Cofnodion:
Yn ei gyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2018 cafodd yr Is-bwyllgor y 3 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro, ond er mwyn casglu rhagor o dystiolaeth, penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ynghylch y 3 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro tan y cyfarfod hwn.
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a dywedodd wrth yr Is-bwyllgor fod hysbysiad gwrthwynebu wedi cael ei gyflwyno gan Adain Iechyd y Cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â'r 3 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a gyflwynwyd gan Mrs Maria Dallavalle o La Scala, 15 Rhodfa Bryn Mawr, Rhydaman, SA18 2DA.
Roedd yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro yn berthnasol i werthu alcohol trwy fanwerthu, darparu Adloniant Rheoledig a Lluniaeth Gyda'r Hwyr ar y safle ar y diwrnodau a'r amserau canlynol:-
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 1 –
Dydd Sadwrn, 25 Awst 2018 – Y Lawnt Uchaf, Plasty
Derwydd
· Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth hwyrnos 12:00-00:30
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 2 –
Dydd Sadwrn, 1 Medi 2018 – Y Lawnt Uchaf, Plasty
Derwydd.
· Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth hwyrnos 12:00-00:30
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 3 –
Dydd Sadwrn, 3 Tachwedd 2018 – Y Neuadd Fawr, Plasty
Derwydd.
· Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth hwyrnos 12:00-00:30
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybod i'r Pwyllgor fod Adain Iechyd y Cyhoedd wedi gwrthod pob un o'r 3 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro ar sail niwsans s?n yn dilyn digwyddiadau eraill a gynhaliwyd ar y safle.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a gafwyd cyn y gwrandawiad gan y partïon.
Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd:-
Cafodd yr holl bartïon gyfle i holi Swyddog Iechyd yr Amgylchedd am ei sylwadau ac am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
Yna cafodd yr Is-bwyllgor dystiolaeth gan gymydog i'r safle oedd yn cefnogi gwrthwynebiadau Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, a nodwyd y canlynol:-
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r tyst ynghylch ei sylwadau.
Pennu lefel gyffredinol y s?n
Lleihau'r mynediad i'r maes parcio;
Rhoi hysbysiadau i gwsmeriaid;
Trefnu staff yn y maes parcio;
Gosod cyfyngiadau ar ddefnyddio rhannau o'r maes parcio;
Cau ffenestri a drysau ar gyfer digwyddiadau y tu mewn;
Troi'r seinyddion oddi wrth eiddo;
Dim cerddoriaeth fyw/heb ei rheoli.
Nid oedd yr Is-bwyllgor wedi cael sylwadau llafar gan Mrs Dallavalle na Mr Matthews, sef yr ymgynghorydd s?n, gan nad oeddent yn bresennol.
Ar hynny:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad, rhoddodd yr Is-bwyllgor sylw hefyd i'r paragraffau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu ac i'r Cyfarwyddyd a gyhoeddir gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref a nodwyd yn yr eitem ar yr agenda, ac i'r rheiny y cyfeiriwyd atynt gan y partïon.
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid ymdrin â'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro fel a ganlyn:-
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 1 - |
25 Awst, 2018 |
Nid oedd gwrth-hysbysiad wedi cael ei
gyflwyno |
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 2 - |
1 Medi 2018 |
Nid oedd gwrth-hysbysiad wedi cael ei
gyflwyno |
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 3 - |
3 Tachwedd 2018 |
Gohirio tan 25/09/18 |
Y RHESYMAU:-
Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;
Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.
Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid i'r digwyddiadau hyn gael eu cynnal, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallant roi ystyriaeth briodol iddynt.
Barn yr Is-bwyllgor oedd bod tystiolaeth y trigolion lleol yn gredadwy ac mae'n derbyn bod digwyddiadau yn y safle wedi tarfu ar breswylwyr un eiddo yn y gorffennol.
Wrth benderfynu, roedd angen i'r Is-bwyllgor gymryd camau priodol i hyrwyddo'r amcan trwyddedu o ran atal Niwsans Cyhoeddus.
Yng ngoleuni tystiolaeth Mr Morgan, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na fyddai niwsans cyhoeddus yn digwydd yn sgil y digwyddiadau hyn petai'r cynllun rheoli s?n yn cael ei weithredu. Fodd bynnag, gan nad oedd Mrs Dallavalle yn bresennol roedd angen rhagor o dystiolaeth ar yr Is-bwyllgor y byddai'r cynllun yn cael ei weithredu ac am ei effeithiolrwydd cyn gwneud penderfyniad ynghylch yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro ar gyfer 3 Tachwedd 2018.
Dogfennau ategol: