Cofnodion:
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law am Drwydded Safle ar gyfer Y Ganolfan Ddarganfod, Doc y Gogledd, Llanelli, SA15 2LF i ganiatáu'r canlynol:
· Cyflenwi Alcohol - Dydd Llun i ddydd Sul 09:00 – 23:00;
· Oriau Agor - dydd Llun i ddydd Sul 08:00-00:00
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:
· Atodiad A – Copi o'r cais
· Atodiad B – Sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys
· Atodiad C – Sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill
Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cais.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a gafwyd cyn y gwrandawiad gan y partïon.
Dywedwyd wrth yr Is-bwyllgor fod Heddlu Dyfed-Powys wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y cais, ond bod y naill ochr a'r llall wedi dod i gytundeb ers hynny.
Ar hynny, cafodd yr Is-bwyllgor a'r ymgeisydd gyfle i ofyn cwestiynau.
Yna anerchodd yr ymgeisydd yr Is-bwyllgor gan ddweud:-
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r ymgeisydd am ei sylwadau.
Derbyniodd yr Is-bwyllgor sylw ar lafar gan gymydog i fusnes yr ymgeisydd yn 'Langland Brasserie' a oedd yn cefnogi'r cais:
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r cefnogwr ynghylch ei sylwadau.
Ni chafodd yr Is-bwyllgor unrhyw sylw ar lafar gan y gwrthwynebydd gan nad oedd yn bresennol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau trwyddedu yr oedd yr ymgeisydd a'r heddlu wedi cytuno arnynt.
RHESYMAU
Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;
1. Nid oedd tystiolaeth fod gan yr ardal na'r safle hanes o droseddau ac anhrefn cysylltiedig ag alcohol.
2. Roedd yr ymgeiswyr yn brofiadol yn rhedeg y math hwn o fusnes gan eu bod yn rhedeg busnes tebyg yn Abertawe.
3. Nid oedd dim tystiolaeth wedi cael ei chyflwyno i awgrymu bod y modd roedd y busnes hwnnw'n cael ei redeg yn tanseilio'r amcanion trwyddedu.
4.
Mae'r ymgeisydd a'r heddlu
wedi cytuno ar set o amodau y maent yn credu ei bod yn briodol eu
hychwanegu at y drwydded er mwyn hyrwyddo amcanion
trwyddedu.
5. Nid oedd unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol wedi gwrthwynebu caniatáu'r drwydded.
Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.
Mae'r Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallant roi ystyriaeth briodol iddynt.
Er nad yw'r Is-bwyllgor yn amau fod pryderon Mr Powles yn rhai dilys, nid oedd Mr Powles nac unrhyw un arall wedi cyflwyno tystiolaeth wirioneddol a gefnogai'r pryderon hyn. Yn yr un modd, nid oedd materion yn ymwneud â'r 'angen' am safle alcohol yn faterion y gallai'r Is-bwyllgor eu cymryd i ystyriaeth.
Nid oedd dim tystiolaeth wedi'i chyflwyno i'r Is-bwyllgor a awgrymai fod barn broffesiynol yr heddlu am y cais hwn yn anghywir neu y dylid gwyro oddi wrthi.
Yn unol â hynny canfu'r Is-bwyllgor mai priodol oedd caniatáu'r cais, yn amodol ar yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt rhwng yr ymgeisydd a'r heddlu, a bod hwn yn gam cymesur o gofio holl ffeithiau'r achos.
Dogfennau ategol: