Agenda item

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018-2033 FERSIWN DRAFFT O'R STRATEGAETH A FFEFRIR

Cofnodion:

(NODER:

1.     Roedd y Cynghorydd G.B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a chaniatawyd gollyngiad gan Bwyllgor Safonau'r Cyngor iddi siarad, ond nid pleidleisio dros faterion yn ymwneud â ffermio.

2.     Roedd y Cynghorydd A. Davies a'r Cynghorydd A. Vaughan Owen wedi datgan buddiannau yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin (CDLl) 2018-2033 a oedd yn nodi gweledigaeth y Cyngor o ran defnydd tir, amcanion strategol a gofynion twf strategol ar gyfer y Sir hyd at 2033. Nodwyd y cymeradwywyd y Strategaeth gan y Cyngor ar 14 Tachwedd 2018 ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol am gyfnod statudol o 6 wythnos o leiaf, a fyddai'n dechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 10 Rhagfyr 2018 am gyfnod o 8 wythnos (gan ystyried y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd), a disgwylir i adroddiad ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad fod yn barod i'w gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Mawrth 2019.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar y strategaeth:-

 

·        Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at gyfarfod diweddar y Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig lle trafodwyd y Strategaeth a chodwyd y tri mater canlynol fel meysydd sy'n peri pryder yn unol â'r angen i warchod ac adfywio ardaloedd gwledig:-

 

1.     Nid oedd darpariaeth yn y cynllun i fynd i'r afael â'r trafferthion o ran cael caniatâd cynllunio ar gyfer anheddau bach ar leiniau o dir, yn enwedig tyddynnod, lle'r oedd y perchnogion wedi byw drwy gydol eu bywydau;

2.     Roedd tai fferm traddodiadol yn hen ac yn fach a chafwyd trafferthion o ran cael caniatâd cynllunio i hwyluso'r gwaith o'u hestyn yn fwy na 20-30% o'r maint gwreiddiol. Y farn oedd yr oedd y polisi hwnnw'n gyfyngol, yn enwedig pan roddir caniatâd cynllunio i eiddo mawr newydd mewn ardaloedd anheddau;

3.     Roedd y polisïau cynllunio presennol yn ei gwneud hi'n anodd i'r gymuned ffermio amrywio ei busnesau er mwyn sicrhau'r incwm mwyaf posibl, er enghraifft drwy ddarparu cyfleusterau gwersylla/twristiaeth.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Blaen-gynllunio bod y ddogfen bresennol yn manylu ar weledigaeth y Cyngor o ran defnydd tir, amcanion strategol a gofynion twf strategol ar gyfer y Sir hyd at 2033 ac nid yw'n cynnwys polisïau penodol. Byddai'r rheiny'n rhan o'r fersiwn adneuol drafft o'r Cynllun Datblygu Lleol a fyddai'n manylu ar Bolisïau Cynllun Rheoli Datblygu ac yn cael ei baratoi dros y deuddeg mis nesaf fel rhan o'r broses ymgynghori statudol.

 

·        Cyfeiriwyd at ddyraniadau safleoedd Tai yn y CDLl presennol ac a fyddai rhai o'r rheiny, neu bob un ohonynt, yn cael eu cynnwys yn y Cynllun newydd, o ystyried cynigion i leihau'r dyraniadau dros gyfnod y cynllun.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio mai un o nodau'r Cynllun newydd fyddai sicrhau y bydd modd ei gyflawni, a chan y byddai lefel y dyraniadau tai'n lleihau, byddai angen i'r adran roi sylw beirniadol i'r holl safleoedd sy'n cael eu cyflwyno i'w cynnwys. Os nad oedd perchnogion y safleoedd hynny'n gallu darparu ffeithiau ar sail tystiolaeth er mwyn dangos bod modd ei gyflawni, roedd yn bosibl na fyddent yn cael eu cynnwys.

·        Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen er mwyn archwilio'r ddarpariaeth o ran byngalos fforddiadwy yn Sir Gaerfyrddin. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y gallai'r canlyniad lywio'r broses adolygu.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod amseru'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn dda gan fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnwys y fersiwn adneuol drafft o'r Cynllun Datblygu Lleol ar hyn o bryd, a fyddai'n cynnwys cyfleoedd penodol i ddatblygu safleoedd. Er y byddai hynny'n cynnwys dyrannu tir at ddibenion datblygu tai, ni fyddai'n categoreiddio math yr anheddau a fyddai'n cael eu hadeiladu ar bob safle. Byddai hynny'n cael ei bennu fel rhan o'r broses gynllunio arferol, drwy gyflwyno cais cynllunio.

 

·        Cyfeiriwyd at y Dewis dan Arweiniad y Gymuned a gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y gallai hynny effeithio ar gymunedau gwledig.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio mai bwriad y Dewis oedd newid canolbwynt y CDLl presennol o'r tair prif ganolfan twf trefol (a fyddai'n parhau i fod yn ganolbwynt i'r rhan fwyaf o'r twf) a cheisio sicrhau rhagor o ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig drwy fabwysiadu ymagwedd fwy cytbwys a fyddai'n haws ei chyflawni tuag at dwf ar gyfer Sir Gaerfyrddin gyfan.

 

·        Cyfeiriwyd at faint y gwaith datblygu sy'n cael ei wneud mewn rhai rhannau o'r Sir lle mai bwriad y datblygwyr oedd adeiladu ystadau tai mawr heb feddwl am greu cymunedau a darparu cyfleusterau cymunedol megis siopau ac ati. Gofynnwyd cwestiwn ynghylch a allai'r CDLl diwygiedig gael dylanwad ar y datblygwyr i gynnwys cyfleusterau cymunedol yn eu hystadau.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y byddai'r CDLl diwygiedig yn cael ei ddefnyddio er mwyn cael dylanwad ar y nod hwnnw drwy gyflwyno polisïau i greu 'naws am le', hyrwyddo agenda Iechyd a Llesiant drwy annog mynediad i gyfleusterau, llecynnau agored a chysylltiad â gwasanaethau cymunedol megis cyfleusterau iechyd. Byddai hynny'n rhan o ddull fesul cam lle byddai'r CDLl yn cyflwyno polisïau a byddai'r awdurdod yn ceisio hwyluso trafodaeth â'r datblygwyr ynghylch dyluniad eu datblygiadau, er enghraifft drwy roi Canllawiau Cynllunio Atodol.

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch hyrwyddo datblygiadau cynaliadwy, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y byddai'r cynllun diwygiedig yn ceisio cyflwyno dulliau i hwyluso eu darpariaeth, gan ystyried y gallu i'w gweithredu, a byddai'r adran yn gweithio gyda'r datblygwyr i sicrhau'r ddarpariaeth honno.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir (a'r dogfennau ategol) ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018-2033.

 

Dogfennau ategol: