Agenda item

ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNLLUNIO BLYNYDDOL

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Perfformiad Blynyddol yr Is-adran Gynllunio ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018, lluniwyd yr adroddiad yn unol â gofyniad Tabl y Fframwaith Perfformiad Cynllunio, ac yr oedd rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn i'w werthuso'n unol â'r dangosyddion a'r targedau a bennwyd. Yn dilyn y gwerthusiad, byddai perfformiad pob awdurdod cynllunio lleol yn cael ei osod mewn un o dri band perfformiad: Gwella (Coch), Gweddol (Ambr), Da (Gwyrdd) sy'n cael eu hasesu ar draws y pum agwedd allweddol ar ddarparu'r gwasanaeth cynllunio fel y nodir:-

 

Ø  Gwneud cynlluniau;

Ø  Effeithiolrwydd;

Ø  Ansawdd;

Ø  Ymgysylltu;

Ø  Gorfodi.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) a p'un a oedd gan yr Is-adran Gynllunio unrhyw gynigion i gyhoeddi canllawiau ychwanegol yn y dyfodol agos, er enghraifft mewn perthynas â defnydd cymysg.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio er bod yr Is-adran, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi cyhoeddi nifer o Ganllawiau Cynllunio Atodol, byddai unrhyw ganllawiau yn y dyfodol, yn rhan o broses adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Os oedd gan yr aelodau unrhyw feysydd yr oeddent yn teimlo bod angen eu hystyried o ran cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol, dylent roi gwybod i'r Adain Blaen-gynllunio a fyddai'n edrych ar yr ymarferoldeb o fynd i'r afael â rhain o fewn y CDLl diwygiedig.

·       Cyfeiriwyd at dudalen 21 yr adroddiad at gyllideb weithredol yr Is-adran Gynllunio yn ystod y cyfnod 2012/13 a 2017/18. Gofynnwyd am eglurhad pam mae'r incwm gwirioneddol sy’n cael ei gronni yn aml yn llai na'r incwm a gafodd ei gyllidebu, ac, a oedd cyfiawnhad dros archwilio targed y gyllideb er mwyn adlewyrchu'r lefel incwm gwirioneddol yn fwy cywir.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod nifer o ffactorau yn effeithio ar lefelau incwm, y mwyaf amlwg oedd y niferoedd a'r categorïau o ran ceisiadau cynllunio a oedd yn dod i law, er enghraifft ceisiadau cynllunio bach domestig a cheisiadau diwydiannol/masnachol mawr a lefel y ffioedd y gellid eu codi yn ôl pob categori.

 

Hefyd roedd lefel y ffioedd sy’n cael eu codi yn broblem i Awdurdodau Lleol yng Nghymru gan nad oedd hawl ganddynt i brosesu ceisiadau cynllunio ar sail adfer cost lawn, yn yr un modd ag y mae awdurdodau yn Lloegr yn gwneud. Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bwlch hwnnw, roedd yn disgwyl i awdurdodau lleol yng Nghymru gynyddu eu lefelau incwm cyn y byddai'n rhoi ystyriaeth i godi ffioedd cynllunio. Roedd yr Awdurdod felly’n ystyried cyflwyno Atodlen o ffioedd ar gyfer y gwasanaethau sy’n cael eu darparu'n rhad ac am ddim ar hyn o bryd e.e. cyngor cyn cynllunio. Pe bai hynny'n cael ei gyflwyno, byddai'r cynnydd o ran incwm hefyd yn helpu i leihau'r gwarged, ond ni fyddai'n gwneud yn iawn am y diffyg gwirioneddol. Fodd bynnag, byddai cyflwyno ychydig o gynlluniau mawr yn helpu i leihau'r diffyg hwnnw.

 

Roedd y drydedd agwedd yn gysylltiedig â chostau'r is-adran gynllunio wrth ymgymryd â rôl orfodi'r Awdurdod Cynllunio nad oedd modd ailgodi tâl amdano. Fel y cyfryw, ni fyddai'r elfen honno o gylch gwaith yr is-adran, o dan y ddeddfwriaeth bresennol, yn gallu dod yn hunangyllidol.

 

·       Dywedodd y Pennaeth Cynllunio mewn ymateb i gwestiwn ar y gostyngiad yn nifer y ceisiadau cynllunio a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod 2012/13 a 2017/18 mai'r prif reswm dros hynny oedd yr hinsawdd economaidd.

 

Er bod yr adroddiad yn cofnodi gostyngiad, dylid cydnabod bod yr awdurdod wedi ymdrin â mathau eraill o geisiadau nad ydynt yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad monitro blynyddol i Lywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys ceisiadau a gyflwynwyd o dan Hawliau Datblygu a Ganiateir a hefyd Hysbysiadau Ymlaen Llaw nad oedd hawl codi tâl amdanynt e.e. gosod cyfarpar telathrebu. Roedd ystyriaeth hefyd yn cael ei roi yn genedlaethol i ehangu'r ystod o geisiadau sydd yn cael eu hystyried o dan yr Hawliau Datblygu a Ganiateir a allai, petaent yn cael eu cyflwyno, gael effaith andwyol ar ffigurau ceisiadau cynllunio yn y dyfodol a lefelau incwm.

 

·       Cyfeiriwyd at dudalen 22 yr adroddiad a'r risgiau a nodwyd o golli gweithwyr medrus o fewn y timau mwynau/gwastraff a'r timau rheoli adeiladu. Gofynnwyd am eglurhad a allai hyn effeithio ar ddilyniant y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio fod dilyniant y CDLl diwygiedig yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw waith arall a wneir gan y Tîm Blaen-gynllunio. Yn y gorffennol roedd y tîm yn gweithio'n agos gyda rhannau eraill yn yr isadran gynllunio, ac adrannau eraill y Cyngor, yn darparu cyngor a chymorth ar bethau megis datblygu briffiau cynllunio, ond oherwydd bod y CDLl yn flaenoriaeth mae hyn yn ei dro yn effeithio ar gwmpas yr isadran i barhau â'r lefel honno o gyfranogiad. O ystyried y flaenoriaeth honno, roedd hi'n edrych ar y posibilrwydd o ddod o hyd i gyllid ychwanegol i barhau i ddarparu cymorth mewnol lle bynnag y bo'n bosibl yn hytrach na phenodi ymgynghorwyr allanol, am gost uwch.

 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a'i anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau sef 31 Hydref.

 

 

Dogfennau ategol: