Agenda item

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN 2006-2021 - ADRODDIAD ADOLYGU

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar y cynigion ar gyfer adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol yn unol â phenderfyniad y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017 (gweler cofnod 10.3). Nodwyd bod yr Adroddiad Adolygu yn manylu ynghylch maint y newidiadau oedd angen eu gwneud i'r Cynllun Datblygu Lleol ynghyd â'r weithdrefn adolygu i'w dilyn wrth baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer cyfnod cynllun hyd at 31 Mawrth 2033. Cafodd yr Adroddiad Adolygu ei lywio gan ganfyddiadau'r Adroddiadau Monitro Blynyddol blaenorol (gan gynnwys adborth ar weithredu'r Cynllun Datblygu Lleol presennol) ac arolygon parhaus. Argymhellwyd bod adolygiad llawn o'r cynllun yn cael ei gynnal am y prif resymau canlynol:-

-        Sicrhau bod y cynllun diwygiedig yn cael ei fabwysiadu cyn i'r Cynllun Datblygu Lleol presennol ddod i ben ar ddiwedd 2021;

-        Cydnabod canlyniadau'r Adroddiadau Monitro Blynyddol, yn benodol lle'r oedd yn nodi methiannau yn y gwaith o gyflawni strategaeth y Cynllun Datblygu Lleol, y fframwaith aneddiadau a dosbarthiad gofodol twf. Yn hynny o beth roedd angen ystyried lefel y twf a'i ddosbarthiad gofodol er mwyn sefydlu p'un ai'r strategaeth bresennol oedd yr un fwyaf priodol ar gyfer cyflawni twf hyd at 31 Mawrth 2033;

-        Sicrhau bod goblygiadau Rhagamcanion Poblogaeth ac Aelwydydd Is-genedlaethol yr Awdurdod Lleol ar sail 2014 a'r amrywiant sylweddol mewn newid yn y boblogaeth a gofynion aelwydydd a nodwyd yn cael eu hystyried yn drylwyr. Roedd angen deall goblygiadau'r rhagamcanion diwygiedig hyn, a'u hystyried yng nghyd-destun Sir Gaerfyrddin a chreu swyddi, twf a mewnfuddsoddi (gan gynnwys adfywio trwy'r Fargen Ddinesig). Byddai cyflawni hynny yn golygu adolygu'r dull strategol a gyflwynwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at bwysigrwydd adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol a mynegwyd y farn y dylid gofyn i'r Bwrdd Gweithredol drefnu bod aelodau yn cael cyflwyniad ar y cynigion.

·        Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y ffaith fod y Cynllun Datblygu Lleol presennol yn darparu ar gyfer 15,187 o dai a bod rhagamcanion Llywodraeth Cymru yn lleihau'r ffigur hwnnw i 3,000. Mynegwyd pryder ynghylch lefel y lleihad a ph'un a oedd rhagamcanion Llywodraeth Cymru yn gywir, gyda golwg ar lefel y datblygu arfaethedig ar gyfer y sir, yn enwedig yn ardal Llanelli gyda'r gwaith o greu'r Ganolfan Llesiant a datblygiadau arfaethedig eraill sydd, gyda'i gilydd, yn dod i gyfanswm o dros 1800 o unedau.

 

Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio, tra bod rhagamcanion Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar dueddiadau ac nad oeddent yn rhoi ystyriaeth i ymyriadau polisi gan y Cyngor, bod modd i'r Cyngor herio'r rheiny a ffurfio ffigurau mwy priodol ar gyfer y sir.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd at y dyraniad arfaethedig a dywedodd, tra bod y ffigur yn seiliedig ar ddemograffeg, nad oedd yn cynrychioli'r angen yn y sir am dai preswyl/ymddeol a gwahanol fathau o ddeiliadaeth. Fel awdurdod tai lleol roedd y Cyngor yn asesu'r farchnad dai leol yn rheolaidd i gael gwell dealltwriaeth o'r mathau o dai sydd eu hangen, sydd wedyn yn cael ei hadlewyrchu mewn cynlluniau strategol.

 

Mynegodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y farn fod y dyraniad arfaethedig yn amcangyfrif rhy isel o'r galw sydd yn y Sir ac y byddai ffigur o gwmpas 8,000 o unedau preswyl, wedi'u gwasgaru ar draws y sir, yn fwy priodol. Gallai unrhyw ddyraniad o gwmpas y rhagamcaniad diwygiedig fod yn rhwystr i ddatblygu.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi y Pwyllgor fod cryn dipyn o adfywio a datblygu'n digwydd o ganlyniad i ddatblygiadau tai sydd, yn ei dro, yn cael ei ail-fuddsoddi yn y Sir. Roedd yn annhebygol nad oedd y rhagamcaniad tai diwygiedig yn rhoi ystyriaeth i'r holl brosiectau adfywio a gynigir ar hyn o bryd ar gyfer y sir, neu'r ffaith fod adeiladwyr tai yn mynd ati i dargedu Sir Gaerfyrddin ar gyfer datblygu.

·        Cyfeiriwyd at hierarchaeth y Cyngor ar gyfer datblygu ar draws y sir, a osodir mewn pedair ‘haen’ glir. Tra bod y dystiolaeth yn cefnogi'r ffaith fod haenau 1 a 4 yn cyflawni'r disgwyliadau o ran datblygu, nid oedd hynny'n wir am haenau 2 a 3. Mynegwyd y farn y dylai'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig alluogi datblygiadau i ddigwydd ym mhob un o'r pedair haen.

 

Atgoffodd y Rheolwr Blaen-gynllunio y Pwyllgor y byddai angen i'r Cyngor, wrth ddatblygu'r Cynllun, roi sylw i'r Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol. Fodd bynnag, roedd y ffordd yr oedd y Cynllun yn darparu ar gyfer aneddiadau ac yn cefnogi cymunedau lawn cyn bwysiced.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y prif gynllun datblygu arfaethedig ar gyfer Canol Tref Llanelli, dywedodd y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi fod y gwaith yn mynd rhagddo gyda'r bwriad o'i gyflwyno i Fforwm y Dref. Pe bai'r prif gynllun yn cael cefnogaeth y Fforwm, byddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor er mwyn ei ystyried.

 

Yn deillio o'r uchod, cyfeiriwyd at y cynigion datblygu sylweddol ar gyfer y Ganolfan Llesiant a datblygiadau eraill yn yr ardal. Mynegwyd y farn, gan y gallai'r datblygiadau hynny effeithio ar ganol y dref, a'i hisadeiledd, ei bod yn hollbwysig fod holl elfennau'r prif gynllun yn cydblethu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi fod Strategaeth Drafnidiaeth wedi'i datblygu i asesu effaith bosibl datblygiadau o'r fath ar Ganol y Dref, a fyddai'n cael eu hystyried fel rhan o'r gwaith o ffurfio'r prif gynllun a sicrhau hyfywedd unrhyw gynigion adfywio ar gyfer Canol Tref Llanelli yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL/CYNGOR:

 

9.1

Bod Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin 2006-2021 yn cael ei dderbyn a bod adolygiad llawn o'r Cynllun yn cael ei gynnal

9.2

Bod Seminar ar yr Adroddiad Adolygu yn cael ei drefnu ar gyfer yr Aelodau.

 

Dogfennau ategol: