Agenda item

CYNLLUN STRATEGOL AMGUEDDFEYDD SIR GAERFYRDDIN 2017-2022

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Gynllun Strategol Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin ar gyfer y cyfnod rhwng 2017-2022, a oedd yn disodli'r Blaengynllun Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin 2013-18 blaenorol a gymeradwywyd gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ar 15 Mawrth 2013.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad dywedodd y Pennaeth Hamdden wrth y Pwyllgor y byddai'n ofynnol yn ôl gweithdrefnau adrodd arferol y Cyngor bod y Pwyllgor yn ei ystyried cyn ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol. Fodd bynnag, roedd yn ofynnol yn ôl amserlen achredu allanol yr amgueddfeydd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd mis Hydref 2017 ac felly rhaid oedd i'r Bwrdd Gweithredol ei gymeradwyo ar 31 Gorffennaf 2017. O gael y gymeradwyaeth honno galluogwyd yr Adran i symud y broses achredu yn ei blaen i gydymffurfio â'r amserlen ofynnol. O ganlyniad roedd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor craffu er gwybodaeth ac i gynnig sylwadau arno.

 

Ar hynny cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar y Cynllun, a nodai'r 5 amcan allweddol canlynol i gyflwyno'r weledigaeth o ddarparu gwasanaeth rhagorol erbyn 2022:

·        Nod Strategol 1 – Rheoli a datblygu ein hadnoddau, ein cyfleusterau a'n gweithlu er mwyn bod yn fwy cydnerth ac adeiladu economi gryfach;

·        Nod Strategol 2 – Cael ein cydnabod am ein hymagwedd arloesol tuag at ddatblygu a defnyddio casgliadau amgueddfeydd;

·        Nod Strategol 3 - Creu profiad gwych i ymwelwyr trwy wasanaethau a rhaglenni rhagorol

·        Nod Strategol 4 - Cyflwyno cyfleoedd dysgu creadigol ac sy'n ennyn ysbrydoliaeth i bawb;

·        Nod Strategol 5 - Cefnogi cyfleoedd i hyrwyddo iechyd a llesiant

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·        Cyfeiriwyd at waith y Gwasanaeth Amgueddfeydd a ph'un a oedd yn cael ei gefnogi gan amgueddfeydd preifat/cymunedol eraill yn y Sir neu'n gysylltiedig â hwy.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Amgueddfeydd fod y gwasanaeth yn flaenorol wedi sefydlu Hanes Sir Gâr a oedd yn dod ynghyd ag amrywiol gymdeithasau hanesyddol ac amgueddfeydd preifat a gwrddai'n rheolaidd yn Amgueddfa'r Sir yn Abergwili. Yn ychwanegol, roedd y gwasanaeth yn gweithredu polisi drws agored gan ddarparu cymorth ac arweiniad i'r sector preifat/cymunedol ble bynnag yr oedd yn bosibl.

·        Cyfeiriwyd at uchelgais y Cynllun o ddarparu cyfleuster storio casgliadau canolog i gymryd lle'r trefniadau storio presennol sydd wedi'u gwasgaru ar draws nifer o gyfleusterau ledled y Sir.  Gan y byddai angen cyllid ychwanegol ar gyfer y cyfleuster hwnnw, gofynnwyd am eglurhad yngl?n ag a oedd hwnnw ar waith.

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden bod cyllid allanol wedi'i glustnodi i alluogi gwaith cwmpasu i gael ei wneud i archwilio casgliadau'r Cyngor a pholisïau casglu i asesu maint cyfleusterau storio'r dyfodol. Yn dilyn cwblhau'r gwaith cwmpasu, y cam nesaf fyddai bod yr Awdurdod yn ymgymryd ag asesiad o'i bortffolio eiddo i nodi unrhyw gyfleusterau a allai gael eu haddasu e.e. hen warysau/rhai gwag. Gyda golwg ar gyllid, gwnaed cynigion trwy raglen gyfalaf y Cyngor gyda'r union lefel a oedd yn ofynnol yn dibynnu ar addasrwydd unrhyw eiddo i gael ei addasu i'r safon ofynnol.

·        Cyfeiriwyd at waith y gwasanaeth amgueddfeydd a gofynnwyd am eglurhad yngl?n ag a oedd yn cydweithio â'r adran addysg wrth bennu'r math o arddangosfeydd/arddangosiadau a oedd yn cael eu darparu. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Amgueddfeydd fod hynny'n elfen allweddol o'r rhaglen i ddysgwyr ac, yn hanesyddol, roedd y gwasanaeth wedi gweithio'n agos gyda'r adran addysg yn hynny o beth. Fodd bynnag, roedd yna le i wella rôl y gwasanaeth yn y gwaith o raglennu'r arddangosfeydd er mwyn ffurfio cysylltiadau agos â'r cwricwlwm. 

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch gallu'r gwasanaeth i fod yn hunangynhaliol yn ariannol, atgoffodd y Pennaeth Hamdden y Pwyllgor nad oedd y gwasanaeth yn gallu codi tâl mynediad ar ymwelwyr. Fodd bynnag, roedd yn gallu archwilio llwybrau cynaliadwy eraill er mwyn denu refeniw. Gallai'r rhain gynnwys gwneud gwell defnydd o'i gyfleusterau, er enghraifft cynnal priodasau ym Mharc Howard ac Abergwili a ffurfio cysylltiadau agos rhwng yr amgueddfeydd ac atyniadau lleol eraill megis cysylltu Amgueddfa Abergwili â Llwybr Beicio Dyffryn Tywi a thrwy ddarparu gwell cyfleusterau lluniaeth.

Soniodd y Pennaeth Hamdden hefyd am y gost o weithredu'r gwasanaeth, yn enwedig y costau cynnal a chadw sylweddol sy'n gysylltiedig ag Amgueddfeydd Abergwili a Pharc Howard, a oedd yn derbyn cymhorthdal gan weithgareddau eraill ym mhortffolio'r gwasanaethau Hamdden. Cadarnhaodd, tra byddai pob ymdrech yn cael ei gwneud i gynyddu pob cyfle i godi refeniw, ei bod yn bosibl na fyddai'r gwasanaeth byth yn dod yn hunangynhaliol yn ariannol.

·        Cyfeiriwyd at y canfyddiad nad yw'r gwasanaeth amgueddfeydd yn cael ei farchnata'n ddigonol a ph'un a oedd yna unrhyw gynigion i wella'r modd y caiff ei hyrwyddo yn y gymuned ac mewn lleoliadau twristiaeth eraill. Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y gwasanaeth bob amser wedi gweithredu ar y gynsail o aros i ymwelwyr ddod i'w gyfleusterau, ond bod gwaith yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon trwy fabwysiadu dull tebyg i'r gwasanaeth Llyfrgelloedd lle'r oedd nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu'n sylweddol.
 Roedd hynny'n cynnwys cysylltu ag is-adrannau cyfathrebu a thwristiaeth y Cyngor i wella statws brandio'r amgueddfeydd, a hynny ar-lein i ddechrau.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: