Agenda item

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI A LEFELAU RHENTI TAI 2018/19 – REFENIW A CHYFALAF

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Lefelau'r Rhenti Tai ar gyfer 2018/19 a gyflwynir fel rhan o broses ymgynghori'r gyllideb. Roedd yn tynnu ynghyd y cynigion diweddaraf a gynhwyswyd yn y cyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai 2018/19 a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Roedd y buddsoddiad arfaethedig a geir yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni STSG+ erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu buddsoddiad i gynnal STSG+ ac wedi parhau â'r buddsoddiad yn Ymrwymiad yr Awdurdod i Dai Fforddiadwy. 

 

O ran pennu Rhenti Tai, atgoffodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru o'r blaen, gyda golwg ar symud ymlaen i'r rhent targed pwynt canol. Ar gyfer 2018/19 roedd Llywodraeth Cymru wedi hysbysu awdurdodau lleol mai'r Mynegai Prisiau Defnyddiwr, sef 3%, fydd y cynnydd o ran rhent targed, ynghyd â 1.5%, gan greu cyfanswm o 4.5%. Ar gyfer y rheiny o dan y rhent targed byddai cynnydd o hyd at £2 yr wythnos yn cael ei weithredu hyd nes y bydd y rhent targed wedi'i gyrraedd, gan gyfateb i gynnydd o 5.49% i denantiaid y Cyngor. Fodd bynnag, er nad oedd y polisi hwnnw wedi newid, roedd Llywodraeth Cymru wedi cymryd y cam anarferol o ddweud wrth awdurdodau lleol y byddai'n syniad iddynt ddefnyddio opsiwn is ar gyfer 2018/19, oherwydd bod y Mynegai Prisiau Defnyddiwr o 3% yn gymharol uchel. 

 

O gofio'r sylw hwn gan Lywodraeth Cymru, a chan gydnabod y pwysau ariannol ar aelwydydd am nad yw codiadau cyflog wedi bod yn cyfateb â'r twf mewn chwyddiant, cynigiwyd bod yr Awdurdod yn codi ei rent i'r graddau lleiaf posib ar gyfer 2018/19, gan ddefnyddio'r hyblygrwydd a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru a chan gydymffurfio â'i pholisi hi o ran band rhent targed. Pe bai'r Cyngor yn cymeradwyo'r cynnig hwnnw byddai'n golygu y byddai'r rhent yn cael ei bennu ar y lefel isaf posib, sef cynnydd o 3.5% i bob tenant yn ogystal â chynnydd gostyngedig o £1.62 i greu rhent cyfartalog o £85.27, gan arwain at gynnydd o 4.34% neu £3.55.  

 

Os byddai'r Pwyllgor yn penderfynu cymeradwyo argymhellion yr adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y dylai nodi, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol pan gynyddwyd rhenti garejis/sylfeini garejis, nad yw strategaeth gyfredol y gyllideb yn cynnwys unrhyw gynigion i'w cynyddu yn 2018/19.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a fyddai'r cynnydd cyfartalog arfaethedig o 3.5% ar gyfer pob tenant, a chynnydd uwch na hynny ar gyfer rhai, yn arwain at daliadau uwch ar gyfer y rheiny ar y tâl isaf.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol nad oedd cydberthynas rhwng y ddau ac nad oedd y cynnydd arfaethedig yn gysylltiedig â'r gallu i dalu.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar bolisi'r cyngor ar ddarparu tai fforddiadwy a defnyddio Cytundebau Cynllunio Adran 106, atgoffodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y Pwyllgor am y polisi ar gyfer darparu tai cymdeithasol ychwanegol yn Sir Gaerfyrddin drwy amrywiol ddulliau, gan gynnwys y cynigion ar gyfer sefydlu Cwmni Tai lleol a fydd yn berchen i'r cyngor, 'hyd braich'.  Roedd y cynigion hynny hefyd yn cynnwys prynu cartrefi preifat i'w rhentu neu adeiladu eiddo newydd.

 

Cymeradwyodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel sylwadau'r Cyfarwyddwr a dywedodd fod yr Awdurdod, hyd yn hyn, wedi prynu 70 o dai preifat a oedd ar gael i'w rhentu wedyn.  Byddai sefydlu'r Cwmni Tai Lleol hefyd yn cynnig opsiynau eraill i'r Cyngor o ran darparu cartrefi fforddiadwy, boed hynny drwy dai rhent neu dai newydd. O ran defnyddio Cytundeb Adran 106, roedd hynny'n ymwneud â'r ddeddfwriaeth gynllunio sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwr tai sicrhau bod canran benodol o'r tai a adeiladir ar safle yn rhai fforddiadwy neu ei fod, yn lle hynny, yn talu swm i'r awdurdod a allai gael ei ddefnyddio wedyn i brynu tai i'w rhentu. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad a'r cynigion canlynol i'w cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol:-

 

5.1

cynyddu cyfartaledd y rhent tai yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (targed pen isaf) h.y. :-

·         Bydd eiddo 'rhenti targed' yn cynyddu gan 3.5% (Mynegai Prisiau Defnyddwyr + 0.5%)

·         Bydd eiddo lle mae'r rhent yn is na'r rhenti targed yn cynyddu gan 3.5% (Mynegai Prisiau Defnyddwyr + 0.5%) yn ogystal â'r cynnydd mwyaf posibl o £1.62

·         Bydd eiddo sy'n uwch na'r rhent targed yn cael eu rhewi hyd nes iddynt ddod yn unol â'r targed

gan arwain felly at gynnydd cyfartalog yn y rhent o 4.34% neu £3.55, gan lunio Cynllun Busnes cynaliadwy sy'n cynnal STSG+ ac yn darparu adnoddau i'r Rhaglen Tai Fforddiadwy, fel y cefnogir gan Gr?p Llywio Safon Tai Sir Gaerfyrddin;

5.2

Gweithredu'r cynnydd mwyaf posibl o £1.62 ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti targed, hyd nes y cyrhaeddir y rhenti targed;

5.3

Rhoi'r Polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

5.4

Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

 

 

 

Dogfennau ategol: