[NODER: Roedd y Cynghorwyr L.
Bowen, B.W. Jones, D. Jones, G. Jones ac E. Schiavone a Mrs V.
Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn
gynharach.]
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant drosolwg
o'r adroddiad ac yn benodol tynnodd sylw'r aelodau at yr eitemau
canlynol-
- Roedd nifer y staff cymorth mewn ysgolion (rhai nad ydynt yn
dysgu - mewn ysgolion) ar gyfradd uwch nag o'r blaen; gyda 1800 o
staff cymorth a 1700 o staff addysgu
- Blaenoriaethau'r adran ar gyfer 2019-2023
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad
–
- Yn wreiddiol roedd Rhaglen Gwella'r Gwyliau'r Haf yn gynllun
peilot dwy flynedd a ariannwyd gan grant. Bydd yr Awdurdod yn
ariannu'r prosiect o hyn ymlaen, ond bydd £0.4 miliwn ar gael
ledled Cymru cyn hir er mwyn ariannu'r math hwn o
waith.
- O dan y Gwasanaeth Trawsnewid Dysgu yn y Cynllun Gweithredu
Cryno Is-adrannol, nodwyd y byddai'r Adran yn 'gweithio gyda
phartneriaid yn y Bartneriaeth Sgiliau a Dysgu Ranbarthol i
ddatblygu mwy o gyfleoedd ar gyfer llwybrau dysgu a dilyniant gan
gynnwys Addysg Bellach/Addysg Uwch a gwaith.' Dywedodd y
Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wrth yr aelodau fod perthynas waith
dda wedi'i meithrin â'r Adran Adfywio Economaidd a bod
cynnydd yn cael ei gyflawni. Roedd trefniadau cyllido'r prosiect yn
dal i gael eu hystyried.
- Pwysleisiodd yr aelodau pa mor bwysig yw'r Gwasanaeth Cerdd
gan ddweud ei fod wedi'i restru fel cryfder mawr yn yr adroddiad,
ond mae hefyd wedi'i restru fel maes allweddol i'w wella. Gofynnwyd
am sicrwydd y byddai'r Gwasanaeth Cerdd yn parhau ac y byddir yn
dod o hyd i gyllid i sicrhau hyn. Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a
Llesiant wrth y Pwyllgor fod adroddiad "Dyfodol Cynaliadwy a
Llwyddiannus i'r Gwasanaeth Cerdd" yn cael ei baratoi sy'n
amlinellu opsiynau amrywiol i ddiogelu dyfodol y gwasanaeth. Mae
Sir Gaerfyrddin yn disgwyl cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru yn
2019.
- Cyfeiriodd yr adroddiad at y gweithdrefnau statudol sy'n
gysylltiedig â ffedereiddio, ynghyd â chyfeirio'n
benodol at resymoli, a gofynnodd yr aelodau a oedd gyriant i
ffedereiddio ysgolion. Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau
Moderneiddio fod y term "rhesymoli" yn cyfeirio at y rhagdybiaeth
yn erbyn cau ysgolion a'r gyriant o blaid ffedereiddio. Ychwanegodd fod cau ysgol yn cynnwys proses
statudol y mae'n rhaid i bob Awdurdod ei dilyn. Mae ysgolion wedi
cael eu nodi ond mae cau unrhyw ysgol yn fater emosiynol ac nid
yw'n cael ei wneud heb broses ymgynghori helaeth.
- Ym mesur 11 yr adroddiad, nodwyd 'nifer y diwrnodau y mae
wedi'i gymryd i'r holl blant a roddwyd i'w mabwysiadu (yn chwarter
4) gael eu mabwysiadu, o'r dyddiad pryd y penderfynwyd y dylid eu
mabwysiadu i'r dyddiad pryd y cawsant eu rhoi i'w mabwysiadu.'
Nododd yr aelodau gynnydd sylweddol o 625 o ddiwrnodau yn 2016/17 i
2,388 o ddiwrnodau yn 2017/18. Dywedodd y Rheolwr Perfformiad a
Gwybodaeth fod hyn wedi digwydd yn fwy na thebyg oherwydd achos
cymhleth, ac ychwanegodd y byddai hi'n gofyn i Bennaeth y
Gwasanaethau Plant ddarparu ymateb mwy manwl ar gyfer yr
aelodau.
- Cyfeiriwyd at y Model Buddsoddi Cydfuddiannol ac o ystyried yr
amheuon parhaus a fynegwyd gan yr aelodau, gofynnwyd i'r swyddogion
a fyddai'n bosibl cael cyflwyniad ynghylch y mater hwn mewn
cyfarfod yn y dyfodol. Dywedodd y
Pennaeth Mynediad i Addysg y byddai'n dosbarthu dolen gyswllt i'r
dudalen berthnasol ar wefan Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys y
wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y Model Buddsoddi
Cydfuddiannol. Atgoffwyd y Pwyllgor y
byddai trafodaeth bellach am y mater hwn mewn cyfarfodydd yn y
dyfodol wrth ystyried adroddiadau ynghylch y Rhaglen Moderneiddio
Addysg.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cynllun
Busnes yr Adran Addysg a Phlant 2019/20 – 2022.