AR ÔL YMWELD Â'R SAFLE UCHOD, BYDD Y CYFARFOD YN CAEL EI OHIRIO AC YN AILYMGYNNULL YN Y SIAMBR, 3 HEOL SPILMAN, CAERFYRDDIN AM 10.30 A.M. ER MWYN YSTYRIED UNRHYW SYLWADAU A PHENDERFYNU’R CAIS TRWYDDEDU UCHOD.
Cofnodion:
Gohiriwyd cyfarfod yr Is-bwyllgor yn Heol Spilman, Caerfyrddin am 10.05am ac ailddechreuwyd y cyfarfod ar y safle am 10.10am, er mwyn gweld y safle lle cafwyd cyfle i weld y cyfleusterau mewnol ac allanol a lleoliad eiddo'r gwrthwynebwyr. Ar ôl i'r ymweliad safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Heol Spilman, Caerfyrddin am 10.50am i ystyried y cais.
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.
Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor bod cais wedi dod i law gan Jasmine Louise Thomas am drwydded safle mewn perthynas â'r safle uchod i ganiatáu'r canlynol.
Cyflenwi alcohol o ddydd Sul i ddydd Mercher 12:00-23:00, a dydd Iau i ddydd Sadwrn 12:00-01:00
Oriau agor o ddydd Sul i ddydd Mercher 12:00-23:30, dydd Iau i ddydd Sadwrn 12:00-01:30
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A - Copi o'r cais
Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu
Atodiad C - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys
Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd
Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
Yn dilyn cytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o ddogfennau ychwanegol i'r Is-bwyllgor a oedd yn cynnwys newidiadau i'r amodau a gynigiwyd gan yr Awdurdodau Cyfrifol – amodau arfaethedig – a chynllun yn nodi lleoliadau eiddo'r gwrthwynebwyr mewn perthynas â'r safle/eiddo yn y cais.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad B i'r adroddiad a'r amodau arfaethedig a ddosbarthwyd. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad C i'r adroddiad a'r amodau arfaethedig a ddosbarthwyd. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau fel y manylwyd arnynt yn Atodiad D i'r adroddiad a'r amodau arfaethedig a ddosbarthwyd. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi ymgeisydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch y sylwadau a wnaed.
Wedyn, cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan rai o'r bobl eraill a oedd yn mynegi pryderon ac/neu'n gwrthwynebu caniatáu'r drwydded safle am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Atodiad E.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
Ymatebodd yr ymgeisydd i'r pryderon a'r materion a godwyd gan nodi yn dilyn pryderon perchnogion eiddo a busnesau cyfagos ei bod yn tynnu ei chais yn ôl o ran dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher a byddai'n ystyried agor ar y diwrnodau hynny ar sail dymhorol yn unig.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
Ar hynny
PENDERFYNODD yr Is Bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau trwydded roedd yr ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol wedi cytuno arnynt.
Y RHESYMAU:-
Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;
Yn absenoldeb unrhyw sylwadau gan yr Awdurdod Tân nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried unrhyw faterion ynghylch Diogelwch Tân.
Hefyd roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi ystyriaeth i faterion troseddau ac anhrefn yng nghyffiniau'r safle, ond nad oeddynt i'w priodoli'n uniongyrchol i'r safle.
Yr oedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.
Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn bod tystiolaeth y trigolion lleol yn gredadwy ac yn gadarn gan dderbyn bod yr hyn a ddywedwyd ganddynt yn dystiolaeth wirioneddol o droseddau ac anhrefn a niwsans cyhoeddus a oedd yn gysylltiedig â'r safle ac yng nghyffiniau'r safle.
Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Awdurdodau Cyfrifol, gan fod rheidrwydd cyfreithiol arno i wneud hynny. Nid oedd yr Is-bwyllgor o'r farn bod y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ddigonol i gyfiawnhau gwyro oddi wrth farn yr Is-bwyllgor.
Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na fyddai caniatáu'r cais, yn amodol ar yr amodau diwygiedig y cytunwyd arnynt rhwng yr ymgeiswyr ac awdurdodau cyfrifol, yn tanseilio'r amcanion trwyddedu o atal troseddau ac anhrefn ac atal niwsans cyhoeddus.
Hefyd roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr amodau hynny yn briodol er mwyn hyrwyddo'r Amcanion Trwyddedu ac yn ymateb cymesur i'r problemau a nodwyd. Yn dilyn barn yr awdurdodau cyfrifol nid oedd yr Is-bwyllgor o'r farn y byddai'n briodol nac yn gymesur i wrthod y cais yn llwyr.
Dogfennau ategol: