Agenda item

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod bryd y Pwyllgor Cynllunio ar gymeradwyo'r cais canlynol, yn amodol ar ddatrys y materion a godwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch yr Asesiad Canlyniad Llifogydd, gohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru ynghylch y Cyfarwyddyd Erthygl 18, a'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:

 

S/36948 – Datblygiad Llesiant a Gwyddor Bywyd gan gynnwys: Canolfan Iechyd Cymuned (Sefydliad Gwyddor Bywyd, Canolfan Addysg Llesiant a Chanolfan Darpariaeth Glinigol) hyd at 16,500 metr sgwâr (Dosbarthiadau Defnydd: D1 Sefydliad Amhreswyl, B1 (B) Ymchwil a Datblygu o ran Busnes, a C2 Sefydliad Preswyl). Canolfan Fusnes Gwyddor Bywyd (swyddfeydd yn y Sector Ymchwil a Datblygu) hyd at 10,000 metr sgwâr (Dosbarth Defnydd: B1 (B) Ymchwil a Datblygu o ran Busnes a B2 Diwydiant Ysgafn).Canolfan Llesiant (canolfan ymwelwyr a chyfleusterau corfforaethol, cymunedol, hamdden a chwaraeon) hyd at 11,000 metr sgwâr (Dosbarth Defnydd: D2 Ymgynnull a Hamdden). Byw â chymorth (gofal nyrsio, gofal preswyl, tai gofal ychwanegol a chyfleusterau adsefydlu clinigol) sy'n cynnwys hyd at 370 o welyau/unedau a 7,500 metr sgwâr (Dosbarthiadau Defnydd: C2 Sefydliad Preswyl, C3 (A) a C3 (B) Preswyl). Lle hamdden awyr agored cysylltiedig, mannau hamdden a therapi; tirweddu a llecynnau cyhoeddus; seilwaith ynni a'r cyfleustodau; mynediad a lleoedd parcio ar dir yn Llynnoedd Delta, Llanelli, ym Mhentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli, tir yn Llynnoedd Delta, Llanelli.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod llythyr wedi dod i law oddi wrth Lywodraeth Cymru ers i'r agenda a'r atodiad gael eu cyhoeddi. Roedd y llythyr yn nodi y gofynnwyd i Weinidogion Cymru alw'r cais i mewn ac ystyried penderfynu ynghylch y cais eu hunain. Felly, roedd y llythyr yn cyfarwyddo'r Awdurdod Cynllunio Lleol [yn unol ag Erthygl 18 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012] i beidio â chaniatáu'r cais cynllunio cyn iddo gael ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru. Roedd y llythyr yn nodi bod y Cyfarwyddyd hwn ond yn atal y Cyngor rhag caniatáu'r cais cynllunio. Nid oedd yn atal yr Awdurdod a'r Pwyllgor Cynllunio rhag parhau i brosesu ac ymgynghori ynghylch y cais neu rhag gwrthod y cais cynllunio. Dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn dal i aros am benderfyniad Gweinidogion Cymru ynghylch a fyddant yn galw'r cais i mewn neu beidio er mwyn iddynt benderfynu yn ei gylch. Os oedd bryd y Pwyllgor ar gytuno â'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad a'r atodiad, byddai'n gwneud penderfyniad heddiw fod ei fryd ar gymeradwyo'r cais hyd nes y gwneir penderfyniad ynghylch galw'r cais i mewn.

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r datblygiad uchod ac a ailbwysleisiai’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:

 

·         Nid oedd yr asesiad llifogydd yn rhoi ystyriaeth lawn i effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd. Mae'r safle yn agored i lifogydd yn sgil ymchwyddiadau enfawr y llanw a achosir gan gorwyntoedd dros yr Iwerydd, yn enwedig gan fod corwyntoedd o'r fath wedi digwydd yn amlach dros y blynyddoedd diwethaf. Mae cynnydd yn lefelau'r môr yn debygol o waethygu'r perygl o lifogydd yn y dyfodol. Nid oedd pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch hirhoedledd y safle wedi'u hateb yn ddigonol.

·         Dan gynllun GlawLif Llanelli D?r Cymru, byddai d?r glaw yn cael ei bwmpio i'r llyn ar y safle ar ôl unrhyw achos o law. Nid oedd yr adroddiad wedi cynnwys unrhyw asesiadau hydroleg mewn perthynas ag effaith y cynllun hwn.

·         Nid ystyriwyd bod ehangu'r mynediad i gyffordd Cylchfan y Sandy, sydd ar un o'r prif lwybrau arfaethedig i'r safle ar gyfer ymwelwyr o Borth Tywyn, Pen-bre a Chaerfyrddin, yn ateb digonol i'r cynnydd disgwyliedig mewn traffig yn y man hwn lle ceir tagfeydd traffig mawr. Ni roddwyd sylw digonol i'r gofidiau ynghylch llygredd aer a'r peryglon iechyd yn sgil hynny.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd a'r Swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd gan y gwrthwynebydd.

 

Dogfennau ategol: