Agenda item

CYFLWYNO'R RHAGLEN CREDYD CYNHWYSOL LAWN YN SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad trosolwg ynghylch y cymorth a ddarperir gan y Cyngor, ei bartneriaid a'i randdeiliaid, i breswylwyr Sir Gaerfyrddin yn sgil cyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin ar 12 Rhagfyr 2018 h.y.:-

 

·        Cymorth ar gyfer Tenantiaid y Cyngor;

·        Cymorth ar gyfer Hawlwyr Budd-dal Tai;

·        O Ebrill 2019 bydd y contract ar gyfer Cymorth Digidol a chyllidebu personol yn cael ei drosglwyddo i'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth;

·        Cymorth mewn perthynas â chamfanteisio ariannol drwy Safonau Masnach;

·        Cyfeirio pobl at gymorth drwy 'Yr Hwb’;

·        Cymorth ar gyfer Cyn-filwyr.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod 700 o breswylwyr yn y Sir wedi trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol hyd yn hyn, a bod 200 o'r rhain yn denantiaid y Cyngor. Er bod y Llywodraeth wedi cynnig rhaglen reoledig dorfol i symud pobl i Gredyd Cynhwysol, ni fyddai hynny'n dechrau bellach hyd nes bod canlyniadau "rhaglen symud reoledig" beilot yn hysbys a fyddai'n dechrau ym mis Gorffennaf 2019, er ei bod yn cynnwys dim ond 10,000 o hawlwyr mewn awdurdodau lleol yn Lloegr. Fodd bynnag, roeddent yn rhagweld y byddai'r rhaglen symud reoledig lawn yn cael ei chwblhau o hyd erbyn Rhagfyr 2023.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch rhoi cymorth digidol i hawlwyr budd-daliadau, dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau a'r Dreth Gyngor er y rhagwelwyd yn wreiddiol y byddai'r cymorth hwnnw yn cael ei ddarparu drwy wasanaeth llyfrgelloedd y Cyngor , ni fyddai hynny'n digwydd bellach o 1 Ebrill, 2019 yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i ddyfarnu'r Contract Cyllidebu Personol a Chymorth Digidol i'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Fodd bynnag, petai aelod o'r cyhoedd yn gofyn am Gymorth Digidol yn un o lyfrgelloedd y Cyngor hyd at 31 Mawrth, 2019 byddai'r cymorth hwnnw'n cael ei ddarparu ar y cyd â'r Adain Budd-daliadau.

·        Cyfeiriwyd at ddyfarnu'r contract Cymorth Digidol a pha effaith y gallai hynny ei chael ar berthynas a chysylltiadau'r Cyngor â'r Adran Gwaith a Phensiynau.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cwrdd â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth i roi cynllun ar waith i roi cymorth cyfannol i hawlwyr Credyd Cynhwysol. Er y byddai'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn rhoi cymorth hyd at daliad llawn cyntaf Credyd Cynhwysol yn unig, byddai'r Cyngor yn parhau i ddarparu amrywiaeth o gymorth, er enghraifft cyllidebu personol a Thaliadau Tai yn ôl Disgresiwn.

 

Roedd y Cyngor hefyd yn gweithredu 'Porth Landlordiaid Dibynadwy' a chyn gynted ag y rhoddir gwybod bod un o denantiaid landlord yn trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol byddai swyddog tai yn cysylltu ag ef/hi i gynnig cyngor a chymorth. Byddai hynny ar ffurf galwad ffôn ac ymweliad cartref, os bydd angen, lle y gellid darparu cymorth digidol heb fod angen cyfeirio rhywun at y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.

·        Cyfeiriodd yr adroddiad at 160 o denantiaid y Cyngor sy'n cael Credyd Cynhwysol, a oedd wedyn yn cynyddu i 200 o denantiaid. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oeddent wedi dod ar draws unrhyw anhawster o ran y system newydd.

 

Dywedwyd, er mwyn paratoi ar gyfer y dyddiad trosglwyddo ar 12 Rhagfyr, 2018, fod yr adran wedi targedu ac wedi ymweld â mwy na 1,000 o bobl i gael gwybod a oedd ganddynt y sgiliau angenrheidiol a mynediad at offer TG. Dywedwyd bod pobl yn ymdopi â'r system newydd yn gyffredinol ac mai'r unig fater o bwys oedd oedi cyn derbyn taliadau a oedd wedi achosi i rai tenantiaid fynd i ôl-ddyledion.  Yn yr achosion hynny, roedd yr adran wedi ymdrechu i ddarparu cymorth lle bo hynny'n bosibl drwy fudd-daliadau tai.

 

Tra oedd y gwaith o weithredu Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin yn ei ddyddiau cynnar, awgrymwyd y gallai fod yn fuddiol i'r Pwyllgor gael adroddiad diweddaru ar y mater yn ddiweddarach. Gallai hynny hefyd gynnwys gwahodd yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth i'r cyfarfod i glywed am eu profiad o'r broses gyflwyno.

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch darparu cymorth mewn perthynas â'r ffurflenni cais ar-lein, cadarnhawyd y gallai swyddogion tai roi cymorth wrth ymweld â chartrefi pobl. Roedd cymorth hefyd ar gael yn hybiau ardal y Cyngor ac mewn Canolfannau Gwaith.

·        Cyfeiriwyd at Dalebau Banc Bwyd a pha fesurau oedd wedi cael eu rhoi ar waith i helpu pobl mewn angen yn dilyn penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau i beidio â'u rhoi. Nodwyd y byddai angen i'r adran fynd i'r afael ag unrhyw effaith yn sgil y penderfyniad hwnnw fel rhan o'r gwerthusiad o gyflwyno Credyd Cynhwysol a gellid cynnwys hyn yn yr adroddiad diweddaru i'w gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol. Roedd yr adran hefyd wedi neilltuo arian i gynorthwyo'r banciau bwyd yn y sir gan ragweld y gallai fod cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau.

·        Cadarnhawyd petai'r adran yn ymwybodol o unrhyw denantiaid y Cyngor sydd wedi mynd i drafferthion yn dilyn symud i Gredyd Cynhwysol, y byddai'n cynnal ymweliadau dilynol ac yn gwneud gwaith monitro i roi cyngor a chymorth a bod yn gyswllt â'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Canolfannau Gwaith i drafod y pryderon hynny. Roedd gan yr adran hefyd fynediad uniongyrchol at ddau o swyddogion perthynas yr Adran Gwaith a Phensiynau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

5.1

Derbyn yr adroddiad.

5.2

Cyflwyno adroddiad diweddaru ynghylch proses gyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin yn y cyfarfod mewn chwe mis i gynnwys y wybodaeth diweddaraf am fanciau bwyd.

5.3

Gwahodd yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth i'r cyfarfod pan fyddai'r adroddiad yn 5.2 yn cael ei ystyried.

 

 

Dogfennau ategol: