Agenda item

RHANBARTH Y DRE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

4.1   PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:-

 

S/37325

Gosod grisiau newydd a ramp yn lle'r grisiau presennol i'r drws gorllewinol i ganiatáu mynediad i gadeiriau olwyn i'r Eglwys yn Eglwys Sant Ellis, Stryd y Bont, Llanelli, SA15 3UF

 

[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd J. Prosser Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno].

 

Tynnodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) sylw at y newidiadau fel y'u hamlinellwyd yn yr atodiad.

 

S/37581

Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl ar dir yn Llwyncyfarthwch, Llanelli, SA15 1GY

 


 

4.2         PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:-

 

S/37693

Amrywio amod rhif 3 (bydd yr eiddo yn cael ei ddefnyddio yn unig at ddibenion storio esgidiau) S/36969 er mwyn caniatáu i gwsmeriaid allu casglu trwy apwyntiad yn unig yn 21 Park View Drive, Cydweli, SA17 4UP

 

[Sylwer: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd J. Gilasbey Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno].

 

Cafwyd sylw a wrthwynebai'r cais ac a oedd yn ail-bwysleisio’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, gyda'r prif bwyslais ar y pwyntiau canlynol:-

 

·        Pan oedd y cais cynllunio blaenorol ar gyfer storio B8 yn cael ei ystyried rhoddwyd sicrwydd na fyddai cwsmeriaid yn cael galw ar y safle.

 

·        Diogelwch y ffyrdd – nid oes unrhyw fanylion ynghylch y trefniadau parcio ar gyfer cwsmeriaid.

 

·        Byddai angen ystyried y symudiadau traffig ychwanegol yn yr ardal, gan gynnwys y caniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd yn ddiweddar ar gyfer datblygiad preswyl pellach ar dir cyfagos. Ardal breswyl yw Park View Drive ac mae'r cynllun ffyrdd yn adlewyrchu hyn.

 

·        Byddai yna anawsterau gyda'r trefniant gyrru allan a gynigir oherwydd aliniad yr allanfa, a byddai hefyd yn gwrthdaro â'r ardal casglu/gollwng ar gyfer gwarchodwyr plant.

 

·        Ni ddylai amseroedd casglu i gwsmeriaid gael eu caniatáu rhwng 8am a 10am a 3pm a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan y byddai hyn yn gwrthdaro â symudiadau cerbydau gwasanaeth gwarchod plant (eiddo'r cymdogion).

 

·        Yr ardal ar y chwith y tu mewn i'r garej yw'r ardal fwyaf priodol ar gyfer pwynt casglu, ac nid yr ardal a ddangosir. Mae'n amlwg mai'r nod yw gwerthu cymaint â phosibl, a byddai hynny'n golygu mai'r dosbarth defnydd mwyaf priodol yw A1.

 

Ymatebodd yr ymgeisydd ac Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y De] i'r materion a godwyd.

 

S/37793

Estyniad i safle carafanau Sipsiwn awdurdodedig i wneud lle i ddwy garafán breswyl statig ychwanegol i Sipsiwn ynghyd â chodi dwy ystafell ddydd/cyfleustodau, dwy garafán deithiol, gosod tanc septig a chadw gwaith i greu wyneb caled a mynediad newydd ar dir yn T? Newydd, Llwyn Teg, Llannon, Llanelli, SA14 8JN

 

[Sylwer: ni chefnogwyd ceisiadau a gyflwynwyd yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle ar y sail nad oedd y rhesymau am ymweliad safle yn rhesymau dilys a bod yr adroddiad/atodiad, ynghyd â'r sleidiau PowerPoint, yn rhoi digon o fanylion i wneud penderfyniad ynghylch y cais.]

 

Tynnodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) sylw at y newidiadau fel y'u hamlinellwyd yn yr atodiad.

 

Cafwyd sylw gan yr Aelod lleol yn gwrthwynebu'r cais ac yn codi pryderon ynghylch y ffordd anaddas ar gyfer cerbydau ychwanegol a diogelwch y ffyrdd.

 

Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) i'r materion a godwyd.

 

 

Dogfennau ategol: