Agenda item

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE - CHILLIES DINER & MOJITOS BAR, 17-21 STRYD COWELL, LLANELLI, SA15 1YA.

Cofnodion:

Ystyriodd yr Is-bwyllgor gais gan Morgan & John Leisure Ltd am amrywio trwydded safle Chillies Diner & Mojitos Bar, 17–21 Stryd Cowell, Llanelli                    SA15 1YA fel a ganlyn:-

 

Cyflenwi Alcohol/Ffilmiau:   Dydd Llun – Dydd Iau, 09:00 – 00:30

                                            Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, 09:00 – 03:00

 

Cerddoriaeth Fyw:               Dydd Llun – Dydd Sul, 09:00 – 23:30

 

Cerddoriaeth a recordiwyd: Dydd Sul – Dydd Iau, 09:00 – 00:30

                                            Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, 09:00 – 03:00

 

Lluniaeth hwyrnos:              Dydd Sul – Dydd Iau, 23:00 – 00:30

                                            Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, 23:00 – 03:00

 

Amserau Ansafonol:- caniatáu'r holl weithgareddau uchod ac eithrio cerddoriaeth fyw, ar 12 achlysur y flwyddyn tan 03:30

 

Roedd y drwydded safle bresennol yn caniatáu:- 

 

Cyflenwi Alcohol/Ffilmiau/Cerddoriaeth a recordiwyd:- Dydd Llun – Dydd Sul, 10:00 – 00:15

Cerddoriaeth Fyw: Dydd Llun – Dydd Sul, 10:00 – 23:30 (ar hyd at 24 achlysur y flwyddyn)

Lluniaeth hwyrnos:  Dydd Llun – Dydd Sul, 23:00 – 00:15

Oriau Agor: Dydd Llun – Dydd Sul, 09:00 – 00:30

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y ddogfennaeth ychwanegol a ddosbarthwyd yn y cyfarfod sef dogfennaeth gan yr ymgeisydd yn newid ei gais gan gael gwared ar yr elfennau hynny oedd yn ymwneud â chwarae cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth a recordiwyd.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr adroddiad gan nodi manylion y cais, fel y'u hamlinellwyd uchod, a dywedodd fod y dogfennau canlynol hefyd wedi'u hatodi iddo:-

·        Atodiad A – copi o'r cais

·        Atodiad B – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

·        Atodiad C – Sylwadau gan Heddlu Dyfed Powys, fel y cytunwyd arnynt â'r ymgeisydd

·        Atodiad D – Sylwadau oedd wedi dod i law gan rai oedd a wnelont â'r mater;

 

Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi cyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, y manylwyd arnynt yn Atodiad B yr Adroddiad, a thynnodd sylw'r Is-bwyllgor at nifer o ffactorau'n ymwneud â hynny. Yn gyntaf, o ran pwynt c), a'r mater o ganiatâd cynllunio'r safle, roedd yr ymgeisydd wedi cadarnhau mai ei fwriad fyddai gofyn am amrywiad i'r caniatâd cynllunio hwnnw mewn perthynas ag unrhyw amrywiad a gâi ei ganiatáu gan yr Is-bwyllgor y diwrnod hwn nw, ac na fyddai'r amrywiad yn cael ei weithredu tan y ceid y caniatâd cynllunio. O ran pwynt f), roedd yr Awdurdod Trwyddedu o'r farn nad oedd geiriad yr amserlen weithredu, a oedd wedi'i chyflwyno fel rhan o'r cais, yn ddigon manwl i'w alluogi i lunio amodau trwyddedu clir y gellid eu gorfodi yn unol ag Adran 18(2)(a) o'r Ddeddf Trwyddedu. Roedd yr ymgeisydd wedi datgan dan bwynt f) fod asesiad risg wedi'i gynnal, ond nid oedd tystiolaeth ddogfennol i ategu'r honiad hwnnw. Felly, roedd ymweliadau safle wedi'u cynnal ganddo ef a chan gynrychiolydd o Is-adran Iechyd y Cyhoedd ar benwythnosau ar wahân i asesu a oedd angen i asesiad o'r fath gael ei gynnal a'i ddogfennu'n ffurfiol. Yn ystod yr achlysuron hynny, canfuwyd mai cerddoriaeth gefndir, isel yn unig oedd y gerddoriaeth a chwaraeid ar y safle. O ganlyniad, roedd trafodaethau wedi'u cynnal â'r ymgeisydd a oedd wedi cytuno i newid ei gais i gael gwared ar yr elfennau'n ymwneud â chwarae cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth a recordiwyd ac felly, ni wnaethid cais am asesiad risg manwl wedi'i ddogfennu. Er y newid hwnnw, gofynnwyd i'r Is-bwyllgor nodi bod y Ddeddf Cerddoriaeth Fyw yn dal i ganiatáu chwarae cerddoriaeth fyw hyd at 11.00 p.m. Er hynny byddai'n dal yn rhaid i unrhyw gerddoriaeth gefndir fod ar lefel isel ac ni fyddai'n caniatáu dim dawnsio.

 

Gyda hynny cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr amodau trwyddedu. Awgrymodd, pe bai'r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu'r amrywiad, y byddai amodau  rhif 1–21 o sylwadau Heddlu Dyfed-Powys (Atodiad C), fel y cytunwyd arnynt gan yr ymgeisydd, yn cael eu hychwanegu at y drwydded amrywio, ac y byddai amodau presennol rhif 1–3, 7 a 9–12 yn cael eu dileu o'r drwydded i osgoi dyblygu.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed. Cyfeiriwyd at gwsmeriaid yn gadael y safle am 3.00 a.m. a gofynnwyd a allai hynny danseilio'r amcanion trwyddedu, ac a oedd unrhyw gamau wedi'u cymryd i asesu unrhyw effaith bosibl. Dywedodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu gan fod yr asesiad a awgrymwyd ynghylch effaith s?n yn berthnasol yn unig i chwarae cerddoriaeth yn uchel, ac nid i gwsmeriaid yn cyrraedd/gadael y safle, nad oeddid wedi gofyn am asesiadau pellach. Hefyd, roedd penderfyniad yr ymgeisydd i ddileu o'i gais yr elfen yn ymwneud â chwarae cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth a recordiwyd wedi golygu nad oedd angen rhagor o fonitro.

 

Gyda hynny cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan ddau barti oedd a wnelont â'r mater ac a oedd yn gwrthwynebu amrywio'r drwydded safle am y rhesymau canlynol.

 

·        Roedd darpar denantiaid yn aml yn holi am amser cau y safle.  Er y gellid ar hyn o bryd roi sicrwydd i ddarpar denantiaid y byddai'r safle'n cau am 12.30 a.m., pe câi'r amser cau ei estyn i 3.00 a.m, gallai hyn fod yn ddatgymhelliad i ddarpar denantiaid.

·        Roedd preswylwyr presennol wedi mynegi pryderon am s?n posibl yn sgil pobl yn gadael y safle am 3.00 a.m. ac yn peri ymddygiad gwrthgymdeithasol, ynghyd ag effaith mwg sigaretau yn codi o'r palmant i unrhyw ffenestri a fyddai ar agor ar y llawr cyntaf.

·        Gallai olygu bod landlordiaid yn colli tenantiaid a gallai fod yn anodd gosod yr eiddo gwag a fyddai'n deillio o hyn pe caniateid cau am 3.00 a.m.

·        Er nad oedd y landlordiaid wedi cael cwynion am weithredu presennol y safle, roedd cwynion wedi dod i law am y defnydd blaenorol, gan gynnwys chwarae cerddoriaeth yn uchel, cwsmeriaid yn ymgynnull ar y palmant y tu allan, fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

·        Roedd gan amryw o'r preswylwyr blant bach ac roedd y preswylwyr yn teimlo'n ofnus wrth adael y safle;

·        Roedd y brydles yr oedd yr ymgeisydd yn ddeiliad arni yn gwahardd unrhyw newid yn y defnydd heb ganiatâd penodol ymlaen llaw gan y landlord. Ni wnaethid cais am newid defnydd, ac ni fyddid yn ei ganiatáu pe bai'r safle'n aros ar agor tan  3.00 a.m. Hefyd byddai'r landlordiaid yn gwneud cais am fforffedu'r brydles pe bai'r ymgeisydd yn gweithredu dan yr amrywiad y gofynnid amdano.

 

Rhoddwyd cyfle i bob parti holi'r gwrthwynebwyr am eu sylwadau pryd yr oeddent wedi cadarnhau nad oedd cwynion penodol wedi'u cyflwyno i'r landlordiaid ynghylch gweithrediad y safle presennol.

 

Mewn ymateb i'r uchod, anerchodd yr ymgeisydd yr Is-bwyllgor gan gyflwyno'i sylwadau a oedd yn cynnwys y canlynol:-

 

·        Pan agorodd yr ymgeiswyr y safle i gychwyn, nid oeddent wedi bwriadu agor y tu hwnt i'r oriau a ganiateid. Fodd bynnag, ar ôl masnachu am 3 mis, daeth yn amlwg fod angen agor y tu hwnt i'r oriau hynny er mwyn i'r busnes barhau.

·        Roedd y safle'n gweithredu fel bwyty a bar coctels yn bennaf gyda'r nod o ddenu pobl 26 oed neu h?n;

·        Byddai rhai cwsmeriaid yn dymuno aros yn y safle'n hwy ond ar hyn o bryd roedd yn rhaid iddynt adael am 12.30am;

·        Nid oedd yn fwriad gan y perchenogion ddenu cwsmeriaid iau gan fod safleoedd eraill yng nghanol y dref yn darparu cyfleoedd dawnsio a cherddoriaeth uchel.

·        Nid ystyrid y byddai cau am 3.00 a.m. yn cael effaith andwyol ar breswylwyr gan fod safleoedd eraill cyfagos a oedd yn chwarae cerddoriaeth yn uchel ac yn cau am 2.00 a.m.;

·        Byddai'r perchenogion yn sicrhau bod stiwardiaid ar ddyletswydd i fonitro'r cwsmeriaid wrth iddynt gyrraedd/adael y safle.

·        Ar hyn o bryd roedd 2 aelod o'r staff yn byw yn y llety preswyl uwchben y safle ac nid oeddent hwy wedi profi unrhyw niwsans s?n.

·        O ran mwg sigaretau'n treiddio i'r fflatiau ar y llawr cyntaf, roedd yn bosibl mai'r bobl oedd yn mynd i'r caffis cyfagos ac yn ysmygu ar y brif ffordd oedd i gyfrif am hynny ac nid oedd ganddo ef unrhyw reolaeth ar yr arfer hwnnw;

·        Fel busnes, gwneud elw oedd y prif nod. Roedd yr oriau presennol yn cyfyngu ar y gallu i wneud hynny, a'r unig ffordd i wella oedd aros ar agor yn hwyrach ar nos Wener a nos Sadwrn. Felly, dim ond ar gyfer y 2 ddiwrnod hynny  yr oedd y cais am amrywiad yn gofyn am gau am 3.00 a.m. a hynny hefyd o barch tuag at y preswylwyr.

·        Derbynnid y byddai angen caniatâd cynllunio i agor yn hwyrach, pe caniateid yr amrywiad.

·        Byddai trafodaethau'n cael eu cynnal â'r landlordiaid i geisio dod i gytundeb â hwy ar agor yn hwyrach pe caniateid yr amrywiad;

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r ymgeisydd ynghylch y sylwadau a wnaed. Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd yr ymgeisydd y byddai'n defnyddio goruchwylwyr drysau bob nos Wener a bob nos Sadwrn wedi 10.00 p.m. (ac yn gynharach pe bai angen ar achlysuron arbennig megis gêmau rygbi rhyngwladol) er mwyn rheoli mynediad i'r safle a gofyn i gwsmeriaid fod yn barchus tuag at breswylwyr wrth adael. O ran gweithredu ei safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cadarnhaodd fod hwnnw ar agor tan 4.00 a.m. ac er bod yr Heddlu wedi cyflwyno sylwadau ar y gweithredu cyffredinol yng nghanol y dref yn yr oriau mân, nid oedd materion wedi'u nodi a oedd yn benodol yn gysylltiedig â'i eiddo ef ac nid oedd erioed wedi cael rhybudd terfynol.

 

Ar hynny,

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ar ôl ystyried paragraffau perthnasol Datganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r Cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant,                      y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am amrywio Trwydded Safle Chillies Diner and Mojitos Bar, 17-21 Stryd Cowell, Llanelli yn amodol ar yr elfennau canlynol:-

 

  1. Caniatáu gwerthu alcohol a lluniaeth hwyrnos tan 1.00 a.m. ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn a chaniatáu i'r amser cau fod yn 1.30 a.m
  2. Ychwanegu amodau rhif 1–21, yr oedd yr ymgeisydd a'r Heddlu wedi cytuno arnynt, at y drwydded, ond bod geiriad amod 15 yn cael ei newid i ddarllen fel a ganlyn, 'Goruchwylwyr Drysau i fod ar ddyletswydd bob nos Wener a nos Sadwrn ar ôl 11.00 p.m.'
  3. Dileu amodau presennol rhif 1–3, 7 a 9–12 o'r drwydded i osgoi dyblygu.

 

Y RHESYMAU

 

Wrth wneud ei benderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi canfod y ffeithiau canlynol;

 

  1. Nid oedd hanes o gwynion yn cael eu cyflwyno i'r awdurdod trwyddedu ynghylch y safle.

 

  1. Roedd yr ymgeisydd wedi cytuno ar yr amodau trwydded ychwanegol yr oedd yr Heddlu wedi gwneud cais amdanynt ac roedd yr ymgeisydd wedi tynnu ei gais am adloniant rheoledig estynedig yn ei ôl. 
  2. Nid oedd sylwadau wedi dod i law gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd.
  3. Roedd y safle'n union o dan nifer mawr o fflatiau preswyl.
  4. Roedd preswylwyr lleol a'u cynrychiolwyr wedi gwrthwynebu'r cais a hynny ar sail niwsans cyhoeddus.
  5. Roedd preswylwyr lleol wedi dioddef niwsans yn sgil gweithgareddau trwyddedadwy ar y safle yn y gorffennol, ond nid oedd cwynion wedi'u cyflwyno i'r landlordiaid nac i'w hasiantiaid oddi ar i'r ymgeiswyr gymryd y safle drosodd.
  6. Roedd nifer o safleoedd trwyddedig gerllaw a oedd yn cau cyn yr awr derfynol yr oedd yr ymgeiswyr yn gwneud cais amdani.
  7. Nid oedd yr amodau cynllunio na thelerau prydles yr ymgeiswyr yn caniatáu gweithredu'r oriau estynedig y gwnaed cais amdanynt.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Heddlu ac ar absenoldeb unrhyw sylwadau gan wasanaethau Iechyd y Cyhoedd.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon ac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid y cais, lle nad oedd y cyfryw dystiolaeth i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Ym marn yr Is-bwyllgor, roedd tystiolaeth y preswylwyr lleol a'u cynrychiolwyr yn gredadwy ac yn argyhoeddi. Hefyd roedd yr Is-bwyllgor wedi'i fodloni bod niwsans cyhoeddus wedi digwydd yn y gorffennol o ganlyniad i weithgareddau trwyddedadwy ar y safle (er bod yr Is-bwyllgor yn cydnabod nad oedd hynny pan oedd yr ymgeiswyr yn ddeiliaid yno).

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd yr Is-bwyllgor wedi'i argyhoeddi y byddai caniatáu'r cais ar y telerau y gofynnwyd amdanynt yn debygol o newid pwy fyddai'n dod i'r safle a natur gweithredu'r safle.  A dweud y lleiaf, byddai'n denu cwsmeriaid o safleoedd cyfagos oedd yn cau'n gynt. Er bod yr Is-bwyllgor yn nodi'r sicrwydd yr oedd yr ymgeisydd wedi'i roi ynghylch defnyddio staff drysau i reoleiddio'r sefyllfa, ym marn yr Is-bwyllgor yr oedd yn debygol, a dweud y lleiaf, y byddai caniatáu'r cais yn golygu bod pobl yn ymgynnull y tu allan i'r eiddo rhwng 2.00 a.m. a 3.00 a.m. gan geisio cael mynediad iddo. Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn y byddai hynny'n debygol iawn o achosi niwsans cyhoeddus i'r rhai oedd yn byw yn yr adeilad.

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor yn ofalus a ellid defnyddio mesurau rheoli ychwanegol i ymdrin yn ddigonol â'r materion a glustnodwyd. Ym marn yr Is-bwyllgor yr unig ffordd y gellid gwneud hynny fyddai drwy gyfyngu ar awr derfynol y safle er mwyn iddo gau cyn y safleoedd cyfagos y cyfeirid atynt uchod.

 

Yn ôl yr hyn a oedd yn debygol, roedd yr Is-bwyllgor wedi'i fodloni ei bod yn briodol i wrthod y cais fel y'i cyflwynid ond yn lle hynny amrywio'r awr derfynol i 1.30 a.m. ar nos Wener a nos Sadwrn. Roedd yr Is-bwyllgor wedi'i fodloni bod hyn yn briodol er mwyn hyrwyddo'r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus, a'i fod yn ymateb cymesur i'r materion a oedd wedi'u clustnodi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

________________________                                                __________________

Y CADEIRYDD                                                               Y DYDDIAD

 

 

 

 

Dogfennau ategol: