Agenda item

ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNLLUNIO BLYNYDDOL

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Blynyddol yr Is-adran Gynllunio ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2016 – Mawrth 2017. Nodwyd bod llunio'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn un o ofynion y Fframwaith Perfformiad Cynllunio a bod yn rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn er mwyn ei werthuso yn erbyn dangosyddion a thargedau gosod.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cyfeiriwyd at lwyth gwaith yr Is-adran Gynllunio yn erbyn y cefndir o leihad mewn adnoddau staff a gofynnwyd am eglurhad ynghylch ei gallu i barhau i ddarparu'r ystod o wasanaethau yn erbyn y cefndir hwnnw.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio sicrwydd i'r Pwyllgor fod yr adnoddau staffio yn cael eu hasesu'n barhaus mewn ymateb i newid mewn galwadau a deddfwriaeth, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau hyn yn bodloni gofynion yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn y dyfodol. Enghraifft o'r asesu parhaus hwnnw oedd ailstrwythuro'r adain cynllunio a'r adain gorfodi yn ddiweddar. Byddai effaith yr ailstrwythuro hwnnw'n cael ei werthuso, a phe profir bod hynny'n angenrheidiol byddai achos busnes yn cael ei wneud i fynd i'r afael ag unrhyw angen a nodwyd am adnoddau staff ychwanegol.

·        Cyfeiriwyd at dudalennau 79 ac 82 yr adroddiad a chydberthyniad y tablau ynddo, a oedd yn nodi lleihad mewn lefelau incwm ac yn nifer y ceisiadau cynllunio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd yna reswm am y lleihad.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio, tra bod yr Is-adran Gynllunio yn ymdrechu i sefydlu'r lefelau incwm disgwyliedig yn erbyn data hanesyddol, roedd y gwir lefelau incwm a nifer y ceisiadau cynllunio a ddeuai i law y tu allan i'w rheolaeth gan eu bod yn dibynnu ar ystod o ffactorau, yn bennaf yr hinsawdd economaidd.  Roedd yr Is-adran, fodd bynnag, wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau cynllunio ar gyfer chwarter cyntaf 2017/18 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol a rhagwelid y byddai ceisiadau cynllunio pellach yn deillio o'r Fargen Ddinesig yn cynyddu lefelau incwm ymhellach.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch rheoli effaith y lleihad mewn lefelau incwm, dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod yna nifer o opsiynau ar gael i'r is-adran yn hynny o beth gan gynnwys oedi rhag llenwi swyddi gwag/ailstrwythuro i ariannu unrhyw ddiffyg posibl. Hyd yma, roedd unrhyw bosibilrwydd o ddiffyg yn y gyllideb wedi cael ei reoli.

·        Cyfeiriwyd at gyfyngiadau polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol ar ganiatáu cartrefi newydd ar gyfer ffermwyr a'r angen i sicrhau bod darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud i ateb eu gofynion am gael aros ar y fferm a bod yn rhan o'r gymuned leol.

 

Atgoffodd y Pennaeth Cynllunio'r Pwyllgor fod y Cyngor, yn ei gyfarfod ym mis Medi 2017, wedi cytuno i adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol a byddai angen codi'r mater uchod fel rhan o'r broses adolygu.

·        Cyfeiriwyd at dudalen 87 yr adroddiad yngl?n â'r pryder a nodwyd gan aelodau mewn perthynas â chyflwyno rolau a gweithgareddau gorfodi'r Cyngor. Dywedodd y Pennaeth Cynllunio fod yr adroddiad yn nodi gorfodi rheolau cynllunio fel maes sy'n peri heriau arbennig a phenodol, ond bod dadl yn mynd rhagddi ynghylch gorfodi ledled y Sir a oedd yn cynnwys cynllunio, priffyrdd, yr amgylchedd a diogelu'r cyhoedd gyda'r nod o wella'r broses orfodi. Roedd hynny'n cynnwys sut y gallai'r Awdurdod symud problemau penodol yn ymwneud â safleoedd yn eu blaen a pha is-adran fyddai yn y sefyllfa orau yng ngoleuni protocolau presennol a phwerau deddfwriaethol/rheoleiddiol i fynd i'r afael â'r materion hynny.

·        Cyfeiriwyd at yr ardaloedd llifogydd a ddynodwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, effaith ganfyddedig y rheiny fel rhwystr i dwf a ph'un a oedd hi'n bosibl newid y dynodiadau hynny.

 

Cynghorodd y Pennaeth Cynllunio y byddai modd herio'r mapiau llifogydd, ond bod yna oblygiadau o ran cost yn gysylltiedig â hynny. Dywedodd bod yna gyfle i archwilio'r posibilrwydd o gynnwys safleoedd penodol yn hynny gan fod y Cyngor wedi cytuno'n ddiweddar i adolygu ei Gynllun Datblygu Lleol a'r bwriad oedd cyhoeddi cynlluniau yn y Flwyddyn Newydd er mwyn ymgynghori arnynt a rhoi cyfle i'r cyhoedd/datblygwyr ofyn am gael cynnwys safleoedd penodol o fewn y cynllun diwygiedig. Fodd bynnag, pe bai unrhyw rai o'r safleoedd hyn wedi'u lleoli o fewn y mapiau llifogydd dynodedig, byddai rhaid i'r datblygwyr brofi eu potensial o safbwynt datblygu a gallai hynny gynnwys herio'r map llifogydd.

 

CYTUNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a'i anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau sef 31 Hydref.

 

 

Dogfennau ategol: