Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2017/18 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ac Adloniant ar gyfer y cyfnod hyd at 30 Mehefin 2017.  Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £376k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £15,727k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £226k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

·        Mewn perthynas â chwestiwn ynghylch y diffyg incwm o £442k a ragamcanwyd yn yr Is-adran Rheoli Datblygu, atgoffodd y Pennaeth Cynllunio'r Pwyllgor o'i sylwadau cynharach yngl?n â'r cynnydd mewn ceisiadau cynllunio a gafwyd ar gyfer chwarter cyntaf 2017/18 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol a'r nifer fawr o geisiadau cynllunio y rhagwelid y byddant yn cael eu cyflwyno i'r awdurdod yn y dyfodol agos a fyddai'n cael effaith gadarnhaol ar lefelau cynhyrchu incwm.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cyllideb 2018/19 ar gyfer y gwasanaethau hamdden, cynghorodd y Pennaeth Hamdden fod gwaith paratoi yn mynd rhagddo yn hynny o beth ac y byddai unrhyw gynigion cyllidebol ar gyfer darparu cyfleusterau hamdden ledled y Sir yn y dyfodol yn ffurfio rhan o'r adroddiad hwnnw i'w ystyried gan y Cyngor.

·        Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â'r tanwariant o £26k ar ddigartrefedd, soniodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd wrth y Pwyllgor am ymagwedd ddiwygiedig yr Awdurdod tuag at ddigartrefedd a gyflwynwyd sawl blwyddyn yn flaenorol a'r newid mewn pwyslais o gyflwyno gwasanaeth ymatebol i wasanaeth ataliol. Roedd y newid hwnnw, trwy ddefnyddio stoc dai'r Cyngor a stoc dai'r sector rhentu preifat, wedi arwain at leihau lleoliadau gwely a brecwast brys o 50 yr wythnos i tua phedwar bob chwarter ynghyd â lleihad yn y gyllideb gwely a brecwast brys o £600k i £10k dros y deng mlynedd diwethaf.

·        Cyfeiriwyd at y sylw a roddwyd yn y wasg yn ddiweddar ynghylch y posibilrwydd na fyddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ymuno fel partner yn y Fargen Ddinesig. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr effaith bosibl y gallai hynny ei chael ar hyfywedd y Fargen yn y dyfodol, yn enwedig o safbwynt unrhyw gynlluniau arfaethedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin e.e.  Llynnoedd Delta. 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod yr erthygl ddiweddar yn y wasg yn cyfeirio at y ffaith nad yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot mewn sefyllfa, ar hyn o bryd, i gymeradwyo'r trefniadau Cydlywodraethau ar gyfer y Fargen Ddinesig. Roedd y trafodaethau yngl?n â'r trefniadau hynny yn mynd rhagddynt a'r gobaith oedd y dylent fod wedi'u cwblhau'n derfynol erbyn diwedd y flwyddyn.

Cyfeiriwyd at y gorwariant o £331k a ragamcanwyd ym maes gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio ar gyfer y stoc tai cyhoeddus, a bod hynny yn rhannol oherwydd bod mwy o foeleri'n methu a bod rhaid gosod rhai newydd. Gofynnwyd am eglurhad yngl?n ag a oedd problem benodol wedi'i nodi mewn perthynas â'r boeleri.

Cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd nad oedd problem benodol wedi'i nodi, ond y gallai'r cynnydd anarferol mewn achosion o foeleri'n methu fod o ganlyniad i draul yn unig, a fyddai'n arferol mewn stoc dai â mwy na 9,000 o dai. Fodd bynnag, roedd Adran yr Amgylchedd yn archwilio proffiliau'r achosion o foeleri'n methu ac yn ystyried p'un a ddylid eu hamnewid yn ôl amserlen gylchol neu wrth i foeleri unigol fethu. Rhagwelwyd y byddai adroddiad ar y trefniadau cyllidebol diwygiedig a fyddai'n rhoi sylw i hynny yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn y Flwyddyn Newydd fel rhan o'r broses gyllidebol.

·        Cadarnhaodd y Pennaeth Tai, mewn ymateb i gwestiwn ynghylch ôl-ddyledion rhent, fod gan yr Awdurdod drefn ar gyfer dileu ôl-ddyledion rhent cyn-denantiaid ble methodd y gweithdrefnau adennill arian ag adennill y ddyled neu ble nad oedd hi'n economaidd ymarferol gwneud hynny. Fodd bynnag, nid oedd dyled y tenantiaid presennol yn cael ei dileu ac roedd pob ymdrech yn cael ei gwneud i weithio gyda'r tenantiaid i setlo/lleihau unrhyw ddyled.

Cyfeiriodd yntau hefyd at y newidiadau diweddar i fudd-daliadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gredyd Cynhwysol a chynghorodd fod yr Awdurdod wedi cynyddu'r ddarpariaeth ddyled o fewn ei gynllun busnes o £300-£500k i fynd i'r afael â'r cynnydd a ragwelid mewn ôl-ddyledion a allai godi o'r newidiadau hyn. O ganlyniad i gyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin roedd lefel y dyledion/ôl-ddyledion a oedd gan denantiaid ar gyfartaledd yn cyfateb i £700 o gymharu â'r swm blaenorol sef £200.  Dywedodd fod yna ragweld y gallai cyflwyno'r Credyd Cynhwysol yn llawn gael effaith fawr ar y Cynllun Busnes Tai, ac felly roedd y swyddogion wrthi'n ymdrechu i nodi mesurau i liniaru'r effaith honno. Gallai'r rheiny gynnwys gofyn am i daliadau rhent gael eu gwneud yn uniongyrchol i'r Awdurdod. Fodd bynnag, dim ond ar ôl i'r tenant fod ar y system newydd am ddau fis y gellid gofyn am hynny. Gallai'r sefyllfa honno gael ei chymhlethu ymhellach gan y ffaith y byddai rhaid i ymgeiswyr newydd am gredyd cynhwysol aros am gyfnod o chwe wythnos cyn derbyn unrhyw daliadau.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2017/18 yn cael ei dderbyn.

 

Dogfennau ategol: