[noder: Roedd y Cynghorwyr L. Bowen, B.W. Jones, D. Jones, G. Jones, E.
Schiavone a Mrs V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn
gynharach.]
Yn ei
gyfarfod ar 19 Tachwedd 2018, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried
Strategaeth Cyllideb Refeniw 2019/20 i 2021/22 a chymeradwyodd yr
adroddiad at ddibenion ymgynghori.
Darparodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol drosolwg ar
gyfer yr aelodau o'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/20 a'r ffigurau
dangosol ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol. Rhoddwyd gwybod i'r
aelodau bod yna bosibilrwydd o setliad negyddol, a bod setliad
negyddol o 0.5% yn gyfwerth ag £1.1 miliwn mewn termau real.
Wrth baratoi at y toriadau i'r setliad, mae gwaith sylweddol wedi'i
wneud i nodi arbedion effeithlonrwydd/rhesymoliadau pellach yn y
gwasanaeth.
Mae'r
Gyllideb Ddrafft yn ystyried effaith y cynnydd yng Nghyfraniadau'r
Cyflogwr ar gyfer Pensiynau Athrawon o 16.48% i 23.6%, sef cost o
£2.75 miliwn yn 2019/20 ac £1.75 yn 2020/21. Mae'n
debygol y bydd hyn yn cael ei ariannu gan grant Llywodraeth Cymru
drwy'r Llywodraeth Ganolog.
Mae
grant o £15 miliwn bellach ar gael gan Lywodraeth Cymru i
Awdurdodau Lleol a disgwylir mai oddeutu £900,000 fydd cyfran
Sir Gaerfyrddin, ond nodwyd bod rhaid defnyddio'r grant ar gyfer
hyfforddiant proffesiynol ar hyn o bryd. Nid ydym yn gwybod a fydd
hyn yn newid.
Yn
bennaf mae'r pwysau ar y gyllideb ynghylch Addysg a Gwasanaethau
Plant oherwydd Diswyddiadau Cynnar Gwirfoddol mewn ysgolion,
darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig, diffyg ariannol yn incwm
CLG y Gwasanaeth Cerdd a Lleoliadau'r tu allan i'r Sir. Yn
gyffredinol, mae'r Awdurdod yn rhagweld amrywiant o £2.237
miliwn ar ddiwedd y flwyddyn y bydd rhaid ei fodloni o'r
Gweddillion Cyffredinol.
Crynhodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol drwy ddweud
bod cyllidebau ysgol wedi cael eu diogelu'n rhannol yn y
blynyddoedd blaenorol a'u bod yn cael 1% yn uwch na'r taliad
cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae newidiadau
diweddar wedi trosglwyddo'r cyfrifoldeb i'r Awdurdod a gofynnir i
ysgolion reoli eu costau eu hunain yn unol â chyllideb
niwtral (gan gynnwys codiadau cyflog a'r costau cyffredinol megis
cyfleustodau a gwasanaethau). Nid yw hon yn sefyllfa ddelfrydol a
byddai'r £900,000 a gynigir ar gyfer hyfforddiant
proffesiynol yn gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran cael gwared ag
unrhyw ddiffyg cyllidebol yn y maes hwn.
Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod yr adran
o dan bwysau cynyddol yn ariannol gan nad oes newid wedi bod yn y
gyllideb, a'i bod yn anodd nodi'r meysydd ar gyfer
gostyngiadau.
Codwyd
y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr
adroddiad:-
- Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch y toriadau arfaethedig i'r
Gwasanaeth Lles Addysg a gofynnodd fod y rhain yn cael eu
hailystyried. Teimlwyd y byddai gostyngiad yn y gwasanaeth hwn yn
rhoi pwysau ychwanegol ar ysgolion i reoli absenoldeb a mynd i'r
afael â materion ynghylch absenoldeb. Dywedodd y Cyfarwyddwr
Addysg a Gwasanaethau Plant fod y Gwasanaeth Lles Addysg yn darparu
gwasanaeth statudol o ran mynd i'r afael ag absenoldeb, felly
byddai angen i'r ddarpariaeth barhau er y byddai ar ffurf wahanol.
Y lefel bresennol o ran absenoldeb a bennir gan Lywodraeth Cymru yw
80% ond rhoddir ystyriaeth i gynyddu hon i 85%, a fyddai'n cynyddu
llwyth gwaith y Gwasanaeth Lles Addysg. Nodwyd hefyd bod rhai
ysgolion yn rheoli eu habsenoldeb eu hunain a'u bod yn awyddus i
barhau i wneud hyn. Mae'r adran yn ystyried modelau gwahanol ar
gyfer y gwasanaeth, yn enwedig y modelau a ddefnyddir yn Ninbych a
Chonwy, ac mae adroddiad yn cael ei baratoi ynghylch opsiynau ar
gyfer dyfodol y gwasanaeth a gaiff ei gyflwyno i'r Pwyllgor maes o
law.
- Mynegwyd pryder ynghylch y sefyllfa mewn perthynas â
phensiynau athrawon a gofynnwyd i'r swyddogion a yw'r sefyllfa'n
unigryw i Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad yw hyn
yn broblem yng Nghymru yn unig, problem genedlaethol ydyw gan fod
yr arian yn cael ei gadw gan y llywodraeth ganolog ac os na chaiff
yr arian ei dderbyn, byddai angen gwneud penderfyniad corfforaethol
ynghylch pa gamau i'w cymryd nesaf.
- Rhannodd y Pwyllgor bryderon hefyd ynghylch y gostyngiadau
arfaethedig yn y Gwasanaethau Addysg a Seicoleg Plant a'r
Gwasanaethau Cwnsela Ysgolion a gofynnwyd am sicrwydd na fyddai'r
gostyngiadau hyn yn effeithio ar yr amser a ddyrennir i blant.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant nad oedd yn
bosibl dweud ag unrhyw sicrwydd na fyddai unrhyw effaith, ond bod y
cynigion yn cynnwys rhai arbedion effeithlonrwydd yn y costau nad
oeddent yn ymwneud â lleihau nifer y staff. Cydnabu ei bod yn bosibl y bydd angen ailystyried
y cynigion hyn gan fod pwyslais cynyddol ar lesiant ac iechyd
meddwl. Bydd y contract ar gyfer y
Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion yn cael ei aildendro yn y dyfodol a'r
gobaith oedd y gallai'r Awdurdod gaffael gwasanaeth gwell am gost
ratach.
- Nododd y Pwyllgor fod rhai o'r ysgolion yn cadw cronfeydd wrth
gefn sy'n uwch na'r trothwy, a gofynnwyd i'r aelodau am esboniad
ynghylch pa gynlluniau sydd ar waith, os oes rhai, i weithio gyda'r
ysgolion hynny. Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn
mynnu bod ysgolion yn cyfyngu ar eu cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd
y flwyddyn i £50,000 ar gyfer Ysgolion Cynradd a
£100,000 ar gyfer Ysgolion Uwchradd ac Ysgolion Arbennig, neu
i 5% o'u cyllideb yn amodol ar ba un sydd fwyaf. Ar 31 Mawrth 2018,
roedd 18 o ysgolion cynradd a 6 o ysgolion uwchradd yn cadw
gwargedion uwch na'r trothwyon uchod. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod
gan y rhan fwyaf o'r Ysgolion Cynradd wargedion o ychydig filoedd o
bunnoedd ac y byddai newidiadau bach, megis recriwtio
athro/athrawes ar fand cyflog uwch, yn mantoli hyn. Mae dwy o'r
Ysgolion Uwchradd a nodir wedi ymrwymo'r gwariant i brosiectau
cyfalaf. Gofynnodd yr aelodau fod y ffigurau diweddaraf yn cael eu
dosbarthu.
- Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y fformiwla cyllido a bennir yn
lleol gan fod yr aelodau wedi pwysleisio ei bod yn ymddangos bod
hyn yn amrywio ar draws yr Awdurdod. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg
a Gwasanaethau Plant fod yr un fformiwla'n cael ei defnyddio ar
gyfer pob ysgol, ond bod rhai ffactorau megis Prydau Ysgol am Ddim,
Plant sy'n Derbyn Gofal, Unedau Arbennig (yn debyg i'r uned yn
Ysgol Bro Banw) ac ati yn gallu effeithio ar ddyraniad y fformiwla.
Atgoffwyd y Pwyllgor bod gweithdy
ariannol wedi'i drefnu i aelodau'r Pwyllgor ar brynhawn 24 Ionawr
2019 a fyddai'n cynnwys rhagor o wybodaeth am y fformiwla a bennir
yn lleol;
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
4.1Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb
Refeniw 2019/20 - 2021/22 yn cael ei dderbyn;
4.2Bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a
Phlant, fel y manylir yn Atodlen C i'r adroddiad yn cael ei
gymeradwyo;
4.3 Bod y Bwrdd Gweithredol yn cael gwybod am
bryderon difrifol y Pwyllgor ynghylch unrhyw ostyngiad i'r
Gwasanaeth Lles Addysg, y Gwasanaeth Addysg a Seicoleg Plant a'r
Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion a goblygiadau difrifol unrhyw
ostyngiad.
4.4 Bod cais y Pwyllgor bod unrhyw arian ychwanegol a
nodir ar draws cyllideb yr Awdurdod yn cael ei drosglwyddo i'r
Adran Addysg a bod y Bwrdd Gweithredol yn cael gwybod am
hyn.