Agenda item

ARGYMHELLIAD Y BWRDD GWEITHREDOL - CYLLIDEB Y CYFRIF REFENIW TAI 2018/19 TAN 2020/21 A PHENNU RHENTI TAI AR GYFER 2018/19

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror 2018 (gweler Cofnod 8), wedi ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2018/19 tan 2020/21 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2018/19 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfrifydd y Gr?p, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, ar gynigion y Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai 2018 tan 2021. Roedd yn adleisio nodau'r Awdurdod yn y Cynllun Busnes 30 blynedd sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) a'n Strategaeth Tai Fforddiadwy.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y buddsoddiad cyfalaf o £231m yn y cynllun busnes presennol wedi sicrhau bod tenantiaid yn elwa ar Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wrth gamu ymlaen roedd y gyllideb wedi cael ei llunio mewn modd oedd yn gofalu bod y cyllid priodol yn cael ei ddyrannu er mwyn cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy yn achos holl eiddo'r Cyngor i'r dyfodol. Dros y 3 mlynedd nesaf rhagwelid y byddai tua £30m yn cael ei wario ar gynnal a gwella ein stoc tai. Hefyd roedd y gyllideb yn darparu cyllid o ryw £26m dros y 3 mlynedd nesaf i gefnogi'r Strategaeth Tai Fforddiadwy, a fyddai'n arwain at gynnydd yng nghyflenwad y tai fforddiadwy ar hyd a lled y sir drwy wahanol atebion gan gynnwys y rhaglen adeiladu tai newydd a'r cynllun prynu'n ôl.

 

Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod, ers 2015, fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a olygai bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent oedd gerbron yr aelodau wedi'i ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Er nad oedd y polisi hwnnw wedi newid, roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud, oherwydd y Mynegai Prisiau Defnyddiwr cymharol uchel sef 3%, efallai y byddai Awdurdodau Lleol yn dymuno ystyried defnyddio opsiwn is eleni. Ystyrid y byddai cymhwyso'r polisi fel yn y blynyddoedd blaenorol ar gyfer 2018/19 sef cynnydd o 4.5% mewn rhent ynghyd â chynnydd o £2 yn arwain at rent cyfartalog o £86.21, sef cynnydd o 5.49%, a fyddai'n annerbyniol ac yn annheg i denantiaid. Yn unol â hynny cynigiwyd bod y rhent yn cael ei osod ar y lefel isaf bosibl. 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn ceisio, cyn belled ag yr oedd modd, cydnabod y pwysau sydd ar gyllidebau aelwydydd gan nad yw codiadau cyflog wedi bod yn cyfateb i'r chwyddiant cynyddol mewn prisiau. Byddai'r egwyddorion uchod yn lleihau'r baich ar yr holl denantiaid o gynnydd cyfartalog o 4.5% i 3.5% ac yn cyfyngu'r cynnydd tuag at y rhent targed i £1.62 o gymharu â'r cynnydd mwyaf y gellir ei ganiatáu sef £2. Dyma oedd y cynnydd cyfartalog isaf y gellir ei ganiatáu sy'n cydymffurfio â pholisi presennol Llywodraeth Cymru. Yn seiliedig ar gymhwyso'r uchod, ar gyfer 2018/19 byddai cynnydd rhent o 3.5% ynghyd â chynnydd o £1.62 yn arwain at rent cyfartalog o £85.27 a oedd yn gynnydd o 4.34% neu £3.55. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ei bod yn anodd cael cydbwysedd rhwng effaith y cynnydd mewn rhent ar y tenantiaid a'r angen i bennu'r rhent yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, gan sicrhau ar yr un pryd y gallai'r Awdurdod barhau i gynhyrchu cynllun busnes cynaliadwy ar gyfer bwrw ymlaen â Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy a'r Strategaeth Tai Fforddiadwy.

Wrth gynnig yr argymhellion yn yr adroddiad, dywedodd fod y Pwyllgor Craffu - Cymunedau wedi cefnogi'r cynigion yn ei gyfarfod ar 30 Ionawr 2018.

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

8.1 Cynyddu cyfartaledd y rhent tai yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (targed pen isaf) h.y. :-

·         Bydd eiddo 'rhenti targed' yn cynyddu gan 3.5% (Mynegai Prisiau Defnyddwyr + 0.5%)

·         Bydd eiddo lle mae'r rhent yn is na'r rhenti targed yn cynyddu gan 3.5% (Mynegai Prisiau Defnyddwyr + 0.5%) yn ogystal â'r cynnydd mwyaf posibl o £1.62

·         Bydd eiddo sy'n uwch na'r rhent targed yn cael eu rhewi hyd nes iddynt ddod yn unol â'r targed

gan arwain felly at gynnydd yn y rhent ar gyfartaledd o 4.34% neu £3.55, gan lunio Cynllun Busnes cynaliadwy, sy'n cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy a darparu adnoddau i'r Rhaglen Tai Fforddiadwy;

8.2 gweithredu'r cynnydd mwyaf posibl o £1.62 ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti targed, hyd nes y cyrhaeddir y rhenti targed;

8.3 peidio â chynyddu rhenti garejis ar gyfer 2018/19 a'u cadw ar yr un lefel â 2017/18, gan bennu'r rhenti ar gyfer garejis yn £9.00 yr wythnos a'r seiliau garejis yn £2.25 yr wythnos;

8.4 rhoi'r Polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

8.5 cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

8.6 bod y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol am 2018/19, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer y blynyddoedd i ddod o 2018/19 hyd at 2020/21, fel y'u nodwyd yn Atodiad B o'r adroddiad, yn cael eu cymeradwyo,

8.7 cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 (cyllidebau dangosol yw rhai 2019/20 a 2020/21), fel y nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: