Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad
Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 3 - 1 Ebrill i 31 Rhagfyr
2018, a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau a'r
mesurau yn Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018/19 o ran
cyflawni'r Amcanion Llesiant o fewn ei faes gorchwyl.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr
adroddiad:-
- Cyfeiriwyd at y ffaith bod y modd y cafodd
yr adroddiad ei gyflwyno yn annerbyniol, cyfeiriwyd at destun oedd
ar goll a fformat y data. Roedd yr
Uwch-swyddog Rheoli Perfformiad yn cydnabod y cafwyd anawsterau o
ran fformatio'r adroddiad a gafwyd o'r System Monitro Perfformiad a
Gwella (PIMS) a sicrhaodd y Pwyllgor y byddai gwelliannau'n cael eu
gwneud i adroddiadau yn y dyfodol.
- Cyfeiriwyd at y mesur sy'n ymwneud
â'r nifer cyfartalog o ddiwrnodau
gwaith a gymerir i glirio achosion o dipio anghyfreithlon. Codwyd
cwestiwn yngl?n â'r statws
perfformiad nad oedd wedi cyrraedd y targed ac os oedd hyn o
ganlyniad i gyflwyno'r rheolau newydd.
Yn ôl y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff, er y
bu ychydig o gynnydd mewn tipio anghyfreithlon, ar y cyfan nodwyd
nad oedd y targed wedi'i gyrraedd yn bennaf oherwydd y newidiadau
yn y dulliau categoreiddio a chofnodi.
Mewn ymateb i sylwadau a godwyd mewn perthynas
â'r cynnydd mewn tipio
anghyfreithlon a'r cyfrifoldeb o dipio anghyfreithlon ar dir
preifat, pwysleisiodd y Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a
Gwastraff pe bai tipio anghyfreithlon yn digwydd ar dir preifat,
cyfrifoldeb y tirfeddiannwr fyddai i waredu unrhyw eitemau a
gafodd eu tipio. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn
gweithio gydag asiantaethau partner pan fo'n briodol gan gynnwys yr Heddlu, Cyfoeth
Naturiol Cymru a sefydliadau eraill ar sail amlasiantaethol i helpu i fynd i'r afael â
thipio anghyfreithlon ar dir preifat.
Mewn ymateb i ymholiad pellach, dywedodd y Pennaeth
Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'n cysylltu
â'r grwpiau gorfodi mewnol i ymchwilio i ffyrdd posibl o roi
cymorth ar gyfer achosion o dipio anghyfreithlon ar dir
preifat.
Codwyd nifer o faterion yn ymwneud â'r newidiadau diweddar i'r canolfannau
ailgylchu. Ategodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a
Gwastraff i'r Pwyllgor y rhesymau pam
yr oedd angen y newidiadau ac esboniodd fod gwefan y Cyngor yn
cynnwys gwybodaeth am y canlynol:-
Oriau agor newydd y
canolfannau ailgylchu
Yr hyn sy'n ofynnol o ran
prawf preswylio
Pam y mae cynllun hawlen yn
cael ei gyflwyno
Sut y mae'r cynllun hawlen
yn gweithio
Gwybodaeth am wneud cais am
hawlen
Pa fath o gerbydau sydd
angen hawlen.
Pa gerbydau sydd wedi cael
eu gwahardd
Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Pennaeth
Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff nad oedd y daflen a roddai
ganllawiau ar y math o gerbydau sy'n cael mynediad i ganolfannau
ailgylchu a ddarparwyd i Aelodau'r Pwyllgor ym mis Chwefror wedi
newid, gan fod nodau cyffredinol y cyfyngiadau'r un fath. Fodd
bynnag, roedd newidiadau wedi'u gwneud yn y modd y cafodd ei
gyflwyno i ddarparu rhagor o eglurder ar y mathau/grwpiau o
gerbydau a byddai'n anfon y fersiwn derfynol at Aelodau'r
Pwyllgor.
- Cyfeiriwyd at ddiffyg targed ar gyfer y cam
gweithredu yn ymwneud â lleihau'r defnydd o ynni/allyriadau
carbon ym mhortffolio adeiladau annomestig presennol y Cyngor (mae
cam gweithredu 13251 yn cyfeirio at hyn). Nodwyd bod angen gosod targed clir ar gyfer y cam
gweithredu hwn er mwyn i'r Cyngor ymdrechu i weithio tuag at
ganlyniad sy'n seiliedig ar ganlyniadau. Nodwyd ymhellach, ar hyn o
bryd, heb darged penodol, mai ' busnes fel arfer ' oedd y cam
gweithredu ac er ei bod yn braf nodi bod mesurau'n cael eu
gweithredu i leihau'r defnydd o ynni, gofynnwyd sut yr oedd
llwyddiant yn cael ei fesur? Dywedodd y
Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'r sylwadau
a fynegwyd yn cael eu trosglwyddo i'r adran berthnasol ac efallai y
byddai modd cynnwys y mesur hwn yn y Cynllun Gweithredu Di-garbon
Net.
- Cyfeiriwyd at yr adolygiad o'r cyfraddau
presennol ar gyfer ailgylchu gwastraff y cartref er mwyn sicrhau
bod cymaint â phosibl o wastraff yn cael ei ddargyfeirio o
safleoedd tirlenwi ac er mwyn cynyddu ailgylchu. Gofynnwyd a oedd y rhaglen o ddrws i ddrws wedi'i
chwblhau ac, os felly, pa aelwydydd oedd yn rhan o'r
rhaglen? Dywedodd y Pennaeth
Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y rhaglen o ddrws i ddrws
bellach wedi'i chwblhau ac y byddai'n anfon rhestr o'r aelwydydd yr
ymwelwyd â hwy fel rhan o'r rhaglen at yr
Aelodau.
- O ran buddsoddi yn Llwybr Beicio Dyffryn
Tywi (mae cam gweithredu 13264 yn cyfeirio at hyn), cydnabuwyd er
ei bod yn braf gweld y datblygiad yn mynd rhagddo, gofynnwyd pam
mae angen buddsoddiad ariannol mawr i ddatblygu llwybrau beicio a
oedd eisoes yn bodoli. Esboniodd y
Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod ceisiadau am gyllid a
gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ar gyfer
Teithio Llesol yn cael eu blaenoriaethu gan Deithio Llesol ar
ôl hynny.
- Yn dilyn cais am ddiweddariad ar y camau
gweithredu sy'n ymwneud â gwella integreiddio'r rhwydwaith
trafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys gwasanaethau rheilffordd yn Sir
Gaerfyrddin (mae cam gweithredu 13269
yn cyfeirio at hyn), rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd
esboniad ar lafar o sefyllfa'r cyllid, a oedd wedi bod yn gostwng
flwyddyn ar ôl blwyddyn dros yr 8 mlynedd diwethaf yn
anffodus. Roedd astudiaethau'n parhau
mewn cysylltiad â gwella'r gwasanaeth rheilffordd o'r Dwyrain
i'r Gorllewin ac fel y nodwyd yn y camau gweithredu, roedd y gwaith
eisoes wedi dechrau ar y gwelliannau, fodd bynnag, cydnabuwyd bod
llawer iawn o waith eto i'w wneud.
- Cyfeiriwyd at y camau a oedd yn cael eu
cymryd i wella'r seilwaith ar gyfer defnyddio cerbydau trydan (mae
cam gweithredu 13270 yn cyfeirio at hyn). Nodwyd nad oes gan Gyngor Sir Caerfyrddin bolisi o
ran gwefru ceir trydan ar hyn o bryd ac y gallai'r Cyngor fod yn gwneud mwy o ran sicrhau bod
datblygiadau masnachol preifat yn darparu cyfleusterau ar gyfer
gwefru ceir trydan. Esboniodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd,
er mwyn sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cynnwys y seilwaith
sy'n ofynnol ar gyfer y nifer cynyddol o gerbydau trydan, ac i
gynorthwyo gyda dyheadau Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer defnyddio
cerbydau trydan yn y dyfodol, bydd disgwyl i bob datblygiad yn y
dyfodol ddarparu pwyntiau gwefru mewn canran o'r ddarpariaeth
barcio. Byddai hyn yn cael ei alluogi drwy gyfrwng Canllaw Dylunio
Priffyrdd y Cyngor sy'n nodi y bydd y Cyngor yn disgwyl i bwyntiau
gwefru trydan gael eu darparu ar gyfradd o 3% o blith y
ddarpariaeth barcio gyffredinol ym mhob datblygiad masnachol a bod
manylion am sut y byddai datblygwyr yn darparu ac yn rheoli hyn yn
cael eu cynnwys mewn Asesiad Trafnidiaeth ategol.
- Gofynnwyd am ddiweddariad o ran cynnydd mewn
perthynas â'r prosiect LED -
Buddsoddi i Arbed a'r Cynghorau Tref a Chymuned. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod
y Bwrdd Gweithredol wedi cymeradwyo'r rhaglen Buddsoddi i Arbed gan
ganiatáu i gam nesaf y prosiect ddechrau. Byddai cynnig yn cael ei anfon at Gynghorau Tref a
Chymuned yn fuan.
Yn ogystal, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol
dros yr Amgylchedd y byddai'r cynnig hefyd yn cael ei gyflwyno yng
nghyfarfod nesaf y Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned sydd i'w gynnal
ar 19 Mehefin 2019. Byddai cyfle i'r
rhai a fyddai'n bresennol i ofyn cwestiynau ynghylch y prosiect
newid i oleuadau LED ac i gyfleu unrhyw bryderon ynghylch y
cynnig.
Gofynnwyd a fyddai unrhyw gyfle i
Gynghorau Tref a Chymuned gymryd cyfrifoldeb dros y goleuadau, yn
enwedig ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu. Eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd wrth
y Pwyllgor, o dan adran 38 o Ddeddf Priffyrdd 1980, y gallai
awdurdod lleol lunio cytundeb cyfreithiol gyda datblygwr i
fabwysiadu priffordd, ar yr amod bod y briffordd wedi cael ei
hadeiladu i safon benodedig ac mewn modd sy'n bodloni'r awdurdod
priffyrdd lleol. Fodd bynnag, yn ystod y broses drawsgludo yn aml
nid yw rhai preswylwyr yn ystyried nad oes gorfodaeth ar yr
awdurdod priffyrdd i ymrwymo i gytundeb adran 38.
Nododd y Cadeirydd ei fod wedi cael
ymateb i lythyr y Pwyllgor a anfonwyd at yr Aelod Cynulliad mewn
perthynas ag adolygu cytundeb adran 38 (Agenda 5 ar 10 Rhagfyr 2018
yn cyfeirio at hyn). Roedd y llythyr yn
cydnabod pryderon y Pwyllgor ac yn tynnu sylw at y ffaith bod
Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu a fyddai'n ceisio datrys y
problemau parhaus o ran ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu.
- Gan gyfeirio at weithred 13191, mynegwyd
pryder ynghylch geiriad y cam gweithredu. Teimlwyd y dylid pennu targed clir yn hytrach na
nodi 'byddwn yn parhau i fonitro' er
mwyn gweithio tuag at leihau'r lefelau NO2 presennol o
fewn yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer a nodwyd. Roedd y Pennaeth Cartrefi Chymunedau Mwy Diogel yn
cydnabod nad oedd targed penodol ar gael ac y byddai'n cysylltu
â'r tîm ar y mater
hwn.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr
Amgylchedd y byddai'r Cyngor yn cael anawsterau i wella ansawdd aer
mewn mannau penodol oherwydd y cynnydd yn nifer y ceir a'r
cartrefi. Adleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd
Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd y sylwadau a chytunodd y
byddai'r cynnydd yn nifer y cerbydau ar y ffyrdd yn peri anawsterau
o ran cael effaith gadarnhaol ar ansawdd yr aer.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn
cael ei dderbyn.