Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad diwedd blwyddyn
ynghylch Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf fel yr oedd
ar 31 Mawrth 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol
2017/18.
Roedd yr adroddiad yn rhoi i'r aelodau wybodaeth am fonitro'r
gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r
Cyhoedd, a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol ac roedd yn rhoi
ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol. I
grynhoi, roedd y gyllideb refeniw ar gyfer y gwasanaethau o fewn
maes gorchwyl Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r
Amgylchedd yn rhagweld tanwariant o £113k.
Roedd y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf yn dangos
gwariant net rhagweladwy o £8,107 o gymharu â chyllideb
net weithredol o £11,987 gan roi amrywiant o
£-3,880.
Codwyd
y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-
- Gofynnwyd pam roedd tanwariant yn gysylltiedig â nifer o
gategorïau o dan Briffyrdd a Thrafnidiaeth? Nododd Cyfrifydd y
Gr?p fod ymarfer ad-drefnu ar waith ar hyn o bryd. Ychwanegodd y
Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod Peiriannydd Cynorthwyol
– Adeiladwaith yn cael ei recriwtio ar hyn o bryd a bod
Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad wedi cael ei benodi'n ddiweddar. Mewn
ymateb i ymholiad pellach, eglurodd y Rheolwr Priffyrdd a
Thrafnidiaeth y byddai gwaith recriwtio yn cael ei wneud ar sail
'haen wrth haen' a'r gobaith oedd y byddai haen Rheolwyr y
Gwasanaeth ar waith yn y 3 mis nesaf.
- O ran Llwybr Dyffryn Tywi, gofynnwyd a oedd cost derfynol y
Llwybr ar gael? Nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac
Isadeiledd ei bod yn anodd rhoi cost derfynol ar y cam hwn oherwydd
bod nifer o agweddau'n anhysbys hyd yn hyn megis cost y tir a'r
costau lliniaru. Fodd bynnag, rhoddwyd sicrwydd bod cyfanswm y gost
yn cynnwys y tir a'r gwaith lliniaru.
Mewn ymateb i ymholiad ynghylch costau
cynnal a chadw'r llwybr, nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth
ac Isadeiledd nad oedd y model cynnal a chadw wedi cael ei gwblhau
eto.
Mewn ymateb i ymholiad pellach, nododd
Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod cynnydd y
cynllun yn cael ei gyfyngu gan argaeledd tir, a bod hyn yn ei dro
yn pennu'r drefn y gallai pob rhan o'r llwybr gael ei
hadeiladu.
- Gofynnwyd beth oedd y sefyllfa o ran eiddo sydd wedi cael eu
dibrisio o ganlyniad i Ffordd Gyswllt Cross Hands ac a oedd unrhyw
wybodaeth wedi dod i law ynghylch iawndal? Bu i Reolwr y
Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd egluro Deddf Iawndal Tir
1974 sy'n nodi'r broses ar gyfer hawliadau. Fodd bynnag, petai
unrhyw faterion yn codi yn ystod y cam adeiladu, byddai'r Adran
Priffyrdd yn gallu helpu.
- Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch y galw ychwanegol am
Hebryngwyr Croesfannau Ysgol, eglurodd y Rheolwr Priffyrdd a
Thrafnidiaeth fod Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn faes oedd yn cael
ei adolygu ar hyn o bryd ac y ceisir cyngor ar lefel
cenedlaethol.
- Gofynnwyd pam roedd gostyngiad wedi bod yn ansawdd gwaith
torri a chlirio amwynderau wrth gyrraedd trefi a phentrefi. Fel
enghraifft, gofynnwyd pam roedd y porth i Dref Caerfyrddin wedi
cael ei adael yn anniben oherwydd gwaith cynnal a chadw o ansawdd
gwael o ran torri a chlirio. Teimlwyd bod y gwaith cynnal a chadw
ar gyfer pyrth trefi a phentrefi wedi cael ei esgeuluso ar y cyfan
ac y dylai'r pyrth gael eu hadfer er mwyn dangos ymdeimlad o
falchder yn yr ardal. Nododd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth y
byddai'n hapus i drefnu cyfarfod safle lle roedd materion ynghylch
ansawdd gwaith torri a chlirio amwynderau yn bryder.
Yn sgil yr uchod, awgrymwyd y gall fod yn
fuddiol i'r Pwyllgor gael cyflwyniad am ymagwedd yr Awdurdod tuag at dorri gwair
amwynderau mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor ynghylch
yr awgrym hwn a nododd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth y
byddai'n trefnu bod cyflwyniad yn cael ei wneud.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr
adroddiad.