Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 TAN 2021/22.

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Strategaeth Cyllideb Refeniw 2018/20 – 2021/22, a oedd wedi cael ei hystyried gan y Bwrdd Gweithredol ar 19 Tachwedd, 2018. Nodwyd hefyd fod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori ar y gyllideb yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/2020, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/22. Bydd yr effaith ar wariant adrannol yn dibynnu ar y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru a'r gyllideb derfynol ganlyniadol a fabwysiedir gan y Cyngor Sir.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl.

 

·         Atodiad A - Strategaeth Cyllideb Gorfforaethol 2019/20 - 2021/22

·         Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad B – Y rhannau o'r gyllideb sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol grynodeb o'r adroddiad. Roedd y pwyntiau allweddol dan sylw yn cynnwys:

 

·         Cafodd y setliad amodol ei gyhoeddi ddydd Mawrth 9 Hydref 2018. Darparwyd ffigurau dangosol ar gyfer Awdurdodau Lleol unigol am un flwyddyn ariannol yn unig, sef 2019/20, ac nid oedd rhagor o wybodaeth am setliadau'r dyfodol.

·         Mae prif bwyntiau Setliad Dros Dro 2019/2020 ledled Cymru fel a ganlyn:

o   Pennwyd cyllid refeniw Llywodraeth Leol o £4.214 biliwn ar gyfer 2019-20, sef gostyngiad o 0.3% (£12.3 miliwn) o gymharu â 2018-19

o   Dywedodd Llywodraeth Cymru fod £13.7 miliwn wedi cael ei gynnwys ar gyfer cost dyfarniad Cyflog yr Athrawon mis Medi 2018, fodd bynnag £8.1 miliwn yn unig sydd wedi'i ddarparu.

o   Cyfeiriwyd at y £7 miliwn o gyllid ychwanegol i fodloni costau Awdurdodau Lleol sy'n deillio o ddull Llywodraeth Cymru o ran prydau ysgol am ddim. O ran hyn, mae'n amlwg mae £4 miliwn yn unig sydd wedi cael ei ddarparu

·         Ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, cafwyd gostyngiad o 0.5% (£1.343 miliwn) yn y setliad dros dro. Mae'r Cyllid Allanol Cyfun felly yn gostwng i £258,831k yn 2019/20.

·         Gan roi sylw i gyfrifoldebau newydd a throsglwyddiadau, y gostyngiad ar gyfer Sir Gaerfyrddin yw 0.7% (£1.873m).

·         Mae grant gwasanaethau cymdeithasol newydd gwerth £30 miliwn ledled Cymru ond ni wyddys manylion y grant hwn eto.

·         Mae pwysau sylweddol ar fil cyflogau presennol y Cyngor oherwydd dyfarniad cyflog yr athrawon 2018 ac yn sgil rhoi colofn gyflogau y cytunwyd arni'n genedlaethol ar waith. Mae'r gyllideb ddrafft hefyd yn rhoi ystyriaeth i effaith y cynnydd mewn cyfraniadau cyflogwr o ran Pensiwn Athrawon, sef effaith blwyddyn lawn o oddeutu £4.5 miliwn.

·         Mae cronfeydd wrth gefn yr Awdurdod a glustnodwyd yn dirywio oherwydd y gostyngiad o ran y cymorth ar gyfer y rhaglen gyfalaf a gytunwyd gan y Cyngor.

·         Mae'r Awdurdod yn cynnig cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.89% ar gyfer y 3 blynedd nesaf.

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol y wybodaeth ddiweddaraf a dywedodd wrth y Pwyllgor fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cyhoeddi pecyn cyllido ychwanegol o £13 miliwn ar gyfer y Grant Cynnal Refeniw ledled Cymru a £7.5 miliwn yn ychwanegol ar gyfer Cyflog Athrawon ers dosbarthu'r agenda. Amcangyfrifwyd y byddai hyn yn rhoi £1.3 miliwn yn ychwanegol i'r Awdurdod. Y disgwyl oedd y byddai ffigwr y setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher yr wythnos hon.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·         Cyfeiriwyd at y cynlluniau effeithlonrwydd a mynegwyd pryder y gall arbedion effeithlonrwydd o ran rheoli effeithio ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir. Gofynnwyd i'r swyddogion pa wasanaethau yr effeithir arnynt?

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol na ddylai effeithio ar wasanaethau cwsmeriaid oherwydd byddai'r arbedion effeithlonrwydd yn effeithio yn bennaf ar swyddogaethau gweinyddol. Ychwanegodd nad oedd ganddo'r holl wybodaeth a byddai'n darparu ymateb llawn drwy e-bost ar ôl y cyfarfod.

 

·         Mynegwyd pryderon ynghylch yr arian yr oedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddai'r Awdurdod yn ei gael, ond ni lwyddwyd i gael y cyllid. Un enghraifft o hyn yw'r £20m a oedd wedi'i glustnodi'n benodol ar gyfer gofal cymdeithasol yn ôl pob tebyg.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod proses ymgynghori ffurfiol â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cael ei chynnal a bod ymateb ar y cyd wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Mae'r ffigur yn ymwneud â'r asesiad gwariant safonol a'r gostyngiad o 0.5% mewn gwariant. Os ceir unrhyw ostyngiad, mae wedi'i gynnwys yn y 0.5% ac nid yw'n ychwanegol. Ychwanegodd fod grant penodol newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol.

 

·         Gofynnwyd a oedd unrhyw fodd y gallai'r Pwyllgor gyfleu ei bryderon i Lywodraeth Cymru ynghylch yr arian a addawyd ond na ddarparwyd.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, o ran y broses ymgynghori, fod sylwadau wedi eu cyflwyno gan yr Awdurdod, bod yr Arweinydd wedi ysgrifennu atynt, a bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd wedi ymateb i'r ymgynghoriad yn hyn o beth;

 

·         Gofynnwyd cwestiwn ynghylch llwyddiant yr Awdurdod o ran ail-alluogi.

 

Nodwyd bod cynnydd da yn cael ei wneud. Mae adolygiad o ofal canolraddol yn cael ei gynnal ar hyn o bryd sy'n cynnwys ail-alluogi, ac yn dilyn cwblhau'r adolygiad gellid cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor i'w ystyried.

 

·         Gofynnwyd felly am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran Gofal Iechyd Parhaus.

 

Dywedodd Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod y maes hwn yn parhau i fod yn heriol ond bod cynnydd yn cael ei wneud. Bwriedir cynnal Uwch-gynhadledd gyda'r GIG yn y Flwyddyn Newydd. Bydd canlyniad yr Uwch-gynhadledd yn cael ei fwydo yn ôl i'r Pwyllgor.

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch Atodiad C yr adroddiad. Nodir bod y tâl a godir ar gleientiaid ar gyfer Gofal Seibiant yn 2019/20 ar gyfer cost lawn y lleoliad.

 

Cadarnhawyd na fydd cyfraniad y cleient yn newid oherwydd y mae hwn wedi'i gapio gan Lywodraeth Cymru ar £80 yr wythnos ar hyn o bryd, a disgwylir y bydd hwn yn cynyddu i £90 yr wythnos y flwyddyn nesaf.

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y gwariant ar TG a'r hyn yr oedd yn ei gynnwys.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod hyn yn ymwneud â defnydd yr adran o TG, a'i fod yn cynnwys prynu offer newydd, gan gynnwys ffonau ar gyfer gweithwyr gofal. Hefyd, mae cost sy'n ymwneud â chyflwyno meddalwedd CM2000 a fydd yn sicrhau arbedion effeithlonrwydd drwy gynlluniau rhestri gwaith gwell.

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr hyn y mae "Arall" yn cyfeirio ato yn y tabl cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol nad oedd ganddo'r wybodaeth wrth law ond y byddai'n gallu darparu'r manylion yn dilyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1

Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2019/20 – 2021/22 yn cael ei dderbyn;

4.2

Bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol: