Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD DAVID JENKINS - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADNODDAU

“Wrth i staff gweinyddol gael eu symud o ddepo Glanaman i ddepo Llanelli dros yr wythnosau diwethaf, ac wrth i staff eraill gael eu cwtogi, a allwch chi roi sicrwydd i mi a'r Cyngor fod Depo Glanaman yn ddiogel o dan y weinyddiaeth hon a arweinir gan Plaid”.

Cofnodion:

“Wrth i staff gweinyddol gael eu symud o ddepo Glanaman i ddepo Llanelli dros yr wythnosau diwethaf, ac wrth i staff eraill gael eu cwtogi, a allwch chi roi sicrwydd i mi a'r Cyngor fod Depo Glanaman yn ddiogel o dan y weinyddiaeth hon a arweinir gan Plaid”.

 

Ymateb y Cynghorydd David Jenkins - yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau:-

 

Diolch i chi am eich cwestiwn, y byddaf yn ymateb iddo yn y modd canlynol:

Gwyddoch, fel cyn-Arweinydd y Cyngor, mai dyletswydd y weinyddiaeth bresennol yw gosod y weledigaeth ar gyfer y cyfeiriad y bydd y Sir yn teithio iddo yn y tymor canolig a'r tymor hir.

 

Rydym ni, fel gweinyddiaeth, wedi nodi'n glir bod twf economaidd ac amddiffyn gwasanaethau rheng flaen yn uchel ar ein hagenda.

 

Mae gennym raglen gyfalaf £290 miliwn ar waith ar gyfer y 5 mlynedd nesaf ac, yn ogystal â hynny, yr hyn y byddwn yn ei ennill o raglen Bargen Ddinesig Abertawe ac felly rydym ar y trywydd iawn er mwyn cyflawni ein blaenoriaeth gyntaf.

 

O ran cyflawni ein hail flaenoriaeth, sef amddiffyn y gwasanaeth rheng flaen a gyflwynir, rydym yn wynebu set ddifrifol o heriau sydd o ganlyniad, yn bennaf, i leihad yn y cyllid a dderbyniwn oddi wrth Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar sail amcangyfrif dyfaliad gorau o ostyngiad o 2% yn y Grant Cynnal Refeniw sydd yn cyfateb i doriad o £5 miliwn i'n cyllid sydd ar gael ac o ychwanegu ffactorau dilysu eraill at hyn megis cynnydd posibl o 2% yn ein bil cyflogau, chwyddiant ac effeithiau economaidd eraill rydym yn rhagweld, pan fydd yr holl ffactorau hyn yn cael eu cymryd i ystyriaeth, y byddwn yn edrych ar wneud iawn am ddiffyg o £12 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Ac af ymlaen i ddweud ein bod hefyd yn disgwyl swm tebyg yn y flwyddyn ddilynol a'r flwyddyn ddilynol wedyn, felly rydym yn edrych ar wneud gwerth £36m o doriadau dros y tair blynedd nesaf.

 

Yn wyneb y broblem hon gofynnir i Adrannau gyflwyno cynigion am arbedion gweithredol/rheolaethol er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r diffyg hwn. Cafwyd siarad ers peth amser yn awr yn Adran yr Amgylchedd am Resymoli Depos, trwy'r hyn y byddai modd darparu gwasanaethau o nifer lai o ddepos a fyddai'n arwain at ddefnydd mwy effeithlon o lafur, offer a pheiriannau gan felly arbed arian. Yn ogystal, gallai'r tir a'r adeiladau a fyddai'n cael eu rhyddhau gan y trefniant hwn wedyn fod ar gael at ddefnydd amgen a allai naill ai gynhyrchu ffrydiau incwm, derbyniadau cyfalaf neu gyfleoedd eraill am waith.

 

Os daw'r swyddogion ag agos busnes ymlaen i'r Bwrdd Gweithredol sy'n dangos y gellid gwneud arbedion sylweddol trwy fabwysiadu'r cynnig byddai rhaid i ni, fel Aelodau'r Bwrdd Gweithredol, ystyried o ddifrif yr hyn a roddir ger ein bron. Ac os, ar ôl rhoi ystyriaeth briodol i bob peth o blaid ac yn erbyn y cynnig, y penderfynir cymeradwyo'r cynlluniau, yna gallai'r penderfyniad hwnnw o bosibl arwain at gau un neu fwy o'r depos gwasanaeth presennol.

 

Ar hyn o bryd senario ddamcaniaethol yw hon ond gallai ddod yn realiti, felly ni allaf, ar hyn o bryd, roi'r sicrwydd i chi yr ydych yn ei geisio yn eich cwestiwn.   

 

Gofynnodd y Cynghorydd Madge y cwestiwn atodol canlynol:-

 

Yn ystod y misoedd diweddar mae'r codwyr sbwriel wedi bod yn ymddeol yn Nepo Glanaman, nid oes rhai newydd yn cael eu penodi yn eu lle, ac am y 15 mlynedd diwethaf mae gwaith codi sbwriel ardderchog wedi bod yn digwydd o un pen i'r dyffryn i'r llall. Gallwch fynd i bobman yn awr a gweld sbwriel ym mhobman, felly dyma fy nghwestiwn i chi. Mae pob swydd yn cyfri yn ein hardal ac mae'n amlwg nad oes codwyr sbwriel newydd yn cael eu penodi ac mae'r gwasanaeth yn mynd ar ei waeth, ac felly gofynnaf a ydych yn cydnabod hynny?

 

Ymateb y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau:-

 

Nid wyf yn deall a yw'r aelodau'n deall ein bod yn wynebu talcen caled, fel yr arferem ei ddweud yn y pyllau glo, sef bod rhaid gwneud y penderfyniadau hyn yng ngoleuni'r arian sydd ar gael i ni a rhaid i'r Penaethiaid Gwasanaeth a'r Cyfarwyddwyr chwilio am economïau o fewn eu cyllidebau er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r diffygion hyn, ac rydym yn chwilio am ffyrdd o fod yn effeithlon a ffyrdd newydd o weithio. Rydym yn edrych y tu allan i'r bocs a'r tu mewn iddo, rydym yn edrych ym mhobman am ffyrdd o gyflawni'r arbedion sydd eu hangen i ddarparu cyllideb gytbwys yn y broses o bennu'r gyllideb. Felly, dyna lle'r ydym arni.