Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD A. LLOYD JONES:

"Mae strategaeth y llywodraeth sy'n ymwneud â Thrais Difrifol a gyhoeddwyd yn Ebrill 2018 yn trafod nifer o ffactorau y credir eu bod yn cyfrannu at y lefelau o drais difrifol yn ein cymunedau. Yn benodol ar dudalennau 29-30 mae'r strategaeth yn trafod y cysylltiadau rhwng yfed alcohol, safleoedd trwyddedig a thrais difrifol. Er ei bod yn ymddangos o'r data yn y strategaeth fod yr achosion o ran trais difrifol yn Nyfed-Powys yn gymharol isel, a all y Comisiynydd gadarnhau pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran datblygu ymateb ar y cyd i droseddau sy'n ymwneud ag alcohol, a hyrwyddo economi hwyr y nos fwy diogel fel y cyfeirir ati ym Mlaenoriaeth 1 yn y Cynllun Heddlu a Throseddu a darparu copi o'r ymateb ar y cyd hwnnw i'r Panel?"

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd A. Lloyd Jones:

"Mae strategaeth y llywodraeth sy'n ymwneud â Thrais Difrifol a gyhoeddwyd yn Ebrill 2018 yn trafod nifer o ffactorau y credir eu bod yn cyfrannu at y lefelau o drais difrifol yn ein cymunedau. Yn benodol ar dudalennau 29-30 mae'r strategaeth yn trafod y cysylltiadau rhwng yfed alcohol, safleoedd trwyddedig a thrais difrifol. Er ei bod yn ymddangos o'r data yn y strategaeth fod yr achosion o ran trais difrifol yn Nyfed-Powys yn gymharol isel, a all y Comisiynydd gadarnhau pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran datblygu ymateb ar y cyd i droseddau sy'n ymwneud ag alcohol, a hyrwyddo economi hwyr y nos fwy diogel fel y cyfeirir ati ym Mlaenoriaeth 1 yn y Cynllun Heddlu a Throseddu a darparu copi o'r ymateb ar y cyd hwnnw i'r Panel?”

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu:

"Lansiwyd Strategaeth y llywodraeth sy'n ymwneud â Thrais Difrifol ym mis Ebrill 2018, i ddarparu cymorth i'r Heddlu mewn ymateb i'r cynnydd mewn Troseddau Treisgar. Diolch byth, mae nifer yr achosion o droseddau treisgar difrifol yn isel yn ardal Dyfed Powys; fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu ein bod yn ddiogel rhag y problemau hyn. Yr wythnos hon, cefais ddiweddariad gan y Swyddfa Gartref ynghylch y strategaeth a dywedwyd wrthyf y bydd cronfa ychwanegol o £11 miliwn ar gael i'r heddlu wneud cynnig amdani er mwyn cynorthwyo'r gwaith o gyflwyno'r strategaeth hon. Mae'n werth nodi, fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, credaf fod y strategaeth hon yn bennaf ar gyfer ardaloedd trefol mewn ymateb i'r cynnydd sylweddol mewn troseddau treisgar difrifol a llofruddiaethau yn Llundain.Mae gan Heddlu Dyfed-Powys ddull partneriaeth amlochrog ar gyfer mynd i'r afael ag anrhefn sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yn lleol. Er enghraifft, mae gwaith swyddogion trwyddedu ein sir ar y cyd â'r pedwar Awdurdod Unedol, a'r mentrau megis y Noson Fawr Allan lle cafwyd adnoddau ychwanegol dros gyfnod y Nadolig, yn dangos bod Heddlu Dyfed-Powys yn ymateb yn rhagweithiol. Mae hefyd yn werth nodi'r holl waith caled y mae'r swyddogion cyswllt cymunedol ac ysgol yn ei gyflawni a'r effaith y maent yn ei chael ar bobl ifanc. Mae'r swyddogion hyn yn darparu cwricwlwm safonol ledled Cymru gan drosglwyddo negeseuon ynghylch diogelwch personol yn ogystal â pheryglon camddefnyddio alcohol a sylweddau. Fodd bynnag mae'n peri pryder bod awgrym y bydd Llywodraeth Cymru yn tynnu'r cyllid yn ôl o'r Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan o fis Ebrill 2019 ymlaen. Rwy'n lobïo ochr yn ochr â'r tri Comisiynydd Heddlu a Throseddu eraill yng Nghymru i geisio dylanwadu ar safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch y mater hwn, er hynny, nid yw'r negeseuon diweddar a gafwyd gan Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Iechyd yn dangos bod y Llywodraeth yn ystyried newid ei safbwynt ynghylch y mater hwn. Buddsoddwyd hefyd mewn technoleg. Er enghraifft, fel rhan o'r rhaglen gyfalaf, cefnogais y buddsoddiad mewn dros 800 o gamerâu fideo a wisgir ar y corff ar gyfer swyddogion mewn lifrai. Ers i'r swyddogion wisgo'r camerâu hyn, rydym wedi cael gwybodaeth anecdotaidd yn awgrymu bod cynnydd mewn pleon euog cynnar a chynnydd o ran y rhai a ddrwgdybir yn cyfaddef i'w hymddygiad afreolus pan ddangosir y dystiolaeth iddynt yn y cyfweliad, fodd bynnag mae'n rhaid gwerthuso ymhellach. Yn ogystal â hyn, ceir elfen ataliol hefyd gan fod golau coch yn fflachio'n amlwg ar y camerâu pan fyddant yn recordio ac yn atgoffa aelodau'r cyhoedd bod eu hymddygiad yn cael ei recordio a gellid ei ddefnyddio mewn llys barn."