Agenda item

CYNLLUN BUSNES FFORWM LLEOL CYMRU GYDNERTH

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ar weithrediad Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a roddai drosolwg ar ei weithrediad, drwy'r broses cynllunio busnes, ynghyd â dealltwriaeth o Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 a goblygiadau hynny ar Gyngor Sir Caerfyrddin a Heddlu Dyfed-Powys. Roedd yn cynnwys esboniad o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys a rôl y cyngor ynddo, a hefyd yn ystyried y risgiau a'r bygythiadau a allai effeithio ar ardal Dyfed-Powys a sut oedd Fforwm Lleol Cymru Gydnerth yn anelu at liniaru'r rheini.

 

Amlinellodd y Rheolwr Argyfyngau Sifil gefndir y Ddeddf Argyfyngau Sifil a dywedodd ei bod yn diffinio argyfwng mewn tair ffordd:-

-        Digwyddiad sy'n bygwth niwed difrifol i Les Dynol rhywle yn y DU.

-        Digwyddiad neu sefyllfa sy'n bygwth niwed difrifol i'r Amgylchedd rhywle yn y DU.

-        Rhyfel neu Derfysgaeth sy'n bygwth niwed difrifol i ddiogelwch y DU.

O ganlyniad i'r Ddeddf honno, rhaid i'r asiantaethau ymatebol ffurfio Fforymau wedi eu seilio ar ffiniau Heddluoedd. Yn Sir Gaerfyrddin, roedd Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys wedi cael ei sefydlu a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr lefel uwch o bob un o'r awdurdodau ymatebol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Dywedwyd bod Sir Gaerfyrddin yn sir amaethyddol, a gofynnwyd pa fesurau oedd ar waith i ddiogelu cynhyrchu a dosbarthu bwyd mewn argyfwng.

Dywedodd y Rheolwr Argyfyngau Sifil fod dwy ran i'r Ddeddf Argyfyngau Sifil.  Roedd Rhan 1 yn canolbwyntio ar drefniadau lleol ar gyfer diogelwch sifil, gan sefydlu fframwaith statudol o rolau a chyfrifoldebau ar gyfer ymatebwyr lleol. Roedd Rhan 2 yn canolbwyntio ar bwerau argyfwng, gan sefydlu fframwaith modern ar gyfer defnyddio mesurau deddfwriaethol arbennig a allai fod yn angenrheidiol i ymdrin ag effeithiau'r argyfyngau mwyaf difrifol. Byddai'r rhain yn cael eu cyflwyno i ddiogelu materion megis darparu bwyd a seilwaith.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ar ymgysylltu â chymunedau lleol fel rhan o'r broses, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod hynny'n profi i fod yn anodd, er bod ymdrechion wedi cael eu gwneud o'r blaen i'r perwyl hwnnw. Fel rheol, dim ond pan fyddai argyfwng yn codi y gwelid cymunedau'n ymgysylltu, a byddai'r diddordeb hwnnw'n pylu ar ôl y digwyddiad, wrth i faterion dilynol gael eu hunioni.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ar argyfyngau rhagataliol megis terfysgaeth, dywedwyd wrth y Pwyllgor y rhoddwyd gwybod i Fforymau Lleol Cymru Gydnerth am risgiau posibl yn eu hardaloedd ac y cynhelid digwyddiadau hyfforddiant a edrychai ar sefyllfaoedd gwahanol ac a baratoai ymatebion ôl-ddigwyddiad iddynt.

·        Mewn perthynas â strwythur rheolaeth y Fforymau a'u lleoliad, roedd tri strwythur rheolaeth nodedig sef Strategol (Aur), Tactegol (Arian) a Gweithredol (Efydd).Roedd y Rheolaeth Aur ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin. Roedd canolfannau Rheolaeth Arian (Technegol) wedi'u lleoli mewn gorsaf heddlu ym mhob ardal awdurdod lleol. Roedd gan awdurdodau lleol ganolfannau arian hefyd, ac roedd un Sir Gaerfyrddin ym Mharc Myrddin. Roedd canolfannau efydd yn weithredol, ac, oherwydd eu natur, wedi'u lleoli yn safle unrhyw ddigwyddiad.

·        Cyfeiriwyd at Glwy'r Traed a'r Genau yn y Sir yn 2001 a mynegwyd safbwyntiau a oedd yn ffafrio ymdrin â digwyddiadau o'r fath ar lefel leol, yn hytrach na'r sefyllfa yn 2001 pryd yr oedd Llywodraeth Leol yn gyfrifol. Cadarnhaodd y Rheolwr Argyfyngau Sifil, er bod gan yr Awdurdod gynlluniau ar waith i ymdrin â digwyddiadau o'r fath (a oedd o fewn maes gorchwyl Is-adran Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor), mai gan Lywodraeth Cymru yr oedd y cyfrifoldeb goruchwyliol.

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y gallai drefnu bod swyddogion yn rhoi manylion i aelodau ynghylch sut y byddai'r awdurdod yn ymateb i achos o glwy'r traed a'r genau a sut oedd yr ymateb hwnnw'n gysylltiedig ag asiantaethau cenedlaethol eraill.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y cyflwyniad.

 

 

Dogfennau ategol: