Agenda item

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2019/20 - 2023/24

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2019/20 hyd at 2023/2024. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.

 

Nododd y Bwrdd mai £104.708m oedd gwariant gros arfaethedig y rhaglen gyfalaf am 2019/20. Y bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £59.109m o'r rhaglen drwy ddefnyddio benthyciadau, derbyniadau cyfalaf, arian wrth gefn a'r grant cyfalaf cyffredinol a bod y £45.599m oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol. Dywedwyd wrth y Bwrdd y rhagwelid y byddai'r rhaglen gyfalaf yn cael ei chyllido'n llawn dros y cyfnod o bum mlynedd o 2019/20 drwodd i 2023/24.

 

Hysbysodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y Bwrdd y byddai'r rhaglen dreigl bum mlynedd yn gwireddu buddsoddiad o bron £261m i gyd (amcangyfrifwyd y byddai cyllid y Cyngor Sir yn £133m a £128m o gyllid allanol). Fodd bynnag, yn yr un modd â'r setliad refeniw, nid oedd yr awdurdod wedi cael unrhyw ragamcanion oddi wrth Lywodraeth Cymru gyda golwg ar gyllid cyfalaf cyffredinol y tu hwnt i 2019/10. O ganlyniad, roedd y rhaglen yn seiliedig ar fod benthyca â chymorth, a grant cyffredinol, y blynyddoedd i ddod ar yr un lefel ag y byddent yn 2019/20. Fodd bynnag, roedd grant cyfalaf ychwanegol at ddibenion cyffredinol wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o dair blynedd o 2018/19 i 2020/21 a oedd yn dod i ryw £6.6m, a oedd wedi'i gynnwys o fewn y rhaglen cyfalaf 5 mlynedd.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod nifer o gynlluniau ychwanegol newydd wedi'u cynnwys fel rhan o'r rhaglen, er enghraifft:

·        Yr Adran Cymunedau - roedd yna gyllid newydd ar gyfer Canolfan Hamdden Dyffryn Aman ynghyd â pharhau i gefnogi tai'r sector preifat yn 2023/24 ar gyfer Grant Cyfleusterau i'r Anabl

·        Adran yr Amgylchedd - parhau i gefnogi gwelliannau priffyrdd, cynnal a chadw pontydd a chynlluniau diogelwch ffyrdd i mewn i 2023/24 a hefyd Llwybr Dyffryn Tywi yn 2019/20. Yn ogystal, o ganlyniad i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, gwnaed cynnydd o £1.5m ychwanegol y flwyddyn am dair blynedd i'r gwariant a glustnodwyd ar gyfer adnewyddu ffyrdd.

·        Roedd y Rhaglen Moderneiddio Addysg wedi cael ei diwygio ar gyfer blynyddoedd 2019/20 i 2023/24, ac roedd cyllidebau wedi'u hail-broffilio a rhai cynlluniau newydd wedi'u cyflwyno gan gynnwys Ysgolion Cymraeg Cydweli, yr Hendy, Llandeilo a'r ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwy ffrwd yn Rhydaman. Bu hyn yn bosibl o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ei bod yn cymeradwyo rhaglen Band B y Cyngor a fyddai'n rhedeg tan 2024, a'r prif newid oedd cynyddu'r gyfradd ymyrryd o 50% i 65% ar gyfer ysgolion ac o 50% i 75% ar gyfer ysgolion arbennig. Roedd y cynnydd hwnnw wedi rhoi cyfle i'r awdurdod ddarparu rhagor o ysgolion o fewn y rhaglen Band B gwerth £129.5m.

·        Mae cyllidebau Adfywio a'r Prif Weithredwr bellach yn cynnwys cynlluniau'r Fargen Ddinesig, gan gynnwys y Pentref Llesiant a'r Egin. Roedd Canolfan Hamdden arfaethedig Llanelli a'r adolygiad o Ardal Llanelli hefyd wedi'u nodi fel cydran allweddol o fewn datblygiad arfaethedig y Pentref Llesiant. Roedd yna hefyd gefnogaeth barhaus ar gyfer Cronfa Prosiectau'r Strategaeth Drawsnewid o fewn yr adran Adfywio ar gyfer 2023/24 a oedd â'r potensial o gael cyllid allanol fel arian cyfatebol i gyllideb y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

7.1

bod y cyllid a'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd, fel y'u nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad, gyda 2019/20 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2020/21 i 2023/24 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael eu cymeradwyo;

7.2

bod y rhaglen yn cael ei hadolygu, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i gael y cyllid disgwyliedig gan gyrff allanol neu'r Cyngor Sir.

7.3

bod y Strategaeth Gyfalaf, fel y manylir arni yn Atodiad C, yn cael ei chymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: