Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD BETSAN JONES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Flwyddyn yn ôl roedd ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill yng Nghymru yn cael eu cydnabod gan Estyn am eu rhagoriaeth mewn noson wobrwyo. Cafodd staff yn y sefydliadau hyn dystysgrif a llongyfarchiadau gan Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd a Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. 

 

Cafodd chwech o'r gwobrau eu hennill gan ysgolion Sir Gaerfyrddin – mwy nag unrhyw gyngor sir unigol arall. 

 

Yr ysgolion oedd:

 

Ysgol Bryngwyn, Ysgol Heol Goffa, Ysgol Glan-y-Môr, Ysgol Gynradd y Bynie, Ysgol Gynradd Parcyrhun ac Ysgol Gynradd Saron.

 

A allwn ni ddisgwyl gweld ysgolion o'r sir hon yn cael eu cydnabod yn y seremoni eleni?”

 

Cofnodion:

“Flwyddyn yn ôl cafodd ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill yng Nghymru eu cydnabod gan Estyn am eu rhagoriaeth mewn noson wobrwyo. Derbyniodd staff o'r sefydliadau hyn dystysgrif a llongyfarchiadau gan Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd, a Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. 

 

Cafodd chwech o'r gwobrau eu hennill gan ysgolion Sir Gaerfyrddin – mwy nag unrhyw gyngor sir unigol arall, sef: 

 

Ysgol Bryngwyn, Ysgol Heol Goffa, Ysgol Glan-y-Môr, Ysgol Gynradd y Bynea, Ysgol Gynradd Parcyrhun ac Ysgol Gynradd Saron.

 

A oes disgwyl y bydd ysgolion o'r sir hon yn cael eu cydnabod yn y seremoni eleni?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Diolch i'r Cynghorydd Betsan Jones am y cwestiwn. Mae'n gwestiwn amserol iawn oherwydd bydd Estyn yn cynnal ei seremoni ar gyfer 2017/18 i gydnabod rhagoriaeth mewn addysg a hyfforddiant ddydd Gwener hyn. Fel y dywedoch Bethan, roedd y llynedd yn flwyddyn wych i ni gan fod chwe ysgol yn Sir Gâr wedi cael eu cydnabod am eu gwaith caled, a hefyd sylwch, am safon uchel yr arweinyddiaeth. Mae hwn yn rhywbeth sy'n ddisgwyliedig gennym mewn ysgolion bellach, ac mae angen gweledigaeth glir arnom hefyd, yn ogystal ag ymrwymiad i wella. Dyna beth sy'n mynd i godi'r safonau yn ein hysgolion, a dyna pam y cafodd yr ysgolion hyn eu cydnabod. Dyma'r hyn sydd ei angen ym mhob ysgol er mwyn i ni wella safonau addysg ac ennill rhagoriaeth yn dilyn arolygiad. Cafodd 34 o ysgolion eu cydnabod ac roedd chwech ohonynt o Sir Gaerfyrddin, ac mae hynny'n dipyn o glod inni fel sir. Rydym yn siarad am ragoriaeth fan hyn, felly beth yw'r rhagoriaeth hon? Bydd Estyn yn gwahodd ysgolion a darparwyr eraill a gafodd ragoriaeth mewn tri maes arolygu penodol. Dyna'r hyn sy'n rhoi'r statws rhagoriaeth hwn iddynt. Maent wedi cael rhagoriaeth mewn tri maes arolygu neu fwy yn ystod blwyddyn academaidd 2017/18, a phleser gennyf yw dweud y bydd gan Sir Gaerfyrddin bedwar cynrychiolydd yn y digwyddiad ddydd Gwener, sef pedair ysgol unwaith eto. Ni fyddai'n briodol i mi gyhoeddi heddiw pwy yw'r ysgolion hynny sy'n mynd i gael cydnabyddiaeth, ond mae'r Cyfarwyddwr Addysg a minnau wedi eu llongyfarch ar eu llwyddiant, ac mae'r ffaith bod pedair ysgol yn cael eu cydnabod yn genedlaethol unwaith eto yn golygu ein bod yn cynnal y safonau uchel wrth gwrs.  Nid mater bach yw sicrhau rhagoriaeth, ac mae'n briodol ein bod yn parchu ein penaethiaid, sy'n gweithio'n hynod o galed, a'u staff am y gwaith gwych maent yn ei wneud yn eu hysgolion. Maent yn gwneud ymrwymiad i blant a phobl ifanc ac maent yn sicrhau bod cyfleoedd rhagorol i'r rheiny sy'n derbyn addysg. Hoffwn hefyd ddiolch i lywodraethwyr ysgolion a rhieni, ac mae llawer ohonoch yma yn llywodraethwyr eich hunain, ac yn rhieni yn ogystal o bosibl. Felly diolch i chi am eich cefnogaeth. Gaf i hefyd ddiolch i staff y Cyngor, yn enwedig rhai'r Adran Addysg, am eu cefnogaeth ddiflino i'n hysgolion. Rwyf am gyfeirio at ein Tîm Gwella Ysgolion sy'n gweithio fel rhan o ranbarth ERW. Maent yn mynd i'n hysgolion i herio, ond hefyd i gefnogi ac i sicrhau bod y gorau ar gael i bob dysgwr. Trwy gydweithrediad y penaethiaid a'ch cydweithrediad chi a phob llywodraethwr arall, byddwn yn sicrhau bod pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn ysgol ragorol. Dyna'r hyn hoffwn ei weld - pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn un rhagorol - ac mae'r gwobrau hyn yn dangos ein bod ar y trywydd iawn. Diolch yn fawr iawn.