Agenda item

SYMUD YMLAEN YN SIR GAERFYRDDIN - Y 5 MLYNEDD NESAF.

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod y Bwrdd Gweithredol wedi paratoi cynllun a oedd yn amlinellu ei gynigion o ran symud Sir Gaerfyrddin yn ei blaen dros y pum mlynedd nesaf.  Roedd y cynllun yn amlinellu dyheadau'r Bwrdd Gweithredol ac yn nodi nifer o brosiectau a rhaglenni allweddol y byddai'n ymdrechu i'w cyflawni yn ystod cyfnod y weinyddiaeth bresennol. 

 

Roedd y cynllun yn ceisio gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol yn y sir yn barhaus, gan sicrhau bod trigolion, cymunedau, sefydliadau a busnesau yn cael eu cefnogi a'u galluogi i ddatblygu a ffynnu. 

 

Bydd Strategaeth Gorfforaethol y cyngor, sy'n cael ei datblygu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn cynnwys prif brosiectau a rhaglenni y cynllun hwn.  Bydd adroddiadau ac argymhellion manwl ynghylch prosiectau a rhaglenni penodol yn cael eu cyflwyno drwy broses ddemocrataidd y cyngor dros y pum mlynedd nesaf er mwyn symud ymlaen â'r ymrwymiadau hyn.

 

Cyfeiriwyd at dudalen 21 a'r ffaith y dylai'r is-bennawd nodi Diwylliant a Hamdden ac y dylai pwynt 63 ar yr un dudalen gael ei newid i gynnwys cyfeiriad at ddatblygu Oriel Myrddin.  Hefyd, cyfeiriwyd at dudalen 10 a gofynnwyd am gael cynnwys y gair “felly” ar ôl y flwyddyn 2019.

 

Dywedodd y Cynghorydd D.M. Cundy, yn unol â RhGC 11.1, ei fod yn credu bod y ddogfen hon a'r gyfres o ddyheadau yn eithriadol o bwysig i'r holl gyngor, ond er ei bod yn eang iawn, bod diffyg manylion a'i bod yn amlwg yn “sgerbwd” a fydd yn cynnal corff sylweddol o waith.  Gan mai dyma'r achos, gofynnodd a fyddai'n bosibl i Aelodau'r Bwrdd Gweithredol a'u timau roi cyflwyniadau, ar amserau a bennir ymlaen llaw, i'r Cyngor Llawn, er mwyn rhoi ychydig mwy o gig ar yr asgwrn o ran manylion ynghylch yr hyn sydd i'w gyflawni, fel y gall y Cynghorwyr fod yn rhan o'r broses weithredu o ran sut a phryd y bydd y dyheadau hyn yn cael eu gwireddu ar gyfer eu cymunedau.

 

Esboniodd yr Arweinydd fod yr ateb i'w gael yng nghrynodeb gweithredol yr adroddiad.  Mae'r Bwrdd Gweithredol wedi amlinellu ei gynigion o ran symud Sir Gaerfyrddin yn ei blaen dros y pum mlynedd nesaf.  Mae'n gipolwg ar ble rydym ni'n dymuno bod ymhen pum mlynedd.  Mae'r strategaeth gorfforaethol yn ategu hyn, er mwyn sicrhau bod modd cyflawni'r nodau hynny.  Ychwanegodd ei bod yn bosibl na fydd y cynllun yn gweithio wrth inni symud ymlaen, ond bydd y nodau yn aros yr un peth.  Mae'n rhaid i'r cynllun fod yn hyblyg gan y bydd pethau'n newid wrth inni symud ymlaen, ac efallai y bydd yn rhaid ailflaenoriaethu rhai prosiectau.  Mae'n rhaid cael hyblygrwydd.  Esboniodd fod cyllido yn broblem hefyd a chan fod y gyllideb ar gyfer teithio llesol wedi'i thorri'n sylweddol, bydd yn fwy anodd.  Mae'n parhau i fod yn uchelgais a bydd yn rhaid i'r cynllun newid a chael ei roi yng nghyd-destun y cyllid a fydd ar gael. Gan nad oeddem yn gwybod am y cyllid, roedd yn anodd pennu cynlluniau ar y dechrau a bydd yn rhywbeth a fydd yn datblygu wrth inni symud ymlaen.  Wrth gloi, ailbwysleisiodd yr Arweinydd y bydd manylion ac argymhellion mewn perthynas â phrosiectau a rhaglenni penodol yn dod drwy'r broses ddemocrataidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR, yn amodol ar gynnwys y newidiadau a nodwyd uchod, fod Cynllun y Bwrdd Gweithredol ynghylch Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin dros y pum mlynedd nesaf yn cael ei gymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: