Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.G. Prosser a D.E. Williams.
|
|||||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI HURIO PREIFAT - MR JOHN CHARLES GRIFFITHS PDF 122 KB Cofnodion: [NODER: Gan iddo ddatgan buddiant yn eitem hwn yn gynharach, gadawodd Mr Mike Price, Cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr John Charles Griffiths, 3 Talyclun, Llangennech, Llanelli i adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Argymhellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais Mr Charles yn cael ei ganiatáu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr John Charles am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
|
|||||||||||||||||||||||||
TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR WAYNE ROYSTON HALPIN PDF 123 KB Cofnodion: Mr Wayne Royston Halpin, Fflat 8, Soroptimist House, Greenhill Close, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat. Rhoddodd yr ymgeisydd wybod i'r Pwyllgor ei fod wedi symud t? yn ddiweddar i Greenhill House, Greenhill Close, Caerfyrddin.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Halpin ynghylch ei gais a'r materion a godwyd.
Argymhellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais Mr Halpin yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Yna:
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Wayne Royston Halpin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|||||||||||||||||||||||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR RADOSLAW ANDRZEJ WOJTASIAK PDF 123 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Radoslaw Andrzej Wojtasiak, 15 Heol Langland, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Wojtasiak ynghylch ei gais a'r materion a godwyd a chafwyd sylwadau gan gynrychiolydd yr heddlu
Argymhellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais Mr Wojtasiak yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Yna:
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu'r cais a gyflwynwyd gan Mr Radolsaw Andrzej Wojtasiak am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|||||||||||||||||||||||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR JEFFREY JOHN PDF 122 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Jeffrey John, 30 Stafford Street, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr John ynghylch ei gais.
Argymhellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais Mr John yn cael ei wrthod.
Yna:
PENDERFYNWYD cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
(NODER: Ar yr adeg hon, bu i'r Cynghorydd R. Evans ddatgan buddiant, gadawodd Siambr y Cyngor ac ni chymerodd rhan mewn unrhyw benderfyniadau).
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD wrthod y cais a gyflwynwyd gan Mr Jeffrey John am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
RHESYMAU: Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, atebion yr ymgeisydd i'r Pwyllgor a'r ffeithiau a gyfaddefwyd ganddo, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|||||||||||||||||||||||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR ADRIAN RICKY PARRY PDF 122 KB Cofnodion: (NODER: Gadawodd y Cynghorwyr A. Davies a H.I Jones, a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, Siambr y Cyngor tra bod y Pwyllgor yn ystyried y mater).
(NODER: Ymunodd y Cynghorydd T. Evans â'r cyfarfod).
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Adrian Ricky Parry, 10 Dan yr Allt, Felin-foel, Llanelli, am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Parry ynghylch ei gais a'r materion a godwyd.
Argymhellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais Mr Parry yn cael ei wrthod.
Yna:
PENDERFYNWYD cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD wrthod y cais a gyflwynwyd gan Mr Adrian Ricky Parry am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
RHESYMAU: Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, atebion yr ymgeisydd i'r Pwyllgor a'r ffeithiau a gyfaddefwyd ganddo, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|||||||||||||||||||||||||
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR MARK EDWARD JOHN PDF 122 KB Cofnodion: (Noder: Ar yr adeg hon, bu i'r Cynghorydd H.I. Jones ddatgan buddiant a gadawodd Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y mater a phenderfynu arno).
Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Mark Edward John of Cedars, Mount Pleasant, Llangynnwr, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr John ynghylch ei gais a'r materion a godwyd.
Argymhellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais Mr John yn cael ei wrthod.
Yna:
PENDERFYNWYD cynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
(Noder: Ar yr adeg hon bu i'r Cynghorydd W.T. Evans ddatgan buddiant a gadawodd Siambr y Cyngor tra oedd y Pwyllgor yn penderfynu ar y cais).
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD wrthod cais Mr Mark Edwards John.
RHESYMAU Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd Mr John yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded ar hyn o bryd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 19eg Medi, 2017, yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 14 Medi 2017, gan eu bod yn gywir.
|