Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2017/18 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2017. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £407k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £4,167k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £162k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·        O ran y tanwariant arfaethedig o £50k ar Ddigartrefedd, dywedodd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod nifer o resymau dros y sefyllfa honno. Yn gyntaf, roedd trefniadau atal rhagweithiol yr Adran wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y ddarpariaeth o gymharu â'r sefyllfa 10 mlynedd ynghynt, lle roedd diffyg o £0.5m o ran y gyllideb. Yn ail, roedd grant o £35k gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparu tai i bobl ddigartref wedi golygu nad oedd yn rhaid i'r Awdurdod wario ar y cynllun bond. O ganlyniad i'r cyllid hwnnw, byddai'r gyllideb yn cael ei hailbroffilio yn y flwyddyn ariannol nesaf.

·        O ran y gorwariant o £40k ym Mharc Gwledig Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod costau staff asiantaeth wedi deillio o gyflwyno strwythurau newydd yn y parc ac o'r angen i gyflogi staff asiantaeth dros dro tra bo'r broses recriwtio briodol yn cael ei dilyn. Roedd y parc bellach wedi ei staffio'n llawn.

·        O ran gweithredu Parc Gwledig Pen-bre, gofynnwyd am eglurhad ar y rhagamcanion o ran gwneud elw yn y dyfodol. Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Hamdden fod y Parc wedi cynyddu ei incwm tua £0.25m dros y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf o achos y parc carafanau. Er mwyn cynnal a chynyddu'r potensial hwnnw i greu incwm, byddai angen buddsoddi yn y parc er mwyn gwella'r cyfleusterau presennol, er enghraifft cawodydd a chaffi newydd. Yn unol â hynny, roedd prif gynllun wedi ei ddatblygu a'i gymeradwyo ar gyfer y parc, ac roedd darpariaeth wedi ei gwneud yn rhaglen gyfalaf y Cyngor i gyllido'r gwelliannau hynny.

·        Cadarnhaodd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel, o ran digartrefedd, er nad oedd gan yr Awdurdod gysgodfan benodedig i'r digartref dros nos, fod ganddo amryw o fesurau i helpu pobl i gyflwyno'u hunain fel pobl ddigartref. Roedd y mesurau hynny'n cynnwys gallu cael mynediad i lety dros dro mewn argyfwng, a gweithrediad cynllun bond.

·        Dywedodd y Pennaeth Hamdden, mewn ymateb i gais am eglurhad ar gost net gyfunol o £274k o ran gwasanaethau Canolfan Hamdden Sanclêr (£177k) a Chanolfan Grefftau Sanclêr (£97k), fod costau nad oedd modd eu rheoli yn ffactor a oedd wedi cyfrannu'n fawr at hyn. Roedd y rheiny'n cyfateb i £82k a £50k ac yn cynnwys costau corfforaethol ac ad-dalu benthyciadau cyfalaf i gyllido gwelliannau i'r cyfleusterau. Roedd yr adran yn ymwybodol iawn o'r angen i greu incwm/lleihau costau ar gyfer y cyfleusterau, ac roedd cyfarfod wedi'i gynnal yn ddiweddar ag aelodau lleol i drafod ffyrdd o gyflawni'r nod hwnnw. Fodd bynnag, roedd yn rhaid cydnabod er bod y cyfleusterau hamdden yn y trefi mwy o faint yn fwy cost-effeithiol, fod gan y cyfleusterau gwledig rôl gymunedol bwysig, er enghraifft roedd y ganolfan grefftau yn cynnwys llyfrgell a gorsaf yr heddlu.

·        Mewn ymateb i eglurhad ar y tangyflawniad arfaethedig o £17k o ran incwm yng Nghanolfan Hamdden Llanelli, dywedodd y Pennaeth Hamdden er bod y sefyllfa'n siomedig, dylid ei hystyried yng nghyd-destun incwm targed a gyllidebwyd o £958k, ac yn hynny o beth nid oedd yn sylweddol. Un o'r rhesymau posibl dros y tangyflawni a ddisgwylid oedd cystadleuaeth yn ardal Llanelli gan ddarparwyr hamdden/ffitrwydd preifat.

·        Mynegwyd sylwadau ar ariannu cyfleusterau fel llyfrgelloedd ac amgueddfeydd, a chydnabuwyd ei bod yn bosibl y byddai wastad angen rhywfaint o gymorth arnynt i sicrhau eu bod yn aros ar agor ac yn cyfrannu at hyfywedd diwylliannol y sir.

O ran cymorth ariannol, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y Cyngor, wrth bennu ei bolisïau prisio, yn cydnabod economeg amrywiol y sir ac yn gorfod sicrhau nad oedd y polisïau hynny'n anghymhelliad i'r rheiny oedd o dan anfantais ariannol mewn cymdeithas. Fodd bynnag, tra bo angen cymhorthdal ar lefydd fel llyfrgelloedd, theatrau ac amgueddfeydd, roedd swyddogion yn ymchwilio i ffyrdd amgen o greu incwm, er enghraifft hyrwyddo amgueddfeydd fel lleoliadau priodas.

·        Mewn ymateb i eglurhad ar y gorwariant arfaethedig o £469k yn Adain Rheoli Datblygu yr Is-adran Gynllunio, dywedodd y Pennaeth Cynllunio mai'r rheswm dros hynny oedd diffyg yn yr incwm o gymharu â'r rhagamcanion seiliedig ar lefelau incwm y flwyddyn gynt. Yn dilyn paratoi'r adroddiad ar ddiwedd mis Rhagfyr, roedd incwm yr Adain wedi cynyddu £124k, a'r disgwyl oedd y byddai incwm ychwanegol dros y misoedd nesaf a fyddai'n lleihau'r diffyg ymhellach. Ymhlith y ffactorau eraill oedd yn effeithio ar greu incwm oedd y ffaith bod y lefel adennill costau ledled Cymru ar gyfer gwasanaethau cynllunio yn llai na 50% o gost darparu'r gwasanaeth, ac roedd sylwadau'n cael eu gwneud i Lywodraeth Cymru er mwyn cynyddu'r ganran honno. Ar hyn o bryd roedd yr Is-adran yn edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno ffioedd cyn cyflwyno cais, a phe baent yn cael eu cymeradwyo, byddent yn helpu i gyrraedd y targedau incwm.

·        Cyfeiriwyd at y mater o geisiadau cynllunio ôl-weithredol ac at a ellid cynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio i wneud iawn am y costau cynyddol o ran eu prosesu, a oedd yn codi fel arfer o ganlyniad i gamau gorfodi. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio fod sylwadau wedi'u gwneud i Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol gynyddu'r ffioedd. Fodd bynnag, nid oedd yn derbyn bod cyfiawnhad dros fabwysiadu'r ymagwedd honno.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf yn cael ei dderbyn.

 

Dogfennau ategol: