Agenda item

SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) CYNLLUN BUSNES 2018-21

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) 2018-21, a oedd â phwrpas triphlyg.  Yn gyntaf, eglurai weledigaeth a manylion STSG+ dros y tair blynedd nesaf a'r hyn yr oedd y Safon yn ei olygu i'r tenantiaid. Yn ail, roedd yn cadarnhau'r proffil ariannol, ar sail y rhagdybiaethau presennol ar gyfer cyflawni STSG+ dros y tair blynedd nesaf ac yn drydydd, lluniai gynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr ar gyfer 2018/19, a oedd yn cyfateb i £6.1 miliwn.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch faint o gymorth a roddid i denantiaid o dan y pwynt bwled canlynol, “Rhoi pwyslais ar ddarparu mwy o gyngor a chymorth i denantiaid i reoli eu cyllidebau misol. Byddwn yn darparu ystod eang o wasanaethau cymorth i helpu tenantiaid i ymdopi â'r newid diwylliannol a ddaw yn sgil Credyd Cynhwysol, a lliniaru'r effaith cymaint ag y gallwn”.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y Cyngor wedi tynnu sylw at y posibilrwydd y gallai rhai o'i denantiaid wynebu trafferthion ariannol dros y 18 mis nesaf o ganlyniad i gyflwyno'r Credyd Cynhwysol. O ganlyniad, cyflwynwyd mesurau i geisio lliniaru ei effaith ar denantiaid a oedd yn cynnwys, er enghraifft:

 

-       gweithio gyda'r Asiantaeth Budd-daliadau a thîm Budd-daliadau'r Cyngor i dargedu'r tenantiaid hynny oedd yn fwyaf tebygol o gael trafferthion ariannol.

-       Cyflwyno trafodaethau cyn tenantiaeth i sicrhau bod darpar denantiaid wedi'u paratoi ar gyfer cael tenantiaeth

-       Mabwysiadu Cynllun Gweithredu Credyd Cynhwysol

-       Buddsoddi mewn meddalwedd i nodi a thargedu'r tenantiaid y bernid eu bod yn fwy tebygol o fod mewn perygl ac i roi cymorth priodol iddynt.

 

Er bod y Cyngor wedi cydnabod a chyflwyno gwahanol fesurau i helpu tenantiaid yr effeithir arnynt gan Gredyd Cynhwysol, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel mai un maes a oedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor oedd agwedd posibl y sector preifat, gyda phosibilrwydd y byddai rhai landlordiaid yn gwrthod derbyn tenantiaid a oedd yn cael y Credyd Cynhwysol. Un ffordd bosibl o fynd i'r afael â hynny oedd y byddai'r Cyngor yn rheoli cartrefi sector preifat ar ran landlordiaid.

 

Cafodd y pryderon hyn eu hadlewyrchu yng Nghynllun Busnes y Cyngor.

 

·         Tynnwyd sylw at ddatganiad yn yr adroddiad ynghylch sefydlu cwmni tai lleol a oedd yn cyfeirio at ddarparu cymysgedd o dai fforddiadwy newydd i'w prynu neu i'w rhentu. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y datganiad hwnnw a oedd yn mynd yn groes i bolisi presennol y Cyngor o beidio gwerthu tai cyngor.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod polisi'r Cyngor yn gwahardd gwerthu unrhyw un o blith y 9,000+ o dai ac eiddo a oedd yn berchen iddo ar hyn o bryd, ac nad oedd y polisi hwnnw wedi newid. Roedd y datganiad uchod yn cyfeirio at sefydlu'r cwmni tai lleol arfaethedig fel cyfrwng i hwyluso'r gwaith o adeiladu tai o safon yn Sir Gaerfyrddin, a hynny drwy amrywiaeth o ffyrdd/deiliadaethau er mwyn galluogi pobl leol i gael troed ar yr ysgol dai. Gallai, er enghraifft, gynnwys tai at ddibenion gwerthu, gosod, cyfranddaliadau, lesddaliadau, a rhentu i brynu.

 

Mewn ymateb i nifer o gwestiynau ynghylch y bwriad i sefydlu'r cwmni tai lleol, atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel am y ddadl gynhwysfawr a gafwyd yn ei gyfarfod ar 24 Tachwedd 2017 (cyfeiria cofnod 5 ati) lle codwyd ystod eang o faterion mewn perthynas â'r cwmni, gan gynnwys trefniadau llywodraethu, y gallu i fenthyg a phenodi cyfarwyddwyr i'r cwmni. Ategodd y prif resymau dros sefydlu'r cwmni, sef er mwyn cynyddu'r cyflenwad o dai ychwanegol y mae angen mawr amdanynt a hynny gan greu cyfleoedd am swyddi, hyfforddiant a phrentisiaethau, cefnogi'r gadwyn gyflenwi a chyflwyno dyheadau'r Cyngor ym maes adfywio.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn am y cynnig yn yr adroddiad i ddod â dros 160 o dai gwag yn ôl i ddefnydd, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y targed yn cael ei ystyried yn un y gellir ei gyflawni ac y byddai'n golygu bod yr adran yn cydweithio â pherchnogion preifat, fesul achos, i wneud gwelliannau i'w heiddo a thrwy hynny, peri iddynt gael eu defnyddio eto, ar werth neu ar rent.

·         Gofynnwyd pam bod darpariaeth y cynllun busnes ar gyfer drwgddyledion wedi cynyddu o £494k yn 2018/19 i £784k yn 2020/2.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel am y ddadl gynharach am y posibilrwydd y gallai rhai tenantiaid wynebu trafferthion ariannol o ganlyniad i gyflwyno'r Credyd Cynhwysol. O ystyried y potensial hwnnw, ystyrid y byddai'n synhwyrol darparu'n briodol yn y Cynllun Busnes ar gyfer cynnydd o ran drwgddyledion.

 

O ystyried y potensial ar gyfer mwy o ddyledion o ganlyniad i gyflwyno'r Credyd Cynhwysol, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod y Cyngor wedi cynyddu ei ddarpariaeth ar gyfer dyledion yn y Cynllun Busnes, yn unol ag arfer da cyfrifo. Hyd yn hyn, roedd y Cyngor wedi llwyddo i gadw lefelau'r dyledion oddi mewn i ffiniau ei ddarpariaeth a hynny drwy weithio â thenantiaid i reoli eu materion ariannol. Ar hyn o bryd roedd lefel y drwgddyledion oddeutu £300k, nad yw'n swm pitw yn ei hun ond mae'n fach o gymharu â'r incwm rhent blynyddol o £39 miliwn.

·         Mewn ymateb i gwestiwn am oblygiadau'r adroddiad o ran cyflawni STSG+ a'i botensial i beri her a risg ariannol sylweddol i'r Cyngor Sir, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y gallai'r cynllun busnes fod yn agored i nifer o droeon a newidiadau o gofio ei fod yn cwmpasu cyfnod o 30 mlynedd. Er enghraifft, cynnydd yn y gyfradd llog neu benderfyniad gan Lywodraeth Cymru i orffen talu'r Lwfans Atgyweiriadau Mawr sy'n werth £6.1 miliwn y flwyddyn. Hyd yn hyn benthycwyd tua £230 miliwn i gyflawni'r STSG. Roedd £120 miliwn ohono wedi'i ariannu drwy'r rhaglen Benthyca Darbodus ac roedd rheoli'r ddyled honno yn ffactor pwysig i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel ei bod yn annhebygol y byddai un digwyddiad yn gallu cael effaith sylweddol ar hyfywedd y cynllun, yn hytrach ystyrid y byddai unrhyw effaith yn fwy tebygol o gronni yn sgil amryw o wahanol ffactorau, er enghraifft, diddymu'r Lwfans Atgyweiriadau Mawr, cynyddu'r cyfraddau llog, drwgddyledion uwch a rhenti'n gostwng. 

·         Cyfeiriwyd at y buddsoddiad o £30 miliwn a wneir yn STSG+ dros y tair blynedd nesaf a gofynnwyd am eglurhad ynghylch a fyddid yn ymgynghori ag aelodau lleol ynghylch unrhyw fuddsoddiadau yn eu wardiau.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel yr ymgynghorwyd ag aelodau lleol ynghylch y gwaith yn eu wardiau, fel rhan o fuddsoddiad sylweddol cychwynnol y Safon. Gan fod y buddsoddiad mawr hwnnw bellach wedi dod i ben a'r pwyslais wedi symud i gynnal a chadw'r stoc dai yn y dyfodol, roedd yn amserol ystyried sut y gallai aelodau lleol gael gwybod am unrhyw waith a wneir yn eu wardiau neu gael eu cynnwys ynddo.  Sicrhawyd y pwyllgor y byddid yn ystyried cynnwys aelodau lleol yn y trefniadau cynnal a chadw yn y dyfodol yn eu wardiau. 

·         Cyfeiriwyd at gyfeiriad yn yr adroddiad at agwedd y Cyngor at Reoli Tân, a oedd yn holi a osodwyd chwistrellwyr rhag tân a ffenestri 'plygu a throi' – fel bod modd gadael mewn argyfwng – yn nhai/canolfannau preswyl y Cyngor.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel nad oedd chwistrellwyr wedi'u gosod yn nhai preswyl y Cyngor am eu bod yn cael eu staffio bedair awr ar hugain y dydd ond eu bod wedi'u gosod yn eiddo'r Cyngor a godwyd ar ôl 2001. Fodd bynnag, o ganlyniad i danau diweddar yn lleol a chenedlaethol roedd yr adran wedi ailedrych ar ei gynllun Rheoli Tân i sicrhau bod y prosesau i gyd ar waith. Gallai adroddiad ar ddiogelwch tân yn gyffredinol, a fyddai'n ymdrin â phryderon yr aelodau am chwistrellwyr a ffenestri 'plygu a throi', gael ei gyflwyno gerbron un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

·         Mewn ymateb i gwestiwn am brisio tai fforddiadwy, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod hynny'n ymwneud yn benodol â'r gallu i dalu a'i fod, fel rheol, yn cael ei weithredu i gyfateb i 3.5 gwaith incwm yr aelwyd. O ran fforddiadwyedd eiddo rhent, roedd hwnnw'n gysylltiedig â'r Lwfans Tai Lleol.

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd cyfeiriad yr adroddiad at gynnal ymweliadau trylwyr â chartrefi tenantiaid yn gysylltiedig â chreu cymunedau da.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y cynnig yn ymwneud ag ymgysylltu â thenantiaid ac aelodau lleol i gael eu barn am yr hyn yr hoffent weld yn cael ei ddarparu yn eu cymunedau, a darparu peth cyllid ar gyfer gwaith amgylcheddol gyda'r nod o hybu gwytnwch cymunedol. Po fwyaf y bydd y cydbwysedd hwnnw'n cael ei gyflawni drwy dai, po leiaf y ddibyniaeth ar y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Disgwylir y bydd yr ymweliadau'n dechrau o fewn y tri i chwe mis nesaf.

·         Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel, mewn ymateb i gwestiwn am y cartrefi hynny na chafodd eu gwella – ar gais y tenantiaid – o dan STSG, mai polisi presennol y Cyngor oedd parchu dymuniadau'r tenantiaid a pheidio gwneud gwelliannau i'w heiddo os mai dyma'u dymuniad. Roedd oddeutu 6% o stoc dai'r Cyngor yn y categori hwnnw, a gall fod yn amserol i'r Cyngor ailystyried ei bolisi yn hyn o beth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

6.1

ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL:

·         Bod gweledigaeth STSG+, ynghyd â'r rhaglen gyflawni ariannol ar gyfer y tair blynedd nesaf, yn cael eu cadarnhau

·         Bod y bwriad i gyflwyno'r cynllun i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadarnhau

6.2

Bod adroddiad ar ddiogelwch tân yn gyffredinol, a fyddai'n ymdrin â phryderon yr aelodau am chwistrellwyr a ffenestri 'plygu a throi', yn cael ei gyflwyno gerbron un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol

6.3

Bod adroddiad ar bolisi'r Cyngor o adael tenantiaid i wrthod gwelliannau i'w heiddo yn cael ei gyflwyno gerbron un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol

 

 

Dogfennau ategol: