Cofnodion:
Gadawodd yr Is-bwyllgor Neuadd y Sir, Caerfyrddin, am 9.35 a.m. ac ailymgynnull am 11.15 a.m. ar y safle yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, gan fynd heibio nifer o eiddo gwrthwynebwyr ar y ffordd, er mwyn gweld yr eiddo a chael cyfle i archwilio'r cyfleusterau mewnol ac allanol. Ar ôl i'r ymweliad â'r safle ddod i ben, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 1.30 p.m. i ystyried y cais.
Rhoddodd y Cyfreithiwr Cynorthwyol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod.
Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor bod cais wedi dod i law gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am drwydded safle mewn perthynas â'r safle uchod i ganiatáu'r canlynol.
Dramâu, ffilmiau, digwyddiadau chwaraeon dan do, bocsio a reslo,
perfformio dawns, ac unrhyw beth tebyg, o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 08:00 a 23:00.
Cerddoriaeth fyw, cerddoriaeth a recordiwyd a chyflenwi alcohol o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 08:00 ac 01:00.
Lluniaeth hwyrnos o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 23:00 ac 01:00
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A – copi o'r cais
Atodiad B – sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu
Atodiad C – sylwadau Heddlu Dyfed-Powys
Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd
Atodiad E – sylwadau gan bobl eraill.
 chytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o ddogfennau ychwanegol i'r Is-bwyllgor a oedd yn cynnwys newidiadau yn yr oriau y gwnaed cais amdanynt ac amodau ychwanegol a gynigiwyd gan yr Awdurdodau Cyfrifol a chynllun yn nodi lleoliadau eiddo'r gwrthwynebwyr mewn perthynas â'r safle/eiddo yn y cais.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad B i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwyddedu Arfaethedig Drafft y cyfeirir atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad C i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwyddedu Arfaethedig Drafft y cyfeirir atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau fel y manylwyd arnynt yn Atodiad D i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwyddedu Arfaethedig Drafft y cyfeirir atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch y sylwadau a wnaed.
Wedyn, cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan rai o'r bobl eraill a oedd yn mynegi pryderon ac/neu'n gwrthwynebu caniatáu'r drwydded safle am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Atodiad E.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
Wedyn bu i'r ymgeiswyr ymateb i'r pryderon a'r materion a godwyd.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
Yna bu i'r Is-bwyllgor
BENDERFYNU'N UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried y dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, fel y'i diwygiwyd, a hynny'n unol â'r amodau trwyddedu ychwanegol roedd yr ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol wedi cytuno arnynt.
Y RHESYMAU:-
Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y sylwadau ysgrifenedig a wnaed, yn ogystal â'r dystiolaeth a gyflwynwyd. Roedd hefyd wedi rhoi ystyriaeth i'r paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r Cyfarwyddyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref, a'r rheiny a oedd wedi'u cyfeirio at ei sylw gan y partïon eraill.
Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;
Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Awdurdodau Cyfrifol.
Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.
Nododd yr Is-bwyllgor y pryderon a fynegodd y trigolion lleol mewn perthynas ag effaith caniatáu'r cais ar y gymuned leol o ran cerddoriaeth uchel a s?n arall yn dod o'r eiddo trwyddedig, mwy o draffig ar y ffyrdd lleol, goryrru a phroblemau eraill yn ymwneud â thraffig, a chynnydd mewn troseddau ac anhrefn ar y safle trwyddedig ac o'i gwmpas. Derbyniodd yr Is-bwyllgor fod pryderon y trigolion lleol yn rhai diffuant.
Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i'r amodau trwyddedu y cytunwyd arnynt rhwng yr Ymgeisydd a'r Awdurdodau Cyfrifol. Nodwyd eu bod yn cynnwys darpariaethau manwl o ran systemau teledu cylch cyfyng, goruchwylwyr drysau a gwerthu alcohol. Roeddynt hefyd yn cynnwys amodau ynghylch y lefelau s?n a fydd yn dod o gyngherddau awyr agored, yn ogystal â gorfod cyflwyno a chytuno ar gynllun rheoli s?n â'r awdurdod lleol cyn pob cyngerdd awyr agored. Yn ogystal, roedd yr amodau y cytunwyd arnynt hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd:-
(1) Paratoi Cynllun Rheoli Digwyddiad ar gyfer pob digwyddiad a oedd yn cynnwys darparu adloniant rheoledig yn yr awyr agored neu mewn strwythur dros dro ar y safle;
(2) Cyflwyno'r Cynllun Rheoli Digwyddiad i adain Iechyd yr Amgylchedd a'r adain Trwyddedu ar gyfer digwyddiadau a gynhelir y tu allan i'r ardal sydd wedi'i lliwio, ac ar gyfer digwyddiadau y tu fewn i'r ardal sydd wedi'i lliwio a fwriedir ar gyfer mwy na 2,500 o bobl, a hynny o leiaf 4 mis cyn cynnal y digwyddiad (oni bai bod y cyfnod hwn yn cael ei leihau drwy gytundeb â'r awdurdod trwyddedu) i'w gymeradwyo ac er mwyn cynnal y digwyddiadau hyn yn unol â'r cynllun a gymeradwywyd.
Byddai'r Awdurdod yn disgwyl i'r Cynlluniau Rheoli Digwyddiad hyn gynnwys, ymysg elfennau eraill, gynllun rheoli traffig, cynllun rheoli s?n, asesiadau risg iechyd a diogelwch, polisi alcohol a chyffuriau a manylion ynghylch y trefniadau diogelwch a stiwardio, er enghraifft. Mae'r amodau hyn y cytunwyd arnynt yn lleddfu'r pryderon a fynegwyd gan y trigolion lleol i raddau helaeth.
Er bod rhai o'r trigolion lleol wedi darparu tystiolaeth ynghylch clywed digwyddiadau'n cael eu cynnal ar y safle, goryrru a phroblemau eraill yn ymwneud â thraffig yn yr ardal leol a chlywed am ddathliadau priodas gwyllt yn yr Ardd Fotaneg, prin oedd y dystiolaeth o'r problemau blaenorol. Nid oedd yr Is-bwyllgor o'r farn bod y dystiolaeth hon yn ddigonol i ddangos bod barn yr Awdurdodau Cyfrifol ar y mater hwn yn anghywir.
Oherwydd diffyg tystiolaeth i ddangos bod gweithgareddau trwyddedig yn yr Ardd Fotaneg yn y gorffennol wedi cael effaith negyddol ar y gymuned leol, neu gyngor arbenigol i ddangos y bydd natur, lleoliad a hyd y gweithgareddau trwyddedig arfaethedig, yn ôl yr hyn sy'n debygol, yn achosi niwsans cyhoeddus neu gynnydd mewn troseddau ac anhrefn, roedd yr Is-bwyllgor o'r farn y byddai gwrthod y cais ar sail pryderon y trigolion yn anghymesur ac yn amhriodol.
Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon, ar sail y dystiolaeth a roddwyd, na fyddai caniatáu'r cais, yn amodol ar yr amodau trwyddedu y cytunwyd arnynt rhwng yr ymgeisydd a'r awdurdodau cyfrifol, yn tanseilio unrhyw un o'r amcanion trwyddedu. Hefyd roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon fod yr amodau hynny yn briodol er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ac yn ymateb cymesur i natur, lleoliad a hyd y gweithgareddau trwyddedig arfaethedig.
________________________ __________________
Y CADEIRYDD DYDDIAD
1.1.
Dogfennau ategol: