ar eu hennill a rhai ar eu colled bob amser o dan bob "Fformiwla Ariannu Teg". Fodd bynnag, os yw'r un ysgolion ar eu colled flwyddyn ar ôl blwyddyn, sut y gall hyn fod yn deg. Beth y gellir ei wneud i leihau'r anghydraddoldeb hwn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

"Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Cynghorydd Rob Evans am ei gwestiwn.

 

Cytunaf fod 'Pob Plentyn yn Sir Gaerfyrddin yn Bwysig' ac rydym yn gwneud ein gorau dros bob plentyn a phob person ifanc - yn ôl y cyfrifiad diwethaf roedd bron 28,000 ohonynt yn y Sir. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni weithio o fewn y Grant Cynnal Refeniw sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Byddai'n braf cael cyllideb deg o'r dechrau, yn ogystal â chyllideb amserol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, nid yw Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y gyllideb addysg. Yng nghyfarfodydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac wrth ymgynghori â Llywodraeth Lafur Cymru, rydym wedi gofyn am hynny, ond dywedwyd wrthym fod rhaid i ni flaenoriaethu addysg. Byddai rhai pobl yn ystyried hon yn broblem sydd bron yn amhosibl i'w datrys. Hynny yw, ein cyfrifoldeb ni fydd cyflawni hynny gan gadw at gyllideb sy'n lleihau ar adeg ariannol anodd. Felly, dim ond yr wythnos diwethaf gwnaethom dderbyn £1.9 miliwn y dylem fod wedi'i dderbyn ar y dechrau, ond rydym wedi'i gael tri mis ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol. Mae hynny hefyd yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn pennu'r gyllideb.

 

Mae'r weinyddiaeth hon wedi gweithio mor galed i amddiffyn cyllideb yr ysgolion ac nid ydym wedi lleihau'r gyllideb a ddyrennir i ysgolion, yn wahanol i'r hyn y mae llawer o Gynghorau Sir eraill wedi gorfod ei wneud. Nid yw hyn wedi bod yn wir ar gyfer meysydd gwasanaeth eraill lle bo toriadau'r gyllideb wedi cael effaith fawr.

 

O dan Reoliadau Cyllid Ysgolion Cymru Gyfan 2010, sy'n berthnasol i'r holl Gynghorau Sir yng Nghymru, sef pob awdurdod, mae cyllideb yr ysgolion unigol yn cael ei dyrannu i ysgolion ar ffurf cyfrannau yn y gyllideb, gan ddefnyddio fformiwla cyllido a bennir yn lleol. Mae cynnwys y fformiwla'n cael ei bennu gan ddeddfwriaeth Llywodraeth Leol, ac mae llawer o agweddau'n gyffredin i'r holl Gynghorau. Fodd bynnag, mae ychydig o hyblygrwydd er mwyn adlewyrchu amgylchiadau a blaenoriaethau lleol.

Cyn dechrau cyfnod cyllido, mae'n rhaid i awdurdod lleol bennu'r fformiwla y bydd yn defnyddio i bennu cyfrannau'r ysgolion yn y gyllideb yn ystod y cyfnod cyllido hwnnw, gan ystyried y ffactorau, y meini prawf a'r gofynion a nodir yn y Rheoliadau.

Wrth bennu cyfrannau'r ysgolion yn y gyllideb, mae'n rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod ei fformiwla'n nodi bod o leiaf 70% o'r cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail nifer y disgyblion.  Caiff awdurdodau ddewis wedyn i ddyrannu'r 30% sy'n weddill ar sail ystod o ffactorau er mwyn iddynt ystyried amgylchiadau ysgolion unigol.

Duw a’n gwaredo pe byddai Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo gormod o gyfrifoldeb i'r llywodraethau lleol. Yn Atodlen 3 i Reoliadau 2010, maent yn manylu ar y meini prawf ychwanegol y gallent eu hystyried fel Awdurdod Lleol wrth bennu'r fformiwla honno am 30%, ac maent yn cynnwys meysydd megis Anghenion Addysg Arbennig, Cyfleustodau, Cyfraddau Cenedlaethol Annomestig, safleoedd, maint yr ysgol, safleoedd ar wahân, glanhau, iaith ac eraill lle na fyddai nifer y disgyblion yn ffactor priodol. Maent yr un peth ar gyfer yr holl awdurdodau yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd gwahaniaethau o ran eu pwysigrwydd a'u pwyslais a'u gwerth am yr arian gan fod pob ardal Cyngor Sir yn wahanol. Yn ogystal â hynny, mae'r holl ysgolion yn wahanol ac felly mae'n rhesymegol na fyddai dwy ysgol yn denu'r un cyllid oherwydd yr amgylchiadau lleol a'r meini prawf lleol.

 

Gan gyfeirio at eich cwestiwn o ran 'rhai ar eu hennill a rhai ar eu colled', mae'r fformiwla a ddefnyddir gennym i gyllido ysgolion yn ddull teg a chyfartal o ddyrannu oherwydd ei fod yn cael ei defnyddio i gyllido'n holl ysgolion - mae pob ysgol yn cael ei thrin yn yr un ffordd. Fodd bynnag, pan fyddwch yn newid sail dyrannu neu swm o fewn yr un cyfanswm, bydd y newid yn y cyfrannau fesul ysgol yn gyfuniad o godiadau a gostyngiadau. Mewn geiriau eraill, mae maint y deisen yn aros yr un peth, ond gall maint y dafell amrywio. Y rheswm dros newid y sail dyrannu yw adlewyrchu'r anghenion, y datblygiadau a'r pwysau presennol ar draws y sectorau ysgolion.

Achos y newid mwyaf sylweddol yn y sector cynradd yw cynnydd neu ostyngiadau yn nifer y disgyblion. Y prif resymau dros hyn yw'r gostyngiad yn nifer y disgyblion, nifer yr ysgolion sydd ar gael mewn ardal gymharol fach a dewis rhieni.

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod gwaith ein Penaethiaid, ein swyddogion cyllid a'r Llywodraethwyr Ysgol sydd wedi bod yn gweithio'n galed i weithredu o fewn yr adnoddau a neilltuir iddynt, ac rwy'n cydnabod ei bod hi'n adeg heriol i'r holl ysgolion a holl wasanaethau'r Cyngor Sir. Fodd bynnag, yn ystod adeg ariannol anodd, mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd a cheisio gweithredu o fewn yr adnoddau a roddir i ni."

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.