Cofnodion:
Gohiriwyd cyfarfod yr Is-bwyllgor yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 9:30am ac ailddechreuwyd y cyfarfod ar y safle am 10.10am, er mwyn gweld y safle lle cafwyd cyfle i weld y cyfleusterau mewnol ac allanol, gan gynnwys lleoliad y babell fawr ac eiddo'r gwrthwynebwyr. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 11.50am i ystyried y ceisiadau.
Soniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod a rhoddodd wybod i'r Is-bwyllgor fod Adain Iechyd y Cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno hysbysiad gwrthwynebu mewn perthynas â 4 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a oedd wedi'u cyflwyno gan Mrs Maria Dallavalle, La Scala, 15 Rhodfa Bryn Mawr, Rhydaman, SA18 2DA.
Roedd yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro yn berthnasol i werthu alcohol trwy fanwerthu, darparu adloniant rheoledig a lluniaeth gyda'r hwyr ar y safle ar y diwrnodau a'r amserau canlynol:-
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 1
–
Dydd Sadwrn 28 Gorffennaf 2018 - Y
Neuadd Fawr, Plasty Derwydd.
· Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth gyda'r Hwyr 12:00-00:30.
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 2 –
Dydd Sadwrn 25 Awst 2018 - Y Lawnt
Uchaf, Plasty Derwydd.
· Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth gyda'r Hwyr 12:00-00:30.
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 3 –
Dydd Sadwrn 1 Medi 2018 - Y Lawnt
Uchaf, Plasty Derwydd.
· Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth gyda'r Hwyr 12:00-00:30.
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 4 –
Dydd Sadwrn 3 Tachwedd 2018 - Y Neuadd
Fawr, Plasty Derwydd.
· Cyflenwi Alcohol, Adloniant Rheoledig a Lluniaeth gyda'r Hwyr 12:00-00:30.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod Adain Iechyd y
Cyhoedd wedi gwrthwynebu pob un o'r 4 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro
ar sail niwsans s?n a oedd wedi deillio o ddigwyddiadau blaenorol a
oedd wedi'u cynnal ar y safle.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a ddaeth i law cyn y gwrandawiad gan y partïon.
Hefyd, cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan yr Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd:-
Nododd yr Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd ei fod wedi gwrthwynebu'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro oherwydd hanes blaenorol ynghylch niwsans s?n yn ystod digwyddiadau ym Mhlasty Derwydd, yn y drefn ganlynol:-
Trefnu staff diogelwch er mwyn sicrhau bod y gwesteion yn cadw draw o'r ffin ag eiddo cyfagos.
Lleihau sain yr adloniant ar ôl 11:00pm, er mwyn sicrhau mai prin y gellir clywed y gerddoriaeth yn yr eiddo cyfagos.
Cyflogi Ymgynghorydd Acwstig yn y digwyddiad a fyddai'n cynnwys monitro'r lefelau s?n y tu allan i eiddo cymdogion.
Ar yr adeg hon, cafodd yr Is-bwyllgor gyfle i wrando ar recordiadau sain a wnaed gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wrth iddynt fonitro'r lefelau s?n. Roedd y recordiadau sain yn cadarnhau bod y gerddoriaeth i'w chlywed yn glir a'i bod yn ddigon uchel fel bod modd adnabod caneuon unigol. Yn ogystal, roedd y sain yn datgelu pobl yn sgrechian ac yn gweiddi, a s?n injans a cherbydau yn teithio dros gerrig mân.
Dywedodd Pen-ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd y gofynnwyd iddo wneud y gwaith monitro mewn perthynas â'r digwyddiad a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2018. Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor ei fod wedi cyrraedd oddeutu 10.40pm a'i bod yn noson glir a chynnes ac mai ychydig o s?n arall oedd i'w glywed yn yr ardal. Roedd y gwaith monitro sain wedi'i wneud wrth y fynedfa i gae a oedd wedi elwa rywfaint ar sgrinio s?n oherwydd y wal uchel a'r plasty ei hun. Serch hynny, roedd y s?n i'w glywed yn glir o hyd yn y lle monitro, ac ystyriwyd bod lefel y s?n yn annerbyniol. Gwnaed y gwaith monitro o 10.55pm ymlaen yn fras. Nododd y Swyddog, fel y cadarnhawyd gan y sain a chwaraewyd i'r Is-bwyllgor, fod modd adnabod y gerddoriaeth yn hawdd ac y gellid clywed y DJ yn glir. Hefyd, dywedodd nad oedd wedi sylwi ar unrhyw leihad yn y lefelau s?n tan ar ôl 12:00am. Nodwyd hefyd mai dim ond 6 neu 7 o geir oedd wedi pasio dros gyfnod hir. Ar ôl canol nos, roedd lefel uwch o s?n pobl ac roedd pwyslais y gerddoriaeth wedi newid o gerddoriaeth ddawns i ganeuon arafach.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ynghylch eu sylwadau a'r dystiolaeth a gyflwynwyd.
Ar hynny, cafodd yr Is-bwyllgor dystiolaeth gan gymdogion yr eiddo a oedd yn cefnogi gwrthwynebiadau'r Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd am y rhesymau canlynol:-
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r tystion ynghylch eu sylwadau.
Cyfeiriwyd at y recordiadau sain a chwaraewyd yn gynharach yn y cyfarfod. Mewn ymateb i ymholiad, esboniodd y tystion fod y recordiadau yn nodweddiadol o'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau, fodd bynnag, cafwyd digwyddiadau blaenorol pan oedd y s?n yn waeth o lawer. Hefyd, pwysleisiodd y tystion fod problem o ran s?n pobl a cheir, yn ogystal â cherddoriaeth uchel.
Wedyn bu i Mrs Dellavalle ymateb i'r pryderon a'r materion a godwyd gan ddweud:-
· ei bod wedi gwneud ymdrechion i wella trefniant pob digwyddiad, gan gynnwys cyfyngu ar s?n.
· bod staff diogelwch wedi'u cyflogi i hebrwng cwsmeriaid sy'n gadael a chyfyngu ar s?n pobl.
· ei bod wedi rhoi sylw i'r hyn a ofynnwyd gan y Cyngor. Fodd bynnag, oherwydd y terfyn amser, nid oedd yn gallu cyflogi ymgynghorydd acwstig cyn y digwyddiad ar 2 Mehefin 2018. Roedd y staff a oedd ar ddyletswydd wedi monitro'r lefelau s?n gan ddefnyddio ap.
·
bod preswylydd bwthyn
cyfagos wedi nodi ei fodlonrwydd ar drefniant y briodas a
gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2018. Yn
ogystal, roedd y cymdogion wedi nodi mewn llythyr nad oeddent wedi
clywed braidd dim s?n a'i fod wedi distewi ar ôl canol
nos.
[Sylwer: Gyda chytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o neges e-bost dyddiedig 11 Mehefin 2018 oddi wrth breswylydd bwthyn cyfagos arall i aelodau'r Is-bwyllgor].
· Mae'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro yn dod i ben am 12:30am ac roedd yr holl adloniant yn dod i ben am 12:00am yn barod am hynny.
· Roedd y babell fawr wedi'i symud ymhellach i ffwrdd o'r ffin sydd agosaf i'r cymdogion.
· Roedd y digwyddiadau yn cael eu trefnu ar sail dros dro ac nid oeddent yn cael eu cynnal bob penwythnos.
· Roedd yn croesawu'r cyfle i gydweithio â'i chymdogion a'r Awdurdod er mwyn cytuno ar drefniadau mewn modd cyfeillgar.
Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau gan Mr Ian Matthews, Ymgynghorydd Acwstig Mrs Dallavalle, a gwnaeth y sylwadau canlynol:-
Ar hynny
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad, roedd yr is-bwyllgor hefyd wedi rhoi ystyriaeth i'r paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r Cyfarwyddyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref mewn perthynas â'r eitem ar yr agenda, a'r rheiny a oedd wedi'u cyfeirio at ei sylw gan y partïon eraill.
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid ymdrin â'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro fel a ganlyn:-
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 1 - |
28 Gorffennaf 2018 |
Peidio â chyflwyno
gwrth-hysbysiad |
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 2 - |
25 Gorffennaf 2018 |
Gohirio tan 31/07/18 |
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 3 - |
1 Medi 2018 |
Gohirio tan 31/07/18 |
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 4 - |
3 Tachwedd 2018 |
Gohirio tan 31/07/18 |
Y RHESYMAU:-
Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:
Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn Adain Iechyd yr Amgylchedd.
Yr oedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe bai'r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal, lle nad oes tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.
Barn yr Is-bwyllgor oedd bod tystiolaeth yr achwynwyr yn gredadwy ac yn gryf.
Dan adran 105(2)(b) o Ddeddf Trwyddedu 2003 (fel y'i diwygiwyd), rhaid i'r Is-bwyllgor gyflwyno gwrth-hysbysiad os yw'n credu ei bod yn briodol gwneud hynny i hyrwyddo amcan trwyddedu, sef atal niwsans cyhoeddus yn yr achos hwn.
Wrth benderfynu a oedd yn briodol cyflwyno gwrth-hysbysiad, roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi ystyriaeth i'r canlynol:
Roedd yr Is-bwyllgor yn teimlo bod y dystiolaeth a roddwyd ger ei fron yn annigonol ar hyn o bryd i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a fyddai'n briodol ac yn gymesur cyflwyno gwrth-hysbysiad. Yn benodol, roedd yr Is-bwyllgor yn teimlo y byddai'n fuddiol iawn i Mr Matthews (yr ymgynghorydd acwstig a gyflogwyd gan Mrs Dallavalle) a'r Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd fonitro effaith digwyddiad ar y safle ac yna cydweithio'n agos i geisio rhoi sylw i gwynion y preswylwyr cyfagos.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth benodol i adran 13 o ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Cyngor a'r gofyniad i beidio â dyblygu trefniadau statudol eraill wrth wneud ei benderfyniad.
Am y rhesymau uchod, roedd yr Is-bwyllgor yn teimlo na fyddai'n briodol cyflwyno gwrth-hysbysiad mewn perthynas â'r digwyddiad ar 28 Gorffennaf 2018. Byddai hyn yn galluogi'r digwyddiad hwn i gael ei ddefnyddio i gasglu'r dystiolaeth ychwanegol y cyfeiriwyd ati uchod.
Felly, byddai'r Is-bwyllgor yn gohirio ystyried y digwyddiadau eraill hyd nes y byddai'r digwyddiad hwnnw wedi'i gynnal, er mwyn sicrhau bod yr arbenigwyr s?n mewn gwell sefyllfa i roi cyngor i'r Is-bwyllgor.
Dogfennau ategol: