Agenda item

YMESTYN GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS (GORCHMYNION C?N SIR GAERFYRDDIN)

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad yn manylu ar gynnig i ymestyn Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus 2016 [Gorchmynion C?n Sir Gaerfyrddin] presennol ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Daeth y gorchymyn gwreiddiol i rym ar 1 Gorffennaf 2016 am gyfnod o 3 blynedd ac roedd y cyfnod hwnnw yn dod i ben. Y farn oedd bod angen ymestyn y gorchymyn neu fel arall ni fyddai'r rheolaethau presennol yn berthnasol mwyach ar ôl 1 Gorffennaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

7.1 bod hyd Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheolaethau C?n) Cyngor Sir Caerfyrddin 2016 yn cael ei ymestyn am gyfnod pellach o 3 blynedd o 1 Gorffennaf 2019 ymlaen;

7.2 bod y Cyngor yn gwneud Gorchymyn Ymestyn i weithredu'r estyniad uchod ac yn cymeradwyo Gorchymyn 2016 â geiriad addas er mwyn adlewyrchu'r ffaith fod hyd Gorchymyn 2016 wedi cael ei ymestyn.

 

Dogfennau ategol: